Gwefan comisiwn elusennau

Y Comisiwn Elusennau yn egluro rolau a chyfrifoldebau bwlio ac aflonyddu

Cyhoeddwyd : 16/08/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi egluro’r cyfrifoldebau perthnasol o ran atal ac ymateb i achosion o fwlio ac aflonyddu mewn elusennau.

Mae hyn yn dilyn gweithgor a gyd-gadeirir gan y rheoleiddiwr sy’n cynnwys amrediad o fudiadau’r sector elusennol a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys CGGC.

Drwy fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu, na ddylai gael eu derbyn yn y sector elusennol ar unrhyw adeg, ceir cydnabyddiaeth gyfunol o’r cyfraniadau sydd eu hangen gan elusennau unigol, arweinwyr ehangach y sector, y rheoleiddiwr, y llywodraeth ac arbenigwyr eraill. Canolbwyntiodd y grŵp ar drafod ac egluro’r rolau a chyfrifoldebau perthnasol hynny ac ar edrych ar ffyrdd y gall y rheini dan sylw gymryd camau i fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu.

RÔL YMDDIRIEDOLWYR

Noda’r Comisiwn bod yn rhaid i Ymddiriedolwyr gydnabod nad oes unrhyw le i fwlio nac aflonyddu o fewn elusennau na chan elusennau. Mae gan ymddiriedolwyr rôl ganolog i’w chwarae o ran sicrhau bod gan eu helusennau bolisïau clir, a bod honiadau yn cael eu trin yn briodol ac yn unol â’r gyfraith cyflogaeth a chyfreithiau eraill. Anogir y rheini sy’n pryderu ynghylch bwlio neu aflonyddu i leisio’u pryderon yn uniongyrchol gyda’r elusen neu ei hymddiriedolwyr lle bynnag y bo’n briodol, ac mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod ganddyn nhw brosesau ar waith i glywed y pryderon hynny a rhoi sylw i’r mater.

Mae canllawiau diogelu’r Comisiwn yn nodi y dylai elusennau â chyflogeion gael polisïau llesiant, disgyblu a chwythu’r chwiban ar gyfer staff, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau clir ar fwlio ac aflonyddu.

O dan drefniadau adrodd digwyddiadau difrifol y Comisiwn, dylai elusennau adrodd y digwyddiadau gwirioneddol neu honiedig mwyaf difrifol o fwlio neu aflonyddu ar unwaith i’r rheoleiddiwr eu hasesu. Gall gweithwyr a gwirfoddolwyr hefyd gyflwyno adroddiadau i’r Comisiwn.

YMYRRAETH GAN Y COMISIWN

Fel rheoleiddiwr seiliedig ar risg sy’n canolbwyntio ar lywodraethiant elusennau, mae’r Comisiwn yn blaenoriaethu eu hymgysylltiad er mwyn mynd i’r afael â’r risg fwyaf o niwed, er enghraifft, ble mae pryderon nad yw ymddiriedolwyr wedi rhoi sylw i achosion o fwlio neu aflonyddu a adroddwyd sy’n broblem eang a systemig o fewn elusen, neu pan fydd pryderon ynghylch materion llywodraethu neu gamreoli posibl.

Mae gan y Comisiwn amrywiaeth o ymatebion posibl i achosion o’r fath, o roi cyngor rheoleiddiol i ymddiriedolwyr i agor ymchwiliad statudol. Mae’n canolbwyntio ar lywodraethiant priodol yr elusen, ac yn ceisio sicrhau bod ymddiriedolwyr yr elusen yn ymateb yn briodol i’r digwyddiadau, gan gynnwys cymryd camau angenrheidiol i atal drygau a niwed pellach.

Nid rôl y Comisiwn yw datrys problemau cyflogaeth unigolion. Fel arfer, dylai materion cyflogaeth gael eu codi gyda’r elusen drwy ei gweithdrefnau cwyno, ac yna ei ddilyn gan gamau gweithredu yn y tribiwnlysoedd cyflogaeth os oes angen. Cyfrifoldeb asiantaethau gorfodi’r gyfraith yw ymchwilio i droseddau honedig a dylid rhannu adroddiadau sy’n ymwneud ag unrhyw fygythiadau i ddiogelwch unigolyn gyda’r heddlu i ddechrau, cyn hysbysu’r Comisiwn maes o law – gan nad y Comisiwn yw’r awdurdod sy’n erlyn.

Mae’r gweithgor yn parhau i gwrdd ac yn edrych ar ffrydiau pellach o waith sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth elusennau, beth sy’n cael ei ystyried yn fwlio neu’n rhywbeth sy’n cyfrannu at fwlio, ynghyd â chynyddu amlygrwydd adnoddau sydd eisoes yn bodoli.

Meddai Paul Latham, Cyfarwyddwr Polisi gyda’r Comisiwn Elusennau:

‘Nid oes unrhyw le i fwlio ac aflonyddu mewn cymdeithas, ac yn bendant, d’oes dim lle iddo yn y sector elusennol. Mewn sector sydd wedi’i wreiddio mewn caredigrwydd a haelioni, mae’r math hwn o ddiwylliant yn annerbyniol.

Rwy’n ddiolchgar i’r arweinyddiaeth a ddangoswyd gan ein grŵp sector ar y mater hwn ac yn falch ein bod wedi gweithio mor gydweithredol i gyfathrebu rôl y Comisiwn ac i danlinellu’r rôl a chwaraeir gan elusennau unigol a’r sector ehangach.

‘Rydyn ni’n glir ein bod ni’n disgwyl i elusennau gymryd camau i atal a rhoi sylw i ddigwyddiadau, ond y byddwn ni’n ymyrryd pan fydd pryderon nad yw ymddiriedolwyr yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau, gan gynnwys o ran diogelu, er mwyn diogelu elusennau a’r sector elusennol ehangach.’

Meddai Jane Ide OBE, Prif Weithredwr ACEVO

‘Nid yw bwlio ac aflonyddu’n dderbyniol mewn unrhyw ran o’n sector nac ar unrhyw lefel ohono. Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio i sefydlu dull dim goddefgarwch o ymdrin â bwlio ac aflonyddu ac i sicrhau bod pawb sy’n gweithio mewn cymdeithas sifil, waeth a ydynt yn staff cyflogedig neu’n wirfoddolwyr, yn teimlo’n ddiogel ac yn uchel eu parch yn eu gwaith.

Rydyn ni’n croesawu’r ffocws gan y Comisiwn Elusennau ar ei rôl fel ein rheoleiddiwr yn y cyd-destun hwn. Mae’r eglurhad a ddarparwyd heddiw ar adrodd digwyddiadau difrifol a’r rôl y bydd – neu na fydd – y Comisiwn yn ei chwarae o dan yr amgylchiadau hynny yn gam defnyddiol.

Ond dim ond un rhan o ymateb ein sector i’r broblem hon yw hyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r Comisiwn a’n cydweithwyr ar draws y gymdeithas sifil i barhau i hysbysu, addysgu a chynorthwyo ein sector i greu diwylliant diogel a chynhwysol i bawb.’

 Mae CGGC yn croesawu eglurhad ar y mater pwysig hwn i’r sector. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan barhaus yng ngwaith y Comisiwn Elusennau yn y maes hwn.

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy