Mae Helen Thomas o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn rhannu stori Zaria, enghraifft wych o ble all gwirfoddoli fynd â chi.
Rydych chi’n cwrdd â phobl o bob math wrth weithio yn y Brifysgol Agored, a hynny’n feunyddiol. Mae llawer yn cyrraedd gydag uchelgais, eraill gydag ansicrwydd, ac yn eithaf aml, fe welwch chi’r ddau. Ac weithiau, rydych chi’n cwrdd â rhywun y mae ei daith yn aros gyda chi’n dawel. Dyma un o’r straeon hynny.
Deuthum yn ymwybodol o Zaria Ahmed am y tro cyntaf trwy bartneriaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda’r mudiad cymunedol, Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion (CYCA), yn Llanelli. Roedden ni wedi bod yn gweithio gyda nhw ar ein rhaglen Elwa drwy Wirfoddoli, sy’n helpu gwirfoddolwyr y sector gwirfoddol i wella eu sgiliau a’u profiad.
Pan gysylltodd Zaria â CYCA am y tro cyntaf, roedd trwy gysylltiad ei phlentyn â chyfres o ddigwyddiadau teuluol yn y ganolfan o’r enw ‘Haf o Hwyl’. Agorodd hynny ddrws. O’r adeg gynnar honno, dechreuodd gymryd rhan ei hun, gan fagu ei hyder yn raddol mewn amgylchedd a oedd yn teimlo’n ddiogel a chefnogol.
PAN MAE RHWYSTREDIGAETH YN TROI YN GRED
Nid Saesneg yw iaith gyntaf Zaria, ac mae hi’n agored am ba mor heriol roedd hynny’n teimlo ar y dechrau. Roedd ysgrifennu atebion, mynegi syniadau’n glir, a dod o hyd i’r geiriau cywir yn cymryd ymdrech go iawn. Yr hyn a wnaeth argraff arnaf i oedd nid bod yr her hon yn bodoli, ond sut aeth i’r afael â hi. Yn hytrach na thynnu’n ôl, aeth ati i ymarfer. Gofynnodd am help. Aeth i sesiynau un-i-un. Yn araf, a gyda phenderfyniad, trodd ei rhwystredigaeth yn gred.
Dros amser, taflodd Zaria ei hun i ddysgu. Cymerodd ran mewn cyrsiau a gyflwynwyd gan CYCA: Coginio ar gyllideb, gwydnwch straen, datblygiad plant, gwasanaeth cwsmeriaid, sgiliau cwnsela, a sesiynau corff iach a meddwl iach – roedd y rhestr yn parhau i dyfu. Nid cyrsiau a gymerwyd er mwyn cael tystysgrif yn unig oedd y rhain. Roedden nhw’n sgiliau a ddysgodd Zaria i wella ei bywyd bob dydd, cefnogi ei theulu, ac yn y pen draw, i helpu eraill.
Dyma beth sy’n fy ysbrydoli i fwyaf.
DIM OND Y DECHRAU
Bellach, mae Zaria yn Llysgennad Gwirfoddolwyr Cymunedol. Mae’n helpu i gynnal gweithdai coginio, yn cefnogi staff, ac yn croesawu rhieni eraill – yn enwedig yn ystod gwyliau prysur yr haf. Mae balchder tawel yn y ffordd y mae’n disgrifio’r rôl hon. Mae’n cael boddhad o weld eraill yn elwa ar CYCA, cwrdd â phobl newydd, a rhoi yn ôl i gymuned a wnaeth ei chefnogi hi.
‘Ers i mi ddechrau gwirfoddoli yn CYCA rwyf wedi sylwi ar wahaniaeth enfawr yn fy hyder yn y ffordd rwy’n ymgysylltu yn fy nghymuned. Rydw i hefyd wedi gwneud ffrindiau.’ – Zaria.
Ac ochr yn ochr â hyn i gyd, mae Zaria wedi gwneud penderfyniad beiddgar: i astudio’r gyfraith gyda’r Brifysgol Agored.
Mae hi’n gobeithio hyfforddi gyda chwmni cyfreithiol lleol, graddio, a dod yn gyfreithiwr. Mae’r rhain yn uchelgeisiau mawr, yn enwedig i rywun a oedd unwaith yn amau eu gallu i ysgrifennu’n dda yn Saesneg. Ac eto i gyd, nid oedd unrhyw fawredd yma, dim ond eglurder. Cred y gall ymdrech, cefnogaeth ac addysg newid yr hyn sy’n bosibl.
Mae adegau fel hyn yn fy atgoffa pam mae ehangu cyfranogiad yn bwysig. Nid modiwlau ac asesiadau’n unig mo addysg. Mae’n ymwneud â hyder, hunaniaeth, a’r dewrder i ddychmygu dyfodol gwahanol. Mae’n ymwneud â mudiadau cymunedol fel CYCA yn cwrdd â phobl lle maen nhw, a phrifysgolion yn cerdded ochr yn ochr â nhw wrth iddynt gymryd y cam nesaf.
YNGLŶN Â HELEN
Helen Thomas yw un o Reolwyr Partneriaethau’r Brifysgol Agored yng Nghymru, a’r arweinydd ar gyfer gweithio gyda’r sector gwirfoddol. Ymunodd â’r brifysgol ychydig dros saith mlynedd yn ôl. Mae Helen eisiau gwneud gwahaniaeth, gan helpu eraill i gyflawni eu potensial – trwy ei rôl yn y Brifysgol Agored a thu allan i’r gwaith fel gwirfoddolwr.
Mae Helen wedi datblygu Elwa drwy wirfoddoli, rhaglen hyfforddi wyth wythnos o hyd sydd am ddim i wirfoddolwyr, a ddatblygwyd ochr yn ochr â Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Bydd Helen a thîm y Brifysgol Agored yng Nghymru yn nigwyddiad blaenllaw CGGC, gofod3 ar 17 Mehefin 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Gallwch glywed mwy am Elwa drwy Wirfoddoli yn eu sesiwn Sgwrs â’r Brifysgol Agored yng Nghymru neu ddarganfod mwy am eu gwaith gyda’r sector gwirfoddol drwy ymweld â’u stondin yn ein Marchnad brysur.
DIOLCH AM EIN HELPU I GADW GOFOD3 YN DDIGWYDDIAD AM DDIM
DIOLCH mawr i’r Brifysgol Agored yng Nghymru sydd unwaith eto’n ddigon caredig i noddi gofod3, a gweithio mewn partneriaeth ag CGGC i helpu mudiadau gwirfoddol i uwchsgilio. Am ragor o wybodaeth am sut gall y Brifysgol Agored eich cefnogi chi, ewch i university.open.ac.uk/wales.
