Grŵp o bobl amrywiol yn eistedd o amgylch bwrdd

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2025

Cyhoeddwyd : 11/09/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn cael ei chynnal rhwng 3 a 7 Tachwedd yn 2025 ac rydym yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau am ddim i nodi’r achlysur.

BETH YW WYTHNOS YR YMDDIRIEDOLWYR?

Digwyddiad blynyddol yw wythnos yr ymddiriedolwyr i ddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac i amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob cefndir i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.

Thema eleni yw Dathlu, Ysbrydoli a Chefnogi. Rydyn ni’n dathlu’r wythnos hon drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i ymddiriedolwyr (a’r rhai a hoffai wybod mwy am ddod yn un) gymryd rhan ynddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am wythnos yr ymddiriedolwyr, ewch i wefan Wythnos yr Ymddiredolwyr.

EIN DIGWYDDIADAU

Strwythurau Cyfreithiol ac Uno Mudiadau – Hugh James

3 Tachwedd 2025, 11am – 12pm

Trosolwg o’r strwythurau cyfreithiol gwahanol sydd ar gael i elusennau.

Archebwch le yma.

 

Prawf Iechyd Cynhyrchu Incwm

3 Tachwedd 2025, 1pm – 2pm

Bydd y sesiwn hon yn eich cynorthwyo i gyflawni gwir botensial cynhyrchu incwm eich mudiad.

Archebwch le yma.

 

Arweiniad i newidiadau diweddar mewn cyfraith diogelu data 

3 Tachwedd 2025, 3pm – 4pm

Yn y weminar hon, bydd yr ICO yn eich tywys drwy rai o’r newidiadau diweddar mewn cyfraith diogelu data sydd wedi dod yn sgil Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025.

Archebwch le yma.

 

Bod yn Ymddiriedolwr

Dydd 1 – 4 Tachwedd 2025, 10 am – 1 pm
Dydd 2 – 11 Tachwedd 2025, 10 am – 1 pm
Ar-lein

Nod yr hyfforddiant hyn yw paratoi dysgwr â’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn ymddiriedolwyr effeithiol a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar swyddogion i recriwtio, cynefino a rheoli bwrdd ymddiriedolwyr. Mewn dathliad o Wythnos yr Ymddiriedolwyr, bydd yr hyfforddiant hwn yn rhad ac am ddim i’w fynychu.

Archebwch le yma.

 

Diweddariad ar newidiadau Tŷ’r Cwmnïau

4 Tachwedd 2025, 3pm – 4pm

Yn darparu diweddariad mewn trechu troseddau economaidd a chefnogi twf economaidd. Gan ganolbwyntio’n benodol ar ofynion dilysu pwy ydych.

Archebwch le yma.

 

O ddifrif am wneud gwahaniaeth? Dewch yn ymddiriedolwr

5 Tachwedd 2025, 11am – 12pm

Bydd y sesiwn ddiddorol ac addysgol hon yn edrych ar rôl ymddiriedolwyr ac yn dangos i chi sut gall eich sgiliau, profiadau a’ch brwdfrydedd unigryw wneud gwahaniaeth go iawn.

Archebwch lle yma.

 

Amrywio eich Bwrdd 

5 Tachwedd 2025, 3pm – 4pm

Cloddio i werth amrywiaeth ar fwrdd a’r effaith bositif y gall hyn ei gael ar lywodraethu a gwneud penderfyniadau.

Archebwch le yma.

 

Achosion o wrthdaro buddiannau – Adolygiad o Ganllawiau’r Comisiwn Elusennau

5 Tachwedd 2025, 2pm – 3pm

Oherwydd nifer yr ymholiadau y mae’r Comisiwn Elusennau yn eu derbyn mewn cysylltiad ag achosion o wrthdaro buddiannau, maen nhw wrthi’n ail-ddylunio eu canllawiau o ran y pwnc pwysig hwn. Yn y sesiwn hon, byddwch yn gallu canfod mwy am y newidiadau i’r canllawiau a sut bydd y rhain yn helpu ymddiriedolwyr i ddeall a rheoli achosion o wrthdaro buddiannau’n well.

Archebwch le yma.

 

Diogelu ar gyfer Ymddiriedolwyr

6 Tachwedd 2025, 10am – 12pm

Tîm Diogelu CGGC yn cyflwyno weminar ar Diogelu ar gyfer Ymddiriedolwyr.

Archebwch le yma.

 

Y Bil Hawliau Cyflogaeth newydd: Yr hyn sydd angen i bob elusen ei wybod 

6 Tachwedd 2025, 12pm – 1pm

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r hyn sydd angen i bob elusen ei wybod am Fil Hawliau Cyflogaeth newydd Llywodraeth y DU a sut i baratoi ar gyfer ei gyflwyniad.

Archebwch le yma.

 

Newidiadau i’r y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir (SORP) – Adolygiad o Comisiwn Elusennau

6 Tachwedd 2025, 2pm – 2:30pm 

Bydd y Comisiwn Elusennau yn rhoi diweddariad ar ddatblygiad y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir (SORP) ar gyfer 2026 ac yn rhoi gwybodaeth am y camau y gall elusennau eu cymryd nawr i baratoi ar gyfer y SORP Newydd.

Mae Datganiad o’r Arfer a Argymhellir (SORP) elusennau yn rhoi canllawiau i’r rheini sy’n paratoi cyfrifon elusennau. Mae’r SORP yn cyflwyno argymhellion a gofynion gan nodi sut i baratoi cyfrifon ‘gwir a theg’ yn unol â safonau cyfrifyddu’r DU. Caiff y SORP ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau i’r safonau cyfrifyddu a/neu’r gyfraith elusennau

Archebwch le yma.

 

Gwrthdaro buddiannau mewn partneriaeth â Hugh James

7 Tachwedd 2025, 11am – 12pm

Bydd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ymarferol ar nodi, rheoli ac osgoi achosion o wrthdaro buddiannau o fewn elusennau.

Archebwch le yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad: gall gwasanaethau iechyd a gofal y sector arbed arian cyhoeddus

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Grymuso cymunedau drwy Wirfoddoli mewn Mannau Gwyrdd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/11/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

‘Mae lefel yr effaith yn enfawr’

Darllen mwy