Dau person mewn swyddfa yn gwenu ar laptop

Y Cod Llywodraethu i Elusennau wedi’i ddiweddaru ac yn gosod argymhellion clir ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac Uniondeb

Cyhoeddwyd : 08/12/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Heddiw, mae’r Grŵp Llywio sy’n gyfrifol am y Cod Llywodraethu i Elusennau, sy’n gosod saith egwyddor ar gyfer arferion llywodraethu da i elusennau yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi fersiwn newydd o’r Cod.

Mae’r prif newidiadau yn cynnwys arferion argymelledig mwy clir ar gyfer egwyddor sydd wedi’i a elwir bellach yn Egwyddor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a diweddariadau i’r Egwyddor Uniondeb er mwyn pwysleisio moeseg a hawl pawb sydd â chysylltiad â’r elusen i fod yn ddiogel.

Lluniwyd y Cod newydd yn dilyn ymgynghoriad trylwyr gyda’r sector elusennau ar ffurf grwpiau ffocws, a chafwyd dros 800 o ymatebion. Gan fod yr adborth yn canolbwyntio’n arbennig ar egwyddorion amrywiaeth ac uniondeb, comisiynodd Grŵp Llywio’r Cod ymgynghorwyr arbenigol ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i gynnal ymchwil bellach ac i roi cyngor.

Meddai Rosie Chapman, Cadeirydd Grŵp Llywio’r Cod Llywodraethu i Elusennau: ‘Mae’r gwelliannau yma i’r Cod Llywodraethu i Elusennau yn adlewyrchu newidiadau yn y gymdeithas a’r cyd-destun ehangach y mae elusennau’n gweithio ynddo. Mae’r Cod a ddiweddarwyd wedi’i ddylunio i helpu elusennau i fabwysiadu arferion da ac i sicrhau canlyniadau gwell i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

Rydyn ni’n gwybod bod elusennau ar gamau amrywiol yn eu hymdrechion i fabwysiadu’r Cod yn llawn, gan gynnwys cyflawni cyfle cyfartal, amrywiaeth a chynhwysiant, a nod y Cod hwn yw helpu elusennau ar y daith yma.

Rydyn ni wedi clywed hefyd bod elusennau a byrddau yn dymuno cael rhagor o arweiniad ar sut i wella eu hymagwedd tuag at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mewn ymateb i hyn, rydyn ni’n gofyn i gyrff isadeiledd ac ymbarél elusennau ddarparu mwy o arweiniad a chefnogaeth i elusennau, er mwyn eu helpu i gyflawni’r arferion argymelledig yn y Cod.’

Mae’r Cod yn argymell pedwar cam ymarfer i elusennau ar eu taith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Dylai Byrddau wneud y canlynol:

  1. Ystyried pam mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i’r elusen, ac asesu’r lefel bresennol o ddealltwriaeth.
  2. Gosod cynlluniau a thargedau wedi’u teilwra i’r elusen a’r man dechrau.
  3. Monitro a mesur pa mor dda mae’r elusen yn ei wneud.
  4. Bod yn dryloyw a chyhoeddi cynnydd yr elusen.

Meddai Pari Dhillon, ymgynghorydd annibynnol ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a fu’n cynghori’r Grŵp Llywio ar y newidiadau:

‘Fel rhywun sy’n hoff iawn o lywodraethu a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, dw i’n edrych ymlaen at lansio’r Egwyddor hon, am ddau reswm. Yn gyntaf, gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant da, ceir grym i greu cyfiawnder cymdeithasol yn ein hystafelloedd bwrdd, ein helusennau, a’n sector ac, yn y pen draw, yn ein cymdeithas. Yn ail, mae arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i waith llywodraethu da, a buaswn i’n dadlau na allwch chi gael un heb y llall. Dw i’n dweud hyn oherwydd:

  • Er mwyn cael y budd mwyaf i’r cyhoedd â phosib, mae’n rhaid i fyrddau ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau teg drwy eu diben elusennol.
  • Er mwyn gwneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus, mae’n rhaid cael amrywiaeth ar fyrddau, gan adlewyrchu a chanolbwyntio ar leisiau’r gymuned a’r anghenion y mae’r elusen yn ceisio eu gwasanaethu.
  • Er mwyn gwneud penderfyniadau cadarn, mae’n rhaid i bob aelod o’r bwrdd fod â’r grym i gymryd rhan yn llawn, ac mae’n rhaid atal anghydraddoldeb grym cymdeithasol rhag digwydd mewn ystafell fwrdd gynhwysol.’

Meddai Malcolm John, Gweithredu dros Amrywiaeth Hil mewn Ymddiriedolwyr ynghylch yr Egwyddor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd:

‘Dw i wrth fy modd bod yr Egwyddor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd yn dilyn yr egwyddor Gwneud nid Dweud, drwy annog elusennau i ganolbwyntio’n benodol ar gytuno i gynlluniau, gosod targedau, a monitro eu cynnydd. Dwi’n gobeithio y bydd hyn yn helpu i roi elusennau ar y llwybr tuag at gyflawni mwy o amrywiaeth o ran hil ar bob lefel, drwy symud oddi wrth brosesau recriwtio anffurfiol i ymddiriedolwyr, a rhoi amser ac adnoddau i ddenu o bwll ehangach a mwy amrywiol o bobl.’

Fel rhan o waith adnewyddu’r Cod, cafod yr Egwyddor Uniondeb ei chryfhau hefyd i bwysleisio pwysigrwydd gwerthoedd elusen, ei dull penderfynu moesegol, a’r diwylliant y mae hyn yn ei greu.

Eglura Rosie Chapman, Cadeirydd y Grŵp Llywio:

‘Rydyn ni hefyd wedi diweddaru’r egwyddor uniondeb i adlewyrchu pa mor bwysig yw hi fod pawb sy’n dod i gysylltiad ag elusen yn cael eu trin ag uniondeb a pharch, ac i deimlo eu bod mewn amgylchedd diogel a chefnogol.’

Yn benodol, mae’r Cod yn cynnwys arferion argymelledig newydd ar yr hawl i fod yn ddiogel (diogelu), sy’n gofyn bod ymddiriedolwyr:

  • Yn deall eu cyfrifoldebau diogelu
  • Yn sefydlu gweithdrefnau priodol sy’n gyson â dull rheoli risgiau’r elusen.
  • Yn sicrhau bod pawb sydd mewn cysylltiad â’r elusen yn gwybod sut mae codi llais a mynegi pryderon.

Anogir elusennau i fynd at wefan y Cod er mwyn gweld a lawrlwytho fersiwn newydd o’r Cod. Mae fideos eglurhaol a blogiau ategol hefyd ar gael ar y wefan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy