Merch wenu mewn gwisg lliwgar yn llenwi bwced wrth y tap

Y Comisiwn Elusennau yn cyhoeddi rhybudd diogelu i elusennau cymorth tramor

Cyhoeddwyd : 27/07/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi rhybudd rheoleiddio ffurfiol yn annog elusennau cymorth rhyngwladol i fynd i’r afael â’r gwendidau parhaol o ran cadw pobl yn ddiogel.

Yn ôl y datganiad i’r wasg, er bod y sector datblygu rhyngwladol wedi profi cynnydd sylweddol o ran diogelu ers 2018, mae angen cyflawni gwaith pellach i sicrhau “newid trawsnewidiol.

Mae’r rhybudd, a ddosbarthwyd i dros 5,000 o elusennau sy’n gweithio tramor, yn pwysleisio ffyrdd y gall elusennau gryfhau eu hymdrechion i gadw pobl yn ddiogel. Mae’r rhain yn cynnwys ei gwneud yn haws i’r rhai sy’n derbyn cymorth adrodd cyhuddiadau o gamymddwyn a cham-drin a mabwysiadu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y goroeswr wrth ymdrin ag achosion o niwed.

Lluniwyd y mesurau yn dilyn dadansoddi adroddiadau digwyddiadau difrifol a gyflwynwyd i’r Comisiwn yn ddiweddar yn canfod meysydd penodol o wendid neu risg yn ymwneud â diogelu mewn elusennau cymorth rhyngwladol. Maent yn adlewyrchu ymarfer gorau presennol ar draws y sector.

Mae’r Comisiwn yn atgoffa elusennau nad yw diogelu effeithiol “byth wedi’i gyflawni” a bod yn rhaid i bob elusen yn y sector cymorth a’r tu hwnt iddo fod yn effro i risg aflonyddu rhywiol, camfanteisio a cham-drin a dylent fabwysiadu diwylliant sydd wedi’i ymrwymo i fynd i’r afael ag ef.

Yn ogystal â lansio ymchwiliadau amserol i’r cyhuddiadau a gweithredu’n gyflym pan fydd digwyddiadau’n cael eu hadrodd, mae’r rhybudd yn argymell bod elusennau’n ystyried:

  • Ymuno â’r Cynllun Datgelu Camymddwyni helpu i ddiogelu rhag unigolion sy’n peri risg.
  • Cynnig ffordd ddiogel i ddioddefwyr a goroeswyr, a’u teuluoedd a’u ffrindiau, adrodd pryderon a chwynion.
  • Llunio mecanweithiau adrodd sy’n sensitif i’r cyd-destun lleol.
  • Datblygu ymagwedd at ddiogelu sy’n canolbwyntio ar oroeswyr sy’n adlewyrchu’r ystod o niweidiau posibl a wynebir ac sy’n ystyried y posibilrwydd o gynnig gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr o gychwyn cyntaf y rhaglen/prosiect.
  • Cyfathrebu’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a’u goroeswyr a sut i gael mynediad ato mewn ffordd glir.

Mae’r Rheoleiddiwr wedi profi cynnydd yn nifer yr adroddiadau digwyddiadau difrifol ynghylch materion diogelu gan elusennau gan ddangos mecanweithiau adrodd a chwyno gwell. Yn 2019-20, derbyniodd y Comisiwn 5,730 o adroddiadau am ddigwyddiadau difrifol, ac roedd 3,411 ohonynt yn ymwneud â diogelu, sef cynnydd o bron 40% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (3,895 a 2,504 yn eu tro).

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch diogelu, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu a fydd yn hapus i’ch cynorthwyo chi: Safeguarding@wcva.cymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy