Sut byddwch chi’n dathlu Wythnos Ymddiriedolwyr yng Nghymru?
Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n arddangos y gwaith gwych a wneir gan ymddiriedolwyr ac yn amlygu cyfleoedd i bobl o bob math gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Mae bod yn ymddiriedolwyr yn golygu ymgymryd â chyfrifoldebau ac ymrwymiadau amser niferus ac mae’r rôl yn amlach na pheidio yn un ddi-dâl. Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn gyfle gwych i ddiolch i’ch ymddiriedolwyr am y gwaith maen nhw’n ei wneud.
Bydd CGGC a’n partneriaid Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr eleni. Cadwch lygad ar gylchlythyr ac ar wefan CGGC am ragor o fanylion.
Beth ydych chi’n mynd i’w wneud ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr?
Dyma rai syniadau er mwyn cymryd rhan:
- Cymerwch yr amser i ddiolch i ymddiriedolwyr am eu cyfraniad
- Defnyddiwch yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr i ymuno â’r drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
- Mynychwch un o’r digwyddiadau lleol neu genedlaethol fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos
- Cymerwch y cyfle i hysbysebu unrhyw swyddi gwag a allai fod gennych
Dyma ystadegau diddorol ynghylch ymddiriedolwyr gan y Comisiwn Elusennol:
- Mae o amgylch 700,000 o ymddiriedolwyr yn Nghymru a Lloegr
- Mae 93% o ymddiriedolwyr yn dweud bod y rôl yn bwysig neu’n bwysig iawn iddynt
- Mae 70% o ymddiriedolwyr yn gwirfoddoli i elusennau bach
- Gwerth amcangyfrifol ymddiriedolwyr yw £3.5 biliwn y flwyddyn
Fodd bynnag, mae mwyafrif (92%) o ymddiriedolwyr yn wyn, hŷn neu uwchlaw incwm ac addysg gyfartalog, felly mae angen cynyddu amrywiaeth recriwtio pobl gydag ystod eang o gefndiroedd, profiadau a sgiliau.
Edrychwn ymlaen at ddathlu Wythnos Ymddiriedolwyr yng Nghymru gyda chi!
Cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn lleol: Cefnogi Trydydd Sector Cymru
I gael mwy o wybodaeth am faterion llywodraethu ac arweinyddiaeth, mae gennym gyfres o ymddiriedolwyr ac adnoddau llywodraethu sy’n gysylltiedig â COVID-19 ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau COVID-19.