Bob blwyddyn, mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r bobl sy’n rhoi eu hamser a’u hegni i wella bywydau eraill, ein cymunedau a’n hamgylcheddau.
Os nad yw’r dyddiad yn eich dyddiadur eisoes, cynhelir Wythnos Gwirfoddolwyr 2025 o ddydd Llun 2 Mehefin i ddydd Sul 8 Mehefin 2025. Dyma’n cyfle i ddweud ‘diolch o galon’ i’r miloedd lawer o bobl ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli.
Ers lansio Wythnos Gwirfoddolwyr 2025 yn gynharach eleni, mae mudiadau ledled Cymru wedi bod yn paratoi eu cynlluniau – ac rydym ni’n eich gwahodd chi i gymryd rhan.
‘Mae Wythnos ‘Gwirfoddolwyr’ yn foment bwysig iawn i ystyried a chydnabod pa mor hanfodol yw gwirfoddolwyr a’r effaith allweddol y maent yn ei chael ar bobl a chymunedau bob dydd.‘ – Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr, CGGC.
BETH SY’N DIGWYDD YNG NGHYMRU?
Yng Nghymru, byddwn yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth o fewn gwirfoddoli, o’r ystod eang o weithgareddau y mae pobl yn eu gwneud fel gwirfoddolwyr, i’r gwahaniaethau y mae pobl yn eu cyflwyno i’w profiadau a sut mae hynny’n gwella cymunedau ac amgylcheddau ledled y genedl.
Ddydd Mawrth 3 Mehefin 2025, byddwn yn nodi diwrnod #GrymIeuenctid, i ddathlu cyfraniadau pobl ifanc yng Nghymru a Dydd Gwener yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr bydd Diwrnod Amgylchedd y Byd, felly bydd pwyslais ar ddathlu gwirfoddolwyr mewn cyfleoedd sy’n cael effaith amgylcheddol.
DWEUD ‘DIOLCH’
O negeseuon personol o ddiolch, i ddigwyddiadau gwirfoddoli, dyma flas ar yr hyn y mae mudiadau ledled Cymru wedi’u trefnu:
- ‘Diolch-a-thon’ pan fydd aelodau staff yn ffonio gwirfoddolwyr yn bersonol i ddweud diolch a chysylltu staff â’r profiad gwirfoddoli
- Seremonïau gwobrwyo gwirfoddolwyr i dynnu sylw at unigolion a’u dathlu gyda thystysgrifau a chydnabyddiaeth
- Hamperi diolch yn cael eu hanfon at dimau siopau elusen, yn barod ar gyfer egwyl te Wythnos Gwirfoddolwyr
- Ffeiriau gwirfoddoli ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg i roi gwybod am gyfleoedd lleol
- Yn Sir y Fflint, sesiynau ‘gwib-wirfoddoli ‘ mewn Canolfannau Gwaith – gan helpu pobl i ddarganfod pa mor gyflym a hawdd yw hi i gymryd rhan
- ‘Taith gwirfoddolwyr’ mewn gwahanol leoliadau i ddosbarthu teisen i wirfoddolwyr tra byddant yn gwirfoddoli
- Yn Abertawe, bydd cysylltiadau cymheiriaid sy’n gwirfoddoli yn cael eu cefnogi i gryfhau rhwydweithiau a pherthnasoedd
- Sesiynau gwirfoddoli a gefnogir gan gyflogwyr lle bydd staff yn rhoi yn ôl ochr yn ochr â gwirfoddolwyr cymunedol
Dyma rai o’r ffyrdd y mae mudiadau yn cydnabod ymroddiad gwirfoddolwyr ledled Cymru. I gael gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi, dewch o hyd i’ch tîm gwirfoddoli lleol.
FELLY, SUT ALLWCH CHI YMUNO?
- Cynlluniwch sut y byddwch chi’n dweud diolch – Ewch i’r dudalen Sut i Sicrhau Boddhad Gwirfoddolwyr ar yr Hwb Gwybodaeth am syniadau ac adnoddau i wobrwyo a chydnabod eich gwirfoddolwyr
- Mynnwch ysbrydoliaeth – Ewch i dudalen we Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr i gael adnoddau i’w lawrlwytho i’ch helpu i gynllunio, hyrwyddo a dathlu
- Paratowch ar gyfer gwirfoddolwyr newydd – Cofrestrwch eich ‘sesiwn flasu’ neu gyfleoedd gwirfoddoli newydd ar wefan Gwirfoddoli Cymru a helpwch eraill i ddod o hyd i’w llwybr i wirfoddoli. Rydym bob amser yn disgwyl gweld ymwelwyr ychwanegol i’r wefan hon ym mis Mehefin!
GWYBOD MWY
Darllenwch fwy am pam rydyn ni’n arbennig o gyffrous i ddathlu gwirfoddoli yng Nghymru eleni.
YDYCH CHI WEDI CLYWED?
Mae ‘dull newydd o wirfoddoli’ yn cael ei ddatblygu ar gyfer Cymru mewn cyfnod o ymgynghori ar hyn o bryd – rhowch eich barn a chymryd rhan yn yr arolwg.