Mae’r Wythnos Diogelu yn cael ei chynnal rhwng 10 a 14 Tachwedd 2025 – dyma restr o ddigwyddiadau y bydd CGGC a mudiadau eraill yn eu cynnal ar gyfer yr achlysur.
DIGWYDDIADAU CGGC
Chwalu’r mythau! Atebion i’ch cwestiynau ar ddiogelu, y CBS a’r Comisiwn Elusennau
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025 10am – 11.30am
Mae’n gred gyffredin bod diogelu a gwiriadau DBS yr un peth. Mewn gwirionedd, dim ond un elfen o ddyletswyddau diogelu ehangach elusen yw gwiriad DBS.
Diogelu goruchwyliaeth glinigol – cynhwysyn hanfodol neu ychwanegiad opsiynol?
Dydd Iau 13 Tachwedd 2025 10am – 11am
Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg byr i chi o oruchwyliaeth glinigol, pam mae’n hanfodol i wella a chynnal llesiant staff diogelu.
DIGWYDDIADAU ERAILL
Sicrhau diwylliant diogelu positif
Dydd Llun 10 Tachwedd 9.30am – 11am
Bydd y sesiwn hon yn eich tywys drwy’r elfennau amrywiol o greu, ymwreiddio a chryfhau diwylliant diogelu positif ym mhob rhan o’ch gweithrediadau bob dydd.
Arwyddion a Rhybuddion o Gam-drin Plant yn Rhywiol
Dydd Llun 10 Tachwedd 9.30am – 10.30am
Bydd y sesiwn un awr o hyd hon yn cyflwyno gweithwyr proffesiynol i’r Templed Arwyddion a Rhybuddion ac yn rhoi’r cyfle iddynt ei ddefnyddio’n ymarferol.
Gemio, Beio a Chywilyddio
Dydd Llun 10 Tachwedd 1.30pm – 2.30pm
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar yr heriau a’r cyfyngderau moesegol sy’n datblygu o ran diogelwch ar-lein, yn enwedig gyda dyfodiad AI, uwch-dechnoleg gemau a’r platfformau ffrydio fwyfwy poblogaidd.
I gadw lle, e-bostiwch cardiffandvalersb@cardiff.gov.uk
Risgiau AI i blant
Dydd Llun 10 Tachwedd 2.30pm – 3.30pm
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar y peryglon y mae AI yn ei gyflwyno i blant mewn ysgolion, o ddod i gysylltiad â chynnwys niweidiol, meithrin perthnasau amhriodol a bwlio i dor-cyfrinachedd, ymddygiad ystrywgar a radicaleiddio.
Edrych ar ‘Adolescence’ Netflix
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025 – 10am – 11am
Bydd y weminar yn edrych ar raglen boblogaidd Netflix, ‘Adolescence’ (gan gynnwys including misogynedd, diwylliant ‘incel’ a gwrywdod gwenwynig).
I gadw lle, e-bostiwch cardiffandvalersb@cardiff.gov.uk
Cyfathrebu â phlant sy’n siarad â phlant am gam-drin plant yn rhywiol
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025 – 11am – 12pm
Yn y sesiwn hon byddwn yn egluro beth allai fod yn digwydd i blant pan fyddant yn cael eu cam-drin yn rhywiol a beth sy’n eu hatal rhag siarad.
Gwydnwch Digidol: Sefydliad Lucy Faithful
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025 1pm – 3.30pm
Bydd y weminar hon yn edrych ar sut i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein, a bydd yn rhoi mwy o hyder i chi gyfathrebu’n effeithiol am ddiogelwch ar y rhyngrwyd.
Cynhadledd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (NISB)
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025 9.30am – 3pm
Edrych ar y pwnc tyngedfennol diogelu wrth bontio gyda ffocws arbennig ar blant.
Cyflwyniad i Ymagwedd Teulu Gyfan We Stand
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025 2pm – 3pm
Mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio ar yr holl deulu. Gall chwalu cydberthnasau teuluol a chreu trawma parhaol i ddioddefwyr uniongyrchol ac anuniongyrchol.
I gadw lle, e-bostiwch cardiffandvalersb@cardiff.gov.uk
Ydych chi’n gweithio gyda, neu’n gofalu am rywun sy’n byw â dementia?
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025 4pm – 5pm
Dewch i ganfod sut gallwch chi helpu i gadw pobl sy’n byw â dementia yn eu cymuned yn ddiogel, yn annibynnol ac yn gysylltiedig.
Plant yn cam-drin plant yn rhywiol
Dydd Iau 13 Tachwedd 2025 10am – 11am
Bydd cynnwys y weminar yn ymdrin â’r diffiniad o blant yn cam-drin plant yn rhywiol yn ei ffurfiau amrywiol.
I gadw lle, e-bostiwch cardiffandvalersb@cardiff.gov.uk
Blacmel ar-lein a blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol
Dydd Iau 13 Tachwedd 2025 2pm – 2.45pm
Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg i’r mynychwyr o nodau a chanlyniadau’r rhaglen ynghyd â dadansoddiad o’r hyn a wyddom am gam-drin plant yn rhywiol ar-lein yn 2025.
I gadw lle, e-bostiwch cardiffandvalersb@cardiff.gov.uk
Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro – Cynhadledd Ddiogelu
Dydd Gwener 14 Tachwedd 2025 Drwy’r dydd
Digwyddiad wyneb yn wyneb diwrnod cyfan yw hwn sy’n cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd