Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr – edrychwn ni ar sut gall mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yng Nghymru gymryd rhan a dathlu llwyddiant gwirfoddoli.
Mae *Wythnos Gwirfoddolwyr, sy’n dathlu 40 mlynedd eleni, yn cael ei chynnal o heddiw, rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin 2024.
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ymwneud â dathlu a diolch i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i wneud gwahaniaeth. Waeth a ydych chi’n rhan o fudiad gwirfoddol neu’n wirfoddolwr eich hun, dyma sut i wneud eich wythnos mor wych â phosibl.
MUDIADAU GWIRFODDOL
Gall mudiadau gymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr mewn llawer o ffyrdd, drwy ymhél â’r gymuned leol a dathlu’r rheini sy’n rhoi o’u hamser.
- *Ewch ati i ddangos eich gwerthfawrogiad a diolch i’ch gwirfoddolwyr drwy gyfryngau cymdeithasol er mwyn dathlu’r gwaith y maen nhw’n ei wneud yn gyhoeddus
- Rhowch gydnabyddiaeth i’ch gwirfoddolwyr gyda *thystysgrifau a chardiau diolch, neu anrhegion
- *Cynhaliwch ddigwyddiad wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae *syniadau di-ri ar wefan Wythnos Gwirfoddolwyr i’ch ‘ysbrydoli chi’, o noson gyri a chwis i ddiwrnod ar y fferm neu gynnal gŵyl bwganod brain!
- Defnyddiwch Wythnos y Gwirfoddolwyr i *lansio neu hyrwyddo prosiect gwirfoddoli newydd
Mae canllawiau defnyddiol ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho (yn Gymraeg a Saesneg) ar gael ar wefan Wythnos y Gwirfoddolwyr i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr wythnos. Gallwch hefyd *gofrestru i gael diweddariadau ar e-bost a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos y Gwirfoddolwyr.
GWIRFODDOLWYR
Mae *dwy brif ffordd y gall gwirfoddolwyr gymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr, waeth a ydych chi eisoes yn gwirfoddoli neu eisiau dechrau ar eich taith.
- *Rhannwch eich stori wirfoddoli a dweud wrth eraill beth mae gwirfoddoli yn ei olygu i chi a sut mae’n effeithio ar bobl eraill. Waeth ai’r teimlad da rydych chi’n ei gael o’i wneud neu’r sgiliau a’r profiadau rydych chi’n eu hennill. Rhannwch eich stori ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosGwirfoddolwyr.
- Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli am y tro cyntaf neu roi cynnig ar rywbeth newydd, edrychwch ar y dudalen *dod yn wirfoddolwr. Yma, gallwch chi hefyd ddod o hyd i wybodaeth am *Yr Help Llaw Mawr
MYFYRDODAU O’R WYTHNOS GWIRFODDOLWYR DDIWETHAF
Gwnaethom ni ofyn i’n Rhwydwaith, Gwirfoddoli Cymru, i nodi pethau y byddai’n dda ganddynt fod wedi meddwl amdanynt, a’u hawgrymiadau am opsiynau effaith uchel, cost isel i helpu i ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr. Dyma rai o’u syniadau.
Mi hoffwn i fod wedi meddwl am …
- Anfon ‘pecynnau trîts’ allan i’r rheini a fynychodd ddigwyddiadau dathlu ar-lein ymlaen llaw – gallen nhw fod wedi cael eu defnyddio’n rhyngweithiol wedyn yn ystod y digwyddiad
- Coginio gyda gwirfoddolwyr – mae’n cael gwirfoddolwyr i gymryd rhan ac yn addysgu sgiliau newydd iddyn nhw
- Gadael cacennau bach mewn mannau i ddweud diolch i’ch gwirfoddolwyr
- Gweithio mewn partneriaeth â mudiadau eraill – dwbl y dwylo, hanner y cynllunio!
Effaith uchel, cost isel
- Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu profiadau uniongyrchol drwy fideos a datganiadau gwirfoddolwyr
- Rhannu proffiliau gwirfoddolwyr, gan gynnwys dyfyniadau, drwy gydol Wythnos Gwirfoddolwyr ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn cylchlythyrau
- Teithiau cerdded lles gyda rhywle i gael lluniaeth ar y diwedd fel y gall y rheini nad ydynt yn gallu cymryd rhan yn y daith barhau i fod yn rhan o’r gweithgaredd
- Defnyddio riliau ar Instagram a Facebook i roi bywyd i ddatganiadau
- Paru gwirfoddolwyr â’u diddordebau er mwyn cael effaith well a phrofiad gwirfoddoli mwy cynaliadwy
ADNODDAU
Mae adnoddau newydd sbon ar gael i’ch helpu chi i ddathlu 40 mlynedd o Wythnos Gwirfoddolwyr:
- Pecynnau brand a logo, gan gynnwys canllawiau a phecynnau logo a sticeri i gefnogi cyfathrebiadau ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr
- Gwybodaeth am sut i steilio eich digwyddiadau, gan gynnwys baneri, fflagiau a phropiau ffotograffiaeth y gellir eu lawrlwytho a’u hargraffu
- Templed o dystysgrif a cherdyn diolch i ddangos eich gwerthfawrogiad i’ch gwirfoddolwyr am eu cyfraniadau
- Cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys graffigau, fframiau hunlun a chardiau neges â llun
RHAGOR AM WYTHNOS GWIRFODDOLWYR
Am ragor o wybodaeth am Wythnos Gwirfoddolwyr 2024, ewch i’r wefan *volunteersweek.org.
Bydd ymgyrch Yr Help Llaw Mawr hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos, rhwng dydd Gwener 7 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin 2024. Mae gwybodaeth am honno yn *www.thebighelpout.org.uk.
*Saesneg yn unig