Bwrdd amrywiol

Wythnos Ymddiriedolwyr 2020: 2 – 6 Tachwedd

Cyhoeddwyd : 02/11/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n arddangos y gwaith gwych a wneir gan ymddiriedolwyr ac yn amlygu cyfleoedd i bobl o bob math gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.

Carai CGGC ddweud ‘diolch’ enfawr wrth yr holl bobl sy’n gwirfoddoli fel ymddiriedolwyr ac sy’n gwneud cyfraniad enfawr i elusennau yng Nghymru. Ni fyddai’n bosibl i ni wneud hyn oni bai amdanoch chi!

Mae bod yn ymddiriedolwyr yn golygu ymgymryd â chyfrifoldebau ac ymrwymiadau amser niferus ac mae’r rôl yn amlach na pheidio yn un ddi-dâl. Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn gyfle gwych i ddiolch i’ch ymddiriedolwyr am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Gallwch ddarganfod rhagor ynglyn â’r hyn fydd yn digwydd ar wefan CGGC: Wythnos Ymddiriedolwyr 2020

Beth ydych chi’n mynd i’w wneud ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr?

Dyma rai syniadau er mwyn cymryd rhan:

  • Cymerwch yr amser i ddiolch i ymddiriedolwyr am eu cyfraniad
  • Defnyddiwch yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr i ymuno â’r drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Mynychwch un o’r digwyddiadau lleol neu genedlaethol fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos
  • Cymerwch y cyfle i hysbysebu unrhyw swyddi gwag a allai fod gennych

Edrychwn ymlaen at ddathlu Wythnos Ymddiriedolwyr yng Nghymru gyda chi! Plis rhannwch beth rydych chi’n gwneud ar yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr

Dyma ystadegau diddorol ynghylch ymddiriedolwyr gan y Comisiwn Elusennol:

  • Mae o amgylch 700,000 o ymddiriedolwyr yn Lloegr a Chymru
  • Mae 93% o ymddiriedolwyr yn dweud bod y rôl yn bwysig neu’n bwysig iawn iddynt
  • Mae 70% o ymddiriedolwyr yn gwirfoddoli i elusennau bach
  • Gwerth amcangyfrifol ymddiriedolwyr yw £3.5 biliwn y flwyddyn
  • Delir 86,000 o roliau ymddiriedolwyr gan unigolion 16 – 34 mlwydd oed

Mae mwyafrif (92%) o ymddiriedolwyr yn wyn, hŷn neu uwchlaw incwm ac addysg gyfartalog, felly mae cynyddu amrywiaeth recriwtio pobl gydag ystod eang o gefndiroedd, profiadau a sgiliau.

Cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn lleol: Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Trawsnewid Treftadaeth Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy