Rhwng 19 a 23 Mehefin 2023, fe fydd hi’n Wythnos Elusennau Bach, sef wythnos i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r sector elusennau bach.
Rydyn ni’n gwybod mai mudiadau llai yw’r rhan helaeth o’r sector gwirfoddol yng Nghymru, sy’n wynebu eu heriau unigryw eu hunain. Gan ystyried hyn, rydym ni, ynghyd â’n partneriaid yn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), wedi lansio canllawiau a gwybodaeth newydd wedi’u hanelu’n benodol at fudiadau bach i gyd-fynd â’r Wythnos Elusennau Bach (gwefan Saesneg yn unig).
BETH YW’R WYTHNOS ELUSENNAU BACH?
Mae’r Wythnos Elusennau Bach yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth o waith hanfodol sector elusennau bach y DU.
Bydd yr wythnos hon yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau a mentrau i gefnogi a hyrwyddo’r lliaws o elusennau bach sy’n gwella bywydau pobl o bob cwr o’r DU a gweddill y byd yn sylweddol.
ADNODDAU NEWYDD I FUDIADAU BACH
I gydnabod yr Wythnos Elusennau Bach heddiw, mae partneriaid TSSW wedi lansio cyfres o adnoddau newydd ar gyfer mudiadau gwirfoddol bach ar yr Hwb Gwybodaeth, sef platfform dysgu ar-lein am ddim i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
O ganllawiau ar lywodraethu a diogelu, i gyllid cynaliadwy, gweithio gyda gwirfoddolwyr a mwy, mae’r adnoddau wedi’u cynllunio gyda’r nod o’ch helpu chi i redeg eich mudiad.
Yn ogystal â thudalennau cyngor ac arweiniad newydd, mae hefyd cyrsiau ar-lein am ddim ar nifer o bynciau, o ddatblygu strategaeth codi arian i egluro cyfrifoldebau diogelu eich staff – a gallwch chi eu cwblhau nhw i gyd ar eich cyflymder eich hun, yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg.
Cofrestrwch am ddim heddiw i gael diweddariadau cyson, gwella eich gwybodaeth a chysylltu â phobl eraill.
FFYNONELLAU ERAILL O HELP AR GYFER MUDIADAU BACH
Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweminarau defnyddiol yn cael eu cynnal yn ystod yr Wythnos Elusennau Bach, a bydd partneriaid yn rhannu adnoddau defnyddiol i fudiadau bach drwy gydol yr wythnos. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Wythnos Elusennau Bach (Saesneg yn unig) neu dilynwch #WythnosElusennauBach ar gyfryngau cymdeithasol.