Dwylo person wrth iddynt lofnodi dogfen

Wythnos Cofio Elusen 2025

Cyhoeddwyd : 03/09/25 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth |

Rydyn ni’n ymuno ag elusennau a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol o bob rhan o’r DU i hyrwyddo rhoddion mewn ewyllysiau yr Wythnos Cofio Elusen hon.

Fis medi yma, rydym yn falch o ddweud y byddwn yn ymuno â channoedd o fudiadau gwirfoddol, cynghorwyr proffesiynol a phartneriaid ar hyd a lled y DU i ddathlu’r *Wythnos Cofio Elusen.

HYRWYDDWYR ELUSENNOL

Byddwn ni, fel Hyrwyddwr Elusennol, yn codi ymwybyddiaeth o’r opsiwn i roi i elusen yn eich Ewyllys, ochr yn ochr â gofalu am anwyliaid. Drwy gydol yr wythnos byddwn yn taflu goleuni ar y gwahaniaeth anhygoel a wneir gan roddion a adawyd i elusen mewn Ewyllysiau, ac yn gwahodd mwy o bobl i ystyried trosglwyddo rhywbeth gwych i’r achosion sy’n agos at eu calon, ochr yn ochr â gofalu am anwyliaid.

Gan gynnig cymhellion treth hael, mae’r ffurf hwn o roi i elusennau ar gynnydd ac yn rhoi cyllid hanfodol i wasanaethau tyngedfennol ledled y wlad – nawr ac i genedlaethau i ddod. Yn wir, daw oddeutu £3 o bob £10 a roddir i elusen drwy roddion mewn ewyllysiau. Mae’r rhoddion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr, ac ni fyddai rhai o elusennau anwylaf y DU yn bodoli heb roddion o’r fath.

YR YMGYRCH ‘EWYLLYSGAREDD’

Diolch i weithredoedd hael pobl bob dydd, mae ymgyrch ‘Ewyllysgaredd’ y DU yn parhau i dyfu – gydag oddeutu 100 o bobl y diwrnod nawr ledled y DU yn dewis gadael rhodd i elusen yn eu hewyllys. Drwy weithio gyda’n gilydd gyda *Remember A Charity, rydym yn gobeithio ysbrydoli mwy fyth o bobl i ystyried beth maen nhw eisiau cael eu cofio amdano.

WYTHNOS COFIO ELUSEN

Mae Wythnos Cofio Elusen (8-14 Medi 2025) yn ddathliad blynyddol o bŵer ac effaith rhoi trwy gymynrodd. Trwy gydol yr wythnos, bydd partneriaid, cyfreithwyr, ysgrifenwyr ewyllysiau, elusennau a phobl eraill yn hyrwyddo’r neges i adael cymynrodd, gan annog pobl ledled y wlad i helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair drwy adael rhodd yn eu hewyllys.

Am ragor o wybodaeth, ewch i *www.rememberacharity.org.uk/week

CYMORTH CYLLID TRWY GYMYNRODD YNG NGHYMRU

Os, fel elusen, rydych chi eisiau adeiladu eich strategaeth codi arian etifeddol yna mae’r daflen Awgrymiadau Da hon yn lle gwych i ddechrau, ochr yn ochr â gwybodaeth sydd wedi’i hanelu’n benodol at elusennau Cymru. Yn ogystal â hyn gallwch hefyd gael mynediad at yr adnodd Codi Arian – Cymynroddion sydd newydd ei ddiweddaru ar ein Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae CGGC yn chwilio am banelwyr cynghori ar gyllid newydd!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cyllid i ysgogi newid cadarnhaol mewn cymunedau

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cyfle olaf i wneud cais am arolygon ynni

Darllen mwy