People in an art class

Y celfyddydau ac iechyd – rôl i wirfoddolwyr

Cyhoeddwyd : 20/07/22 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae tytstiolaeth cynyddol am sut y gall cymryd rhan yn y celfyddydau gael effaith gadarnhaol ar les meddyliol ac emosiynol pobl.

Gwnaeth cwrs mewn ffotograffiaeth ystyriol a ddilynwyd gan gleifion/defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd neu ofalwyr a oedd yn wynebu heriau iechyd meddwl, eu galluogi i ail-lunio eu gwerthfawrogiad ohonyn nhw eu hunain ac o’u bywydau. Gallwch ddarllen am y fethodoleg a dau adroddiad ymchwil yma (Saesneg yn unig).

Cyflawnwyd y gwaith gan Look Again, a ddechreuodd yn 2012 i gefnogi iechyd a lles gyda chyfuniad o ffotograffiaeth ac ymwybyddiaeth ofalgar.

‘Caiff ffotograffiaeth ystyriol ei diffinio fel adnodd sy’n defnyddio eich golwg a lens camera neu ffôn clyfar fel angor i’n helpu ni i ddod yn fwy ymwybodol effro o’r foment bresennol ac yn fwy cysylltiedig â’r foment honno. Mae’n ymwneud â phrofi’r broses o greu lluniau mewn modd anfeirniadol, gan ddangos diolchgarwch a thosturi tuag at ein hunain’.    Ruth Davies, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Look Again

Gwelir rhagor o dystiolaeth o rôl y celfyddydau creadigol o fewn lleoliadau iechyd a gofal yn y prosiectau a gefnogir gan HARP (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl) ledled Cymru. Mae’r bartneriaeth hon rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Nesta ac ‘Y Lab’ Prifysgol Caerdydd wedi cyflwyno argymhellion i randdeiliaid allweddol, i gefnogi arloesedd a chelfyddydau ac iechyd.

Ymhlith y rhain mae’r argymhelliadau:

  • i arweinwyr iechyd ac awdurdodau lleol i alluogi arloesi ac archwilio sut gall y celfyddydau a chreadigrwydd gyfrannu at eu blaenoriaethau sefydliadol;
  • I gefnogi ac annog awdurdodau lleol i roi cymhorthdal i weithgareddau celfyddydol ar gyfer iechyd a lles cymunedol;
  • I ystyried sut rydyn ni’n mesur llwyddiant, gan werthfawrogi gwybodaeth sy’n dangos cynnydd o ran y canlyniadau sydd bwysicaf i’r bobl dan sylw, yn ogystal â data meintiol

Sut gallai gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol a arweinir gan wirfoddolwyr, ynghyd ag ymarferwyr iechyd, alluogi pobl i gael budd o’r celfyddydau mewn modd mwy canolbwyntiedig?

Os ydych chi’n cynnwys gwirfoddolwyr mewn prosiect tebyg – mewn ysbyty neu leoliad cymunedol, byddem yn dwli ar rannu eich stori. Cysylltwch â Fiona Liddell Rheolwr Helplu Cymru fliddell@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy