Mae grŵp o wirfoddolwyr hapus sy'n edrych yn sefyll gyda'i gilydd y tu allan, yn codi eu breichiau ac yn gwenu

Wythnos Gwirfoddolwyr: Beth sy’n digwydd?

Cyhoeddwyd : 25/05/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Yn dilyn lansiad Pecyn ymgyrch Wythnos Gwirfoddolwyr 2021, mae Is-grŵp Wythnos Gwirfoddoli Cymru am rannu’r hyn y maen nhw a rhai o’u partneriaid wedi’u cynllunio ar gyfer 1 – 7 Mehefin.

Mae ein haelodau a’n partneriaid ehangach wedi bod yn myfyrio ar themâu’r ymgyrch ar gyfer yr Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, yn ogystal â meddwl am gynlluniau i ddathlu’r gwahanol fathau o wirfoddoli ledled y wlad. Gobeithio y bydd yr enghreifftiau canlynol yn eich ysbrydoli:

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr amrywiaeth a’r ehangder o weithgareddau a fydd ar waith ledled y DU yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr ac yn gobeithio gweld eich mudiadau a’ch gwirfoddolwyr chi’n dathlu ar draws gyfryngau cymdeithasol. Defnyddiwch yr hashnodau #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek er mwyn i ni allu hoffi a rhannu.

DIOLCH I’R IS-GRŴP WYTHNOS GWIRFODDOLWYR

Hoffai CGGC ddiolch i aelodau’r is-grŵp sydd wedi dod ynghyd yn ystod y misoedd diwethaf i gyfrannu at greu cynnwys ymgyrch cenedlaethol ar gyfer Cymru. Yr Aelodau eleni yw:

DDIM YN BAROD ETO AR GYFER WYTHNOS GWIRFODDOLWYR?

Ewch i wefan CGGC i lawrlwytho’r pecyn ymgyrch ac adnoddau eraill a fydd yn eich helpu i ddathlu gwirfoddoli.

EISIAU CYFRANNU MWY AT GYNLLUNIO YMGYRCHOEDD GWIRFODDOLI?

Rydyn ni’n dod â chydweithwyr o bob rhan o’r sector ynghyd yn gyson i gynllunio a pharatoi ar gyfer ymgyrchoedd – i ymuno â thrafodaethau yn y dyfodol, cysylltwch â’ch CVC lleol gan ddefnyddio’r rhestr hon o fanylion cysylltu lleol neu cysylltwch â Nicola Nicholls, CGGC, yn nnicholls@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy