Mae menyw o Trafnidiaeth Cymru yn cael ei chyfweld am brosiect gyda Chyngor Pobl Fyddar Cymru

Wythnos Elusennau Cymru – dangoswch eich effaith

Cyhoeddwyd : 10/11/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn ôl, sef wythnos sy’n canolbwyntio ar gydnabod gwaith elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar hyd a lled Cymru.

HELPWCH I AMLYGU GWAITH ELUSENNAU YNG NGHYMRU

Wythnos Elusennau Cymru, a gynhelir rhwng 21-25 Tachwedd 2022, yw’ch cyfle chi i floeddio am y gwahaniaeth y mae eich mudiad elusennol yn ei wneud.

SUT GALL EICH MUDIAD GYMRYD RHAN

Gallwch gymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru mewn nifer o ffyrdd:

  1. Rhannwch fideo byr – Postiwch fideo am eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio’r hashnod #WythnosElusennauCymru. Mae canllaw syml ar sut i greu eich fideo ar wefan Wythnos Elusennau Cymru.
  2. Amlygwch eich staff neu wirfoddolwyr – Dywedwch wrth y byd am aelod staff, gwirfoddolwr neu dîm a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud, postiwch eich neges ac unrhyw luniau a allai fod gennych chi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosElusennauCymru (gwnewch yn siŵr bod gennych chi ganiatâd pawb sydd yn y lluniau).
  3. Rhannwch y pecyn ymgyrchu – Anfonwch becyn ymgyrchu Wythnos Elusennau Cymru at eich ffrindiau, cefnogwyr a phartneriaid a gofyn iddyn nhw gefnogi eich gwaith drwy gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru. Mae digonedd o syniadau yn y pecyn ar sut i gymryd rhan a chefnogi elusennau Cymru.

SUT GALL Y CYHOEDD GYMRYD RHAN

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn gyfle i gael mwy o bobl i gymryd rhan yng ngwaith gwych elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.

Mae elusennau nid yn unig yn achubiaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed, ond maen nhw hefyd yno i bobl drwy’r cyfnodau da a drwg, yn cymryd camau bach yr olwg sy’n arwain at wahaniaeth mawr.

Rydyn ni’n galw ar bobl i wneud #MwyOWahaniaethGydanGilydd yn ystod #WythnosElusennauCymru drwy wirfoddoli, rhoi neu ddweud diolch i’w hoff elusen neu grŵp gwirfoddol!

Gall unigolion fynd i wefan Wythnos Elusennau Cymru i gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan.

RHAGOR O WYBODAETH

Wedi’i threfnu gan CGGC, caiff Wythnos Elusennau Cymru ei chefnogi gan ITV Cymru Wales. Am ragor o wybodaeth, ewch i wythnoselusennau.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector – camau nesaf

Darllen mwy