Mae Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC, yn myfyrio ar ei hamser yn yr uwchgynhadledd Llafur a Chymdeithas Sifil a drefnwyd gan Pro Bono Economics ac NCVO.
Delwedd nodwedd: Trafodaeth banel ar iechyd wedi’i chymedroli gan Dr Rubina Ahmed, Blood Cancer UK, gyda chydweithwyr o elusennau gan gynnwys BHF, Stem4, a FiveXMore a Wes Streeting AS, Ysgrifennydd Iechyd yr Wrthblaid
Rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith rwyf wedi bod mewn cyfarfodydd yn Llundain sy’n siarad am ‘genedlaethol’ ond mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar Loegr yn unig.
A fyddai’r digwyddiad hwn yn wahanol?
Roedd yr uwchgynhadledd wedi’i chynllunio o gylch cyfres o sgyrsiau a oedd yn canolbwyntio ar gymdeithas sifil a llunio polisïau.
Y SECTOR GWIRFODDOL
Siaradodd arweinwyr mudiadau gwirfoddol am adegau ingol go iawn y mae’r sector yn eu hwynebu. Gwnaethant hefyd egluro’r buddion y gallai pobl a chymunedau eu gweld o gael y sector o amgylch y bwrdd, yn helpu i lunio datblygiad polisïau yn y camau cynharaf drwy rannu data a phrofiad.
Yn ei brif anerchiad, dywedodd Syr Keir Starmer: ‘Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth: llywodraeth a arweinir gan genhadaeth, partneriaeth rhwng y llywodraeth a chymdeithas sifil.’
Caiff y sector gwirfoddol ei hun ei arwain gan genhadaeth, felly pan fydd unrhyw blaid wleidyddol yn siarad am lywodraeth a arweinir gan genhadaeth, mae’n naturiol yn gwahodd sgyrsiau buddiol. Mae hyn yn arbennig o wir pan gaiff grwpiau llawr gwlad bach, lleol ac asiantaethau cymorth sy’n gallu defnyddio’u profiadau bywyd eu cynnwys.
PRIF BYNCIAU TRAFOD
Canolbwyntiwyd ar iechyd, ac yn benodol, ar bwysigrwydd atal. Gall ein sector ni edrych ar yr unigolyn cyfan, gan ganiatáu i ni wneud cysylltiadau a chynnig dull positif o fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd gwael.
Nododd y drafodaeth ar drosedd y gellir dehongli’r gyllideb carchardai gyffredinol fel arian sy’n cael ei wario ar fethiant. Gall gwrando ar bobl ifanc a’u cynnwys mewn ffyrdd mwy addas helpu i ennyn ymddiriedaeth a gwydnwch, a chreu effeithiau positif o ran diogelwch cymunedol.
Gwnaeth y sgwrs ar sut i chwalu rhwystrau i gyfleoedd godi materion fel y blynyddoedd cynnar, prentisiaethau, cyflogaeth a thai.
YR OLYGFA O GYMRU
Uwchgynhadledd DU gyfan felly, ond un a oedd yn cydnabod y safbwyntiau hanfodol y gall y llywodraeth leol a llywodraethau cenedlaethol Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban eu cynnig pan fydd materion wedi’u datganoli.
Pwynt cyfeirio fframwaith cyfreithiol yr olygfa o Gymru yw Cynllun y Trydydd Sector. Mae’r sector gwirfoddol wedi cael cyfle i gwrdd â Gweinidogion Cymru ddwywaith y flwyddyn ac i weithio gyda swyddogion i drafod problemau a datrysiadau posibl ers 1999. Caiff y polisïau gorau eu cyd-lunio â mewnbwn mudiadau gwirfoddol sydd wedi ennill eu plwyf ac ennyn ymddiriedaeth a hyder y bobl a’r cymunedau hynny a gaiff eu heffeithio gan y penderfyniadau a wneir.
Pryd bynnag rydw i’n siarad am Gynllun y Trydydd Sector, y seilwaith unigryw o gymorth lleol a sut mae mudiadau Cymru gyfan yn cydweithio mewn partneriaethau ar iechyd, diogelwch cymunedol, addysg, gwydnwch – mae pobl eisiau clywed mwy.
BETH NESAF FELLY?
Bydd CGGC yn parhau i ymgysylltu’n weithredol â’n chwaer-bartneriaid yn y DU, gan gynnwys *SCVO, *NICVA ac *NCVO, yn ogystal â’r *Gymdeithas Sefydliadau Elusennol, *ACEVO, *NAVCA a’r *Grŵp Cyllid Elusennau.
Pan gawn ni gynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon, dylem fanteisio arnyn nhw, meithrin ymddiriedaeth, datblygu cydberthnasau a dwyn penderfynwyr i gyfrif.
Cafodd yr uwchgynhadledd hon ei hysbysebu fel un a oedd yn berthnasol i’r DU, ac mae gan Gymru wersi amhrisiadwy i’w cyfrannu at fwy fyth o sgyrsiau ystyrlon yn y dyfodol.
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am beth mae CGGC yn ei wneud yn y maes hwn drwy fynd i adran dylanwadu ein gwefan neu gofrestru i gael ein cylchlythyr wythnosol.
*Gwefannau Saesneg yn unig