Ar hyd a lled Cymru, mae miloedd o bobl hŷn yn byw mewn cartrefi anhygyrch, sy’n aneffeithlon o ran ynni ac mewn cyflwr gwael. Yma, mae Becky Ricketts, Swyddog Polisi ac Ymchwil Gofal a Thrwsio Cymru, yn edrych yn fanylach ar y sefyllfa a’r hyn y gellir ei wneud.
Ni fu hi erioed mor bwysig i ofalu am ein cartrefi. Mae adroddiad newydd Gofal a Thrwsio Cymru, Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru, yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu pobl hŷn a sut gall gwasanaethau cymorth y trydydd sector helpu i greu amodau byw gwell ac iechyd gwell i rai o’n perchnogion tai mwyaf agored i niwed sydd ar incwm isel. O danau nwy sy’n gollwng i loriau pwdr, grisiau peryglus, toeon sy’n gollwng a waliau llaith â llwydni , mae profiadau negyddol rhai o’n pobl hŷn mwyaf agored i niwed yn arwydd o fwlch polisi mawr.
CYNNYDD MEWN CYDWEITHIO I GEFNOGI CYNNYDD MEWN GALW
Yn 2021-2022, gwnaeth Gofal a Thrwsio helpu 56,897 o bobl hŷn a chwblhau dros 58,000 o brosiectau gwella cartrefi unigol, gyda miloedd angen atgyweiriadau lluosog i’w cartrefi. Caiff cleientiaid eu hatgyfeirio atom gyda phryderon lluosog – mae lloriau anwastad, ffenestri pwdr, lleithder treiddiol, boeleri aneffeithlon, a dim canllawiau cydio y tu allan i’w drysau ffrynt yn dod yn senario fwyfwy cyffredin.
Mae’r heriau hyn yn gofyn am ddatrysiad cydweithredol. Drwy fynd ati mewn modd sy’n ystyried yr unigolyn cyfan, a dod â darparwyr trydydd sector ynghyd sy’n gallu helpu i gefnogi tai gwael, diffyg incwm gwario, iechyd dirywiol a chymuned anhygyrch – gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae Gofal a Thrwsio yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol, Nest (cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru), Awdurdodau Lleol a mudiadau trydydd sector eraill i gyflwyno gwasanaeth holistaidd i’n cleientiaid. Trwy weithio gyda’n gilydd, cyflwynir gwybodaeth arbenigol fel bod y cymorth yn cael ei deilwra i bob unigolyn hŷn, sy’n arbennig o bwysig i’r rheini ag anghenion mwy cymhleth.
Fel mudiad yn y sector gwirfoddol, rydyn ni’n gweithredu mewn amgylchedd fwyfwy cymhleth. Mae perygl Categori 1 yn bresennol mewn un o bob pum cartref yng Nghymru, sy’n golygu bod y cartref yn rhoi iechyd pobl mewn perygl dybryd. Mae hyn yn codi i fwy nag un o bob tri ar gyfer cartrefi a adeiladwyd cyn 1919. Gydag effeithiau tai mewn cyflwr gwael yn methu â chael eu gwirio yn ystod y cyfnodau clo, a nawr yr argyfwng costau byw yn golygu na all pobl hŷn fforddio atgyweiriadau, nid oes gan filoedd unrhyw ddewis ond troi at fudiad Gofal a Thrwsio.
Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd yr heriau y mae Gofal a Thrwsio yn eu gweld bob dydd ond sy’n aml y tu hwnt i’n rheolaeth i’w lliniaru:
- Yr her gyffredinol o wella cartrefi
- Effaith y pandemig
- Costau cynyddol
- Prinder o gontractwyr dibynadwy
- Y cymhlethdod cynyddol o gwblhau prosiectau
- A diffyg arian i helpu’r rheini ar incymau isel
Mae’r heriau hyn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ba mor gyflym y gallwn ni helpu’r rheini sy’n dod atom ni – po hired y byddant yn aros, mwya’n byd yw’r perygl y bydd cyflwr y tŷ a’u hiechyd yn dirywio.
SUT RYDYN NI’N HELPU?
Mae pob cleient Gofal a Thrwsio yn cael cynnig Gwiriad Cartref Iach i asesu ei gartref am beryglon fel risgiau cwympo, llwydni, lleithder, diogelwch nwy ac ati. Yn rhy aml o lawer, ni all y bobl hŷn a welir gan fudiad Gofal a Thrwsio fforddio’r atgyweiriadau i’w tai, ac felly maen nhw’n derbyn byw mewn tai mewn cyflwr peryglus serch y niwed i’w hiechyd a’r risg uwch o gwympo. Mae’r risgiau hyn yn uwch i’r rheini sy’n byw â nam ar y synhwyrau neu anabledd arall, felly mae’n fwy hanfodol fyth bod atgyweiriadau ar gael ac yn fforddiadwy ledled Cymru. Ni allwn ni dderbyn y dylai unrhyw unigolyn hŷn fyw heb gymorth o’r fath.
EDRYCH TUAG AT Y DYFODOL
Er mwyn gwella bywydau’r genhedlaeth hon a chenedlaethau i ddod, rydyn ni’n credu y dylid cyflwyno grant atgyweirio tai rhwyd arbed genedlaethol, wedi’u targedu at bobl hŷn ar incymau isel sy’n byw yn y cyflyrau tlotaf o fewn y sector tai perchen-feddianwyr neu dai a rhentir yn breifat. Wedi’i ddosbarthu a’i oruchwylio gan fudiad Gofal a Thrwsio, un o bartneriaid dibynadwy a phrofedig Llywodraeth Cymru, byddai rhwyd arbed yn galluogi pobl hŷn mewn angen ledled y wlad i gael cymorth ac ymyrraeth i atgyweirio’u cartrefi a byw’n ddiogel, yn gysurus ac yn annibynnol.
Bydd gwella cyflwr tai yn gwella iechyd ac yn lleihau biliau tanwydd. Gyda lefel y tlodi tanwydd ac allyriadau carbon ledled Cymru yn peri mwy a mwy o fraw, byddai ein gwaith ni hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag ynni aneffeithlon ac allyriadau carbon ac yn gwneud cyfraniad pwysig at gadw pobl hŷn yn gynnes, ynghyd â gweithio tuag at nod Llywodraeth Cymru o ddatgarboneiddio pob un o’r 1.4 miliwn o gartrefi erbyn 2050.
Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru eisoes yn cyflwyno effaith ataliol gref ac adenillion cymdeithasol o fuddsoddi. Er enghraifft, mae pob £1 a gaiff ei wario ar wasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach Gofal a Thrwsio yn arbed £8.60 i GIG Cymru ar drefniadau trosglwyddo gofal a rhyddhau gohiriedig. Mae dull cydweithredol yn gweithio. Gallai ein prosiectau partneriaeth, Ysbyty i Gartref Iachach ac Ymdopi’n well gyflwyno mwy fyth o adenillion cymdeithasol o fuddsoddi trwy gyflwyno grant atgyweirio rhwyd arbed, a byddai’n lleihau’r galw ymhellach i lawr o fewn y GIG a Gofal Cymdeithasol.
Yn olaf, byddai cynyddu’r pwyslais ar atal, fel y cefnogir yn ein hadroddiad, yn cefnogi canlyniadau polisïau blaengar Llywodraeth Cymru, fel Cymru o blaid pobl hŷn, Cymru Iachach a Ffyniant i Bawb.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y materion a godwyd yn y blog hwn? Anfonwch e-bost at policy@wcva.cymru.