Dwylo person wrth iddynt lofnodi dogfen

Wythnos Cofio Elusen 2026

Cyhoeddwyd : 04/09/26 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth |

Mae CGGC yn ymuno ag elusennau a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol ledled y DU i hyrwyddo rhoddion mewn ewyllysiau yr Wythnos Cofio Elusen hon.

Fis Medi yma, mae CGGC yn falch o fod yn ymuno â channoedd o elusennau, cynghorwyr proffesiynol a phartneriaid ledled y DU i ddathlu Wythnos Cofio Elusen.

HYRWYDDWYR ELUSENNAU

Fel *Hyrwyddwr Elusen, byddwn yn treulio’r wythnos yn taflu goleuni ar y gwahaniaeth anhygoel y mae rhoddion sy’n cael eu gadael i elusen mewn ewyllysiau yn ei wneud ac yn gwahodd mwy o bobl i ystyried rhoi rhywbeth gwych i’r achosion sy’n agos at eu calonnau, ochr yn ochr â gofalu am anwyliaid.

Mae’r ffurf hwn o roi elusennol, sy’n cynnig cymhellion treth hael, ar gynnydd ac yn darparu cyllid hanfodol ar gyfer gwasanaethau hanfodol ledled y wlad – nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod. Yn wir, daw tua £3 o bob £10 a roddir i elusen trwy roddion mewn ewyllysiau (yn ôl y Legacy Foresight Data Dashboard, 2024 – sy’n seiliedig ar y 1,000 o elusennau etifeddiaeth mwyaf poblogaidd yng Nghymru a Lloegr).

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’r rhoddion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi dod yn elfen wirioneddol hanfodol i filoedd o elusennau a mudiadau cymunedol. A dweud y gwir, ni fyddai rhai o elusennau mwyaf poblogaidd y wlad yn bodoli heb anrhegion o’r fath.

YR YMGYRCH ‘EWYLLYSGARWCH’

Diolch i weithredoedd hael pobl gyffredin, mae ymgyrch *‘Ewyllysgarwch’ y DU yn parhau i dyfu – gyda mwy na 100 o bobl y dydd yn y DU bellach yn cynnwys rhodd i elusen yn eu hewyllysiau. Trwy weithio ar y cyd â Remember A Charity, mae CGGC yn gobeithio ysbrydoli mwy fyth o bobl i ystyried yr hyn y maen nhw eisiau cael eu cofio amdano.

WYTHNOS COFIO ELUSEN

Mae Wythnos Cofio Elusen (7-13 Medi 2026) yn ddathliad blynyddol o rym ac effaith rhoddion etifeddol. Trwy gydol yr wythnos, bydd partneriaid, cyfreithwyr, ysgrifenwyr ewyllysiau, elusennau ac eraill yn hyrwyddo’r neges etifeddiaeth, gan annog pobl ledled y wlad i helpu i greu dyfodol mwy disglair trwy adael rhodd yn eu hewyllys.

Rhagor o wybodaeth yn *www.rememberacharity.org.uk/week

CYMORTH ARIANNOL ETIFEDDOL YNG NGHYMRU

Os hoffech chi, fel elusen, lunio strategaeth codi arian etifeddol eich hun, mae hwn yn lle gwych i ddechrau, ochr yn ochr â *gwybodaeth wedi’i hanelu’n benodol at elusennau yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, gallwch hefyd gael mynediad i’r adnodd ar Gymynroddion Codi Arian sydd newydd ei ddiweddaru ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

 

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/08/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cronfa Ynni Glân – grant cyntaf yn cael ei ddyfarnu yng ngogledd Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/07/26
Categorïau: Cyllid, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ôl am 2026!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/07/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cronfa newydd i atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru

Darllen mwy