Trwy gydol mis Hydref, bydd yr ymgyrch flynyddol yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddarganfod eu hangerdd a dal ati i ddysgu.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei threfnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Trwy wefan Cymru’n Gweithio sy’n cael ei darparu gan Gyrfa Cymru – bydd oedolion ledled Cymru yn darganfod cannoedd o ddigwyddiadau, sesiynau blasu, cyrsiau ac adnoddau ar-lein ac mewn person sydd ar gael trwy gydol mis Hydref, canfod straeon ysbrydoledig pobl sydd wedi ailddechrau dysgu fel oedolion, a cheisio cyngor ac arweiniad arbenigol ar y llwybrau a’r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys ailhyfforddi, Cyfrifon Dysgu Personol, gofal plant a diswyddiadau.
Cynhelir yr wythnos o 17 – 23 Hydref 2022 gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal trwy gydol y mis.
CENEDL O AIL GYFLE
Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ceisio hyrwyddo gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sefydlu Cymru fel ‘cenedl o ail gyfle’ ar gyfer dysgu gydol oes.
Mae partneriaid ymgyrchu o sawl sector wedi dod at ei gilydd i gyfrannu rhaglen o weithgaredd fydd yn ysbrydoli ac yn annog miloedd o bobl i ddarganfod eu cariad at ddysgu, gwella eu hyder a’u llesiant, newid gyrfaoedd, uwchsgilio a gwneud cynnydd yn eu gwaith, dysgu rhywbeth newydd a cheisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau sydd ar gael iddyn nhw nawr.
Mae gan ddysgu lawer o fanteision pwerus – gall newid bywydau yn gadarnhaol a nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod cyfleoedd dysgu yn dod yn fwy hygyrch i alluogi mwy o oedolion i symud ymlaen ac adeiladu dyfodol gwell yn hyderus.
DARGANFOD MWY
I lansio’r ymgyrch, bydd Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dathlu cyflawniadau enillwyr gwobrau eleni gan gynnwys unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a chymhelliant aruthrol i wella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle trwy ddysgu. Datgelir enwau’r enillwyr ar 20 Hydref 2022 yng Nghaerdydd.
Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael yma: https://adultlearnersweek.wales/gwybodaeth-i-ddarparwyr/?lang=cy