Y Bil Elusennau – pum newid allweddol i’r gyfraith elusennau

Y Bil Elusennau – pum newid allweddol i’r gyfraith elusennau

Cyhoeddwyd : 18/06/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi blog ar y pum newid allweddol i’r gyfraith elusennau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil Elusennau (Saesneg yn unig).

Nod y newidiadau yw gwneud bywyd yn haws i ymddiriedolwyr a gadael iddyn nhw barhau â’r gwaith pwysig o redeg eu helusennau.

BETH YW’R NEWIDIADAU ALLWEDDOL?

Dyma bump o’r newidiadau arfaethedig allweddol i elusennau a’u hymddiriedolwyr:

  • Bydd elusennau ac ymddiriedolwyr yn gallu diwygio eu dogfennau llywodraethu neu Siartrau Brenhinol yn haws – gan barhau i orfod cael cymeradwyaeth y Comisiwn a’r Cyfrin Gyngor mewn rhai amgylchiadau
  • Bydd gan elusennau fynediad at gronfa llawer ehangach o gynghorwyr proffesiynol ar gael gwared â thir, ac at reolau symlach ar ba gyngor y mae’n rhaid iddynt ei gael, a allai arbed amser ac arian iddynt wrth werthu tir
  • Bydd gan elusennau mwy o hyblygrwydd i ddefnyddio ‘gwaddolion parhaol’ – arian neu eiddo yw’r rhain a fwriadwyd yn wreiddiol i gael eu cadw gan elusen am byth. Mae hyn yn cynnwys newid a fydd yn caniatáu i ymddiriedolwyr fenthyg swm o hyd at 25% o werth eu cronfeydd gwaddol parhaol, heb gymeradwyaeth y Comisiwn
  • Bydd ymddiriedolwyr yn gallu cael eu talu am nwyddau a roddir i elusen mewn rhai amgylchiadau, hyd yn oed os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn nogfen lywodraethu’r elusen (ar hyn o bryd, gall ymddiriedolwyr dim ond cael eu talu am wasanaethau a gyflenwir). O bensiliau i baent, bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i elusennau gael nwyddau gan ymddiriedolwyr pan fydd hyn er budd yr elusen (ee os ydynt yn rhatach), heb orfod cael caniatâd y Comisiwn
  • Bydd elusennau yn gallu manteisio ar reolau symlach a mwy cymesur ar apeliadau aflwyddiannus. Er enghraifft, os na fydd apêl elusen yn codi digon o arian, bydd yr elusen yn gallu gwario rhoddion o dan £120 ar ddibenion elusennol tebyg heb orfod cysylltu â rhoddwyr unigol i gael caniatâd

Gwnaeth CGGC ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ac mae’n croesawu’r newidiadau, a ddylai dynnu ychydig o’r pwysau rheoleiddio oddi ar ymddiriedolwyr a lleihau biwrocratiaeth ddiangen.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 26/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Darllen mwy