Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn cael ei chynnal yr wythnos hon, rhwng 4 – 8 Tachwedd ac i ddathlu, dyma rai digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos.
BETH YW WYTHNOS YR YMDDIRIEDOLWYR?
Digwyddiad blynyddol yw wythnos yr ymddiriedolwyr i ddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac i amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob cefndir i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Thema eleni yw Dathlu, Ysbrydoli a Chefnogi. Rydyn ni’n dathlu’r wythnos hon drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i ymddiriedolwyr (a’r rhai a hoffai wybod mwy am ddod yn un) gymryd rhan ynddynt.
I gael rhagor o wybodaeth am wythnos yr ymddiriedolwyr, ewch i www.trusteesweek.org
BETH SYDD YMLAEN
Cymhorthfa Lywodraethu
4 & 6 Tachwedd, 5 pm – 7 pm (slotiau hanner awr)
Dyma’ch cyfle i gwrdd â Rheolwr Llywodraethu CGGC i drafod unrhyw gwestiynau y gallai fod gennych chi o ran llywodraethiant eich mudiad neu eich cyfrifoldeb fel ymddiriedolwr.
4 Tachwedd 2024
6 Tachwedd 2024
Gweminar: Gyfraith diogelu data, eich rhwymedigaethau, achosion cyffredin o dor-cyfraith a sut i’w hosgoi.
4 Tachwedd, 11 am – 12 pm
Bydd yr ICO yn rhannu camau syml ar sut i gydymffurfio â’r cyfreithiau Diogelu Data ac yn trafod rhai o’r achosion cyffredin o dorcyfraith y mae’r sector hwn wedi’u hadrodd i ni gydag arweiniad ar sut i’w hosgoi.
Gweminar fudd-daliadau ymddiriedolwyr: Trosolwg i ymddiriedolwyr, Cyfreithwyr Hugh James
5 Tachwedd, 1 pm – 1.30 pm
Mae’r weminar hon wedi’i hanelu at ymddiriedolwyr (aelodau pwyllgor, cyfarwyddwyr ac ati) i egluro’r peryglon mewn perthynas â budd-daliadau ymddiriedolwyr, beth allwch ac na allwch ei hawlio a chael eich talu amdano, a’r newidiadau sydd wedi’u rhoi ar waith gan Ddeddf Elusennau 2022. Cyflwynir y weminar gan Gyfreithwyr Hugh James.
Gweminar: Cwrdd â LawWorks a chael gwybod am y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig am ddim
6 Tachwedd, 11 am – 12 pm
Mae’r weminar hon wedi’i hanelu at ymddiriedolwyr i egluro’r gwasanaethau am ddim y gall LawWorks ei gynnig i’ch mudiad.
- Trosolwg o LawWorks, gan gynnwys LawWorks Cymru
- Cyngor i’ch mudiad – manylion y Rhaglen i Gwmnïau Nid-er-elw
- Dod o hyd i gyngor cyfreithiol i’ch cleientiaid – llywio’r dirwedd o gyngor cyfreithiol am ddim yng Nghymru
Ddiogelu i ymddiriedolwyr
7 Tachwedd, 10 am – 11.30 am
Mae’r weminar hon wedi’i hanelu at ymddiriedolwyr (aelodau pwyllgor, cyfarwyddwyr ac ati) i egluro eu cyfrifoldebau diogelu.
Bydd yn ymdrin â’r canlynol:
- Eu dyletswyddau o dan y Comisiwn Elusennau a chofrestriad eu helusen
- Y gofynion a’r ddealltwriaeth o ddiogelu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
- Y disgwyliadau a osodir ar Ymddiriedolwyr i arwain diogelwch eu mudiad, trosolwg digonol
- Camau ymarferol, gan gynnwys polisïau, adrodd a hyfforddiant
Gweminar gwrthdaro buddiannau: Trosolwg i ymddiriedolwyr, Cyfreithwyr Hugh James
8 Tachwedd, 1 pm – 1.30 pm
Mae’r weminar hon wedi’i hanelu at ymddiriedolwyr i egluro arferion da mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau ac i edrych ar benderfyniadau diweddar y Comisiwn Elusennau.