Mae’r Wythnos Ddiogelu yn cael ei chynnal rhwng 11-15 Tachwedd 2024 ac mae gennym rai digwyddiadau am ddim i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru i ddathlu’r achlysur.
Mae’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a gydlynir gan y pum Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru. Mae’n amser penodedig i fudiadau ddod ynghyd a chodi ymwybyddiaeth o faterion diogelu pwysig, dysgu arferion gorau, rhannu gwybodaeth a dysgu gan bobl eraill.
Eleni, bydd yr Wythnos Ddiogelu yn cael ei chynnal rhwng 11-15 Tachwedd 2024 ac rydym yn cynnal dau ddigwyddiad am ddim ar y thema esgeuluso.
BETH SY’N DIGWYDD YN YSTOD YR WYTHNOS DDIOGELU?
Bydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, ac anogir y cyhoedd a gweithwyr diogelu proffesiynol i fynd iddynt.
Byddwn ni’n cynnig dwy weminar am ddim yn ystod yr wythnos:
Adnabod ac ymateb i arwyddion o esgeuluso
Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024, 2-3.30pm.
Esgeulustod yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn, sy’n debygol o arwain at niweidio llesiant yr unigolyn. Yn y weminar hon, byddwn yn edrych ar esgeulustod ymhlith pobl ifanc a’r rheini o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Byddwn yn ymdrin â phynciau fel:
- Sensitifrwydd diwylliannol
- Rhwystrau iaith
- Esgeulustod ar gam
- Hiliaeth mewn mudiadau
- Pryderon iechyd meddwl
Mae’r weminar yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan CGGC a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) ac mae AM DDIM i fynychu. Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn arbennig o addas i unrhyw un sy’n gysylltiedig â datblygiad polisi, arferion diogelu, gweithio gyda phobl ifanc neu grwpiau ethnig leiafrifol.
Diogelu a’ch gwirfoddolwyr chi
Dydd Iau 14 Tachwedd 2024, 10.30-11.30am
Bydd ymdrin â gwirfoddoli mewn modd sy’n ystyried diogelu yn helpu eich mudiad i gadw pobl yn ddiogel. Yn y weminar hon, byddwn ni’n trafod beth gall eich mudiad ei wneud i gadw eich gwirfoddolwyr yn ddiogel ar bob cam o wirfoddoli.
Yn ystod y weminar hon, byddwn yn ymdrin â phynciau fel:
- Arferion da wrth recriwtio
- Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Dyletswydd gofal
- Polisïau diogelu
Mae’r weminar yn cael ei chyflwyno gan CGGC ac AM DDIM i fynychu. Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn addas i unrhyw un â diddordeb mewn diogelu.
MWY AM DDIOGELU
I wybod mwy am sut gallwn ni eich cynorthwyo â diogelu, ewch i’n tudalen ar ddiogelu.