Y Canghellor Rishi Sunak y tu allan i 11 Downing Street, Llundain, cyn mynd i Dŷ’r Cyffredin i gyflawni ei Gyllideb.

Y Canghellor yn cyhoeddi’r Gyllideb

Cyhoeddwyd : 16/03/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Sut bydd cyhoeddiadau’r cyllideb yn effeithio’r sector gwirfoddoli.

Mae’r Canghellor, Rishi Sunak wedi cyflwyno ei anerchiad ar y Gyllideb. Mewn ardaloedd sy’n effeithio ar Gymru, mae wedi rhoi’r addewidion canlynol:

  • £360 miliwn ychwanegol y flwyddyn i Lywodraeth Cymru
  • £55 miliwn i Fargen Dwf ar gyfer Canolbarth Cymru
  • Tâl salwch statudol o’r diwrnod cyntaf i’r holl gyflogeion sy’n hunanynysu yn sgil y coronafeirws. Bydd busnesau â 250 o staff neu lai yn cael hwn wedi’i ad-dalu. Bydd hi’n haws i’r rheini sy’n hunangyflogedig gael mynediad at fudd-daliadau.
  • Ni fydd angen i’r rheini sy’n derbyn Credyd Cynhwysol fynychu Canolfannau Gwaith yn ystod yr achosion o’r coronafeirws.
  • Cyflwyno band eang cyflym i ardaloedd anodd eu cyrraedd ledled y DU
  • Creu swyddfa Drysorlys yng Nghymru
  • Bydd trothwy’r Yswiriant Gwladol yn codi o £8632 i £9500.

Gwnaeth y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, feirniadu datganiad y Gyllideb am beidio â rhoi sylw i’r gofynion allweddol: cyllid ar gyfer gwaith trwsio ar ôl y llifogydd, seilwaith rheilffyrdd, ac ymchwil a datblygu. Dadleuodd nad oedd y cyni wedi dod i ben – roedd y gyllideb 4% yn llai mewn termau real na 2010-11, a phe bai wedi tyfu yn unol â’r cynnyrch domestig gros (GDP), byddai’n £3.5 biliwn yn uwch.

Whilst this is a step in the right direction, austerity is not over and this Budget barely takes us back to the funding levels we were at almost a decade ago.

— Rebecca Evans (@wgmin_finance) March 11, 2020

Gwnaeth y Canghellor hefyd addo gohirio trethi busnes am flwyddyn i fusnesau â gwerth trethadwy o lai na £51,000. Mae trethi busnes wedi’u datganoli i Gymru. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un penderfyniad yng Nghymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy