Mae hi bron yn amser ar gyfer ein Wythnos Ymddiriedolwyr, y digwyddiad blynyddol i arddangos y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan ymddiriedolwyr ac amlygu cyfleoedd i bobl o bob cefndir gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Ymunwch â CGGC ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr rhwng 2-6 Tachwedd 2020. Ein thema ar gyfer yr wythnos yw ‘Chwalu’r rhwystrau i ymddiriedolaeth’. Bydd gennym ni lwyth o bethau ar y gweill yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:
- gweminar ar ddarparu eich CCB yn ddigidol
- digwyddiadau ar-lein ar wneud amrywio eich bwrdd (cyfyngedig i aelodau CGGC) a pham bod ymddiriedolwyr ifanc mor bwysig, a
- byddwn yn rhannu profiadau ymddiriedolwyr a gwybodaeth ddefnyddiol drwy’r wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol trwy #WythnosYmddiriedolwyr.
DIGWYDDIADAU WYTHNOS YMDDIRIEDOLWYR 2020
Dyma ein hyfforddiant a’n digwyddiadau ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr. Cynhelir y rhain i gyd ar-lein a gellir eu mynychu yn rhad ac am ddim.
Gweminar gyda Hugh James
Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2020 (amser i’w gadarnhau).
Bydd Hugh James yn rhoi cyngor ar sut i ddarparu eich CCB yn ddigidol.
Mwy o wybodaeth a chyfle i archebu lle i ddod yn fuan.
Amrywio eich bwrdd (digwyddiad i aelodau CGGC yn unig)
Dydd Mercher 4 Tachwedd 2020, 4-6pm
Bydd siaradwyr rhagorol a mewnweledol yn ymuno â ni i siarad am eu profiadau o amrywio bwrdd, gyda thrafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb agored gyda’n haelodau ar ôl hynny.
Mae’r digwyddiad yn arbennig o berthnasol i fyrddau ymddiriedolaeth ar draws sector gwirfoddol Cymru ac yn cynnig cyfle amhrisiadwy i rwydweithio â chymheiriaid o fudiadau eraill ledled Cymru.
** Noder mai digwyddiad i aelodau CGGC yn unig yw hwn, felly os nad ydych chi’n aelod ar hyn o bryd, ni fyddwch chi’n gallu ymuno. Mwy o wybodaeth isod **
Syniadau newydd: pam mae ymddiriedolwyr newydd mor bwysig
Dydd Iau 5 Tachwedd 2020, 2-3 pm
Bydd gennym rai pobl ifanc rhagorol yn ymuno â ni i siarad am eu profiadau o ymddiriedolaeth, gyda thrafodaeth banel gyflym a sesiwn holi ac ateb agored gyda’r cyfranogwyr i ddilyn.
AELODAETH CGGC
Mae ein digwyddiad Wythnos Gwirfoddolwyr, Amrywio eich bwrdd, ar gael i aelodau CGGC yn unig.
Mae aelodaeth CGGC am ddim i fudiadau sydd ag incwm blynyddol o £50,000 neu is, ac fel arall yn dechrau ar ddim ond £30 y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ar sut i ddod yn aelod, ewch i’n tudalen aelodaeth. Os nad ydych yn siŵr pa un ai yw eich mudiad yn aelod o CGGC ar hyn o bryd, mae croeso i chi gysylltu â ni ar bookings@wcva.cymru.