Er 2014, mae Wythnosau #byddaf blynyddol wedi dwyn miloedd o unigolion a mudiadau ynghyd i hybu pobl ifanc fel arweinyddion newid.
Eleni, cynhelir Wythnos #byddaf ar ei newydd wedd – yn Ŵyl Pŵer Ieuenctid ddigidol, ryngweithiol.
Yn y cyfnod cyn #Wythnosbyddaf 2020, 16-20 Tachwedd, bydd yr ymgyrch #byddaf yng Nghymru yn gofyn ichi…
- YSBRYDOLI a CHAEL EICH YSBRYDOLI drwy rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud (fel unigolyn ifanc neu sefydliad) i gynnwys pobl ifanc mewn gweithredu cymdeithasol
- DYSGU oddi wrth ddulliau a chynnydd eich gilydd ar draws sectorau a gwledydd gwahanol
- ADDYSGU ac ARLOESI i GREU cyfleoedd gwirfoddoli gwych i bobl ifanc (edrychwch ar ein Siarter Gwirfoddoli Ieuenctid a Gweithredu Cymdeithasol)
- CYSYLLTU a CHYDWEITHIO drwy feithrin perthnasoedd ag arweinwyr gwirfoddolwyr a all eich helpu i gefnogi’r siwrnai gwaith gwirfoddol i bobl ifanc
Yng Nghymru, mae pobl ifanc a phartneriaid o Rwydwaith Ieuenctid Gwirfoddoli Cymru yn dod â chyfraniad Cymreig unigryw i’r Ŵyl Pŵer Ieuenctid.
I gael gwybod rhagor am y sesiynau hyn a’r rhai eraill sy’n cael eu cynnal ar draws y Deyrnas Unedig ewch i: https://twitter.com/iwill_campaign
EIN DIGWYDDIADAU
Fel rhan o wythnos #byddaf a gŵyl #PwerIeuenctid, byddwn yn cynnal y digwyddiadau ar-lein canlynol. Archebwch eich lle ar y dolenni isod:
Sut i ddechrau eich taith i fod yn wirfoddolwr yng Nghymru
Dydd Llun 16 Tachwedd, 6 pm – 7 pm
Wrth i bob un ohonom edrych ymlaen at y dyfodol a cheisio cynllunio gwirfoddoli sy’n gweithio yng Nghymru, mae cynnwys pobl ifanc yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cyflwyniadau cynnar a phrofiadau o wirfoddoli yn darparu profiadau cadarnhaol ac yn arwain at newid gwirioneddol. Bydd y sesiwn hon dan arweiniad gwirfoddolwyr ifanc yn gwahodd pobl ifanc, gwirfoddolwyr a rhai nad ydynt yn wirfoddolwyr i archwilio nifer o gwestiynau allweddol am bwnc gwirfoddoli.
Sut gall gwirfoddoli ymysg pobl ifanc a’r sector gwirfoddol gyfrannu at weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)?
Dydd Gwener 20 Tachwedd, 1 pm – 2 pm
Yn aml ar flaen y gad o ran galwadau am weithredu ar newid yn yr hinsawdd, anghyfiawnderau ac anghydraddoldeb, mae lleisiau a gweithredoedd pobl ifanc yn cynnig gobaith o oresgyn yr heriau a wynebir gan gymdeithas heddiw ac yn y dyfodol. Bydd y sesiwn hon yn gwahodd gwirfoddolwyr ifanc a mudiadau gwirfoddol i ystyried sut y gall gwirfoddoli a’r sector gwirfoddol helpu i greu byd gwell a chefnogi’r gwaith o gyflawni nodau llesiant y Ddeddf.
BETH YW’R ŴYL PŴER IEUENCTID?
Mae’r ymgyrch #byddaf yn gweithio â phobl ifanc a phartneriaid i gynnal amserlen orlawn o ddigwyddiadau cyffrous i ddathlu effaith gweithredu cymdeithasol gan bobl ifanc, i ddysgu sut mae eraill wedi cymryd camau ysbrydoledig ymlaen ac i edrych ar yr heriau a wynebwn gyda’n gilydd. Yn ogystal ag ymuno â’r digwyddiadau sydd wedi’u cydgysylltu’n uniongyrchol gan dîm #byddaf, fe allech gynnal eich digwyddiad eich hun a bydd tîm #byddaf yn ei ychwanegu at y rhaglen.
PWY ALL YMUNO Â’R ŴYL?
Mae’r Ŵyl yn addas i bawb, o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i unrhyw un sy’n teimlo’n angerddol bod gan bobl ifanc rôl mewn creu cymdeithas sy’n gweithio i bawb.
SUT ALLAF FI GYFRANOGI?
Cofrestrwch i fynychu digwyddiadau, rhannwch nhw yn eich rhwydweithiau, a chyfranogi drwy’r sesiynau hawl i holi a’r digwyddiadau rhyngweithiol. Gallwch hefyd gynnal eich digwyddiad eich hun! Cofiwch roi gwybod i’r ymgyrch #byddaf beth sydd gennych ar y gweill gyda’r ffurflen hon ac fe wnânt ei ychwanegu at y calendr.
PA FATH O DDIGWYDDIADAU DIGIDOL ALLEN NI EU CYNNAL?
- Dathlu gweithredu cymdeithasol gan bobl ifanc. Cydnabyddwch y bobl ifanc yr ydych chi’n gweithio â nhw drwy roi llwyfan iddynt ddweud eu storïau #PŵerIeuenctid.
- Pa wersi ydych chi wedi’u dysgu drwy eich siwrnai gweithredu cymdeithasol gan bobl ifanc? Cynhaliwch ddosbarth meistr neu sesiwn datrys problemau ar gyfer pobl ifanc neu weithwyr proffesiynol eraill.
- Heriwch y penderfynwyr i wrando’n uniongyrchol ar bobl ifanc. Defnyddiwch yr arweiniad hwn i gynnal digwyddiad gwrando rhwng pobl ifanc ac arweinwyr sector neu arweinwyr lleol.
- Cydweithiwch ar heriau a rennir. Rhaid inni weithio â’n gilydd i wynebu dyfodol ansicr. Pwy allech chi gasglu o amgylch y bwrdd i roi sylw i’r materion mawr sy’n wynebu pobl ifanc, eich sefydliad, neu’r gymdeithas gyfan?
Dim ond ychydig syniadau ydy’r rhain! Meddyliwch beth sy’n gwneud y mwyaf o synnwyr ichi a’ch rhwydweithiau.
SUT ARALL ALLWN NI GYMRYD RHAN YN WYTHNOS #BYDDAF?
Ychwanegwch at y sgwrs ar #PŵerIeuenctid. Rhannwch astudiaeth achos neu flog, crëwch fideo byr neu gynnal ymgyrch meddiannu gan bobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae digonedd o esiamplau gwych i’w cael yma.
Mae’r ymgyrch #byddaf wedi datblygu’r Siarter Pŵer Ieuenctid fel fframwaith er mwyn i’ch sefydliad rymuso rhagor o bobl ifanc i siapio penderfyniadau, ymroi i weithredu cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y siarter yma