Yma, mae Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC, yn amlinellu ein rôl a ffocws cyfredol ein gwaith i gefnogi mudiadau gwirfoddol yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ein rôl
Mae CGGC yma i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd. Y funud hon, ein blaenoriaeth bennaf oll yw iechyd a diogelwch pobl a chymunedau ledled Cymru.
Me pob un ohonom yn wynebu sefyllfa ansicr nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen. Rydyn ni wedi gweld dylifiad enfawr o bobl sydd eisiau cynorthwyo ei gilydd yn wirfoddol mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad. Ond mae mudiadau gwirfoddol hefyd yn wynebu anawsterau enfawr. Mae’r rhain yn cynnwys ffrydiau incwm yn chwalu, wrth i’r galw am wasanaethau fynd drwy’r to.
Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd, ar draws y sector gwirfoddol a chyda’r llywodraeth a busnesau hefyd, i gynorthwyo pobl, cymunedau a’n gilydd drwy’r argyfwng hwn. Bydd CGGC yn gwneud popeth posibl i helpu i gyflawni hyn yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Gwybodaeth a chymorth
Mae CGGC wedi creu tudalen we er mwyn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol i’r sector. Rydyn ni hefyd yn darparu bwletin dyddiol i amlygu’r wybodaeth ddiweddaraf. Gwyddom fod gan fudiadau nifer enfawr o gwestiynau ar beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw ar feysydd fel llywodraethu, gofalu am staff a’u cynaliadwyedd ariannol.
Mae gwirfoddoli’n newid dros nos ac mae pobl eisiau gwybod sut gallant wneud yn siŵr y gall pobl gyfrannu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol, ac mewn ffyrdd a fydd yn cadw pawb yn ddiogel. Canllawiau i ddod yn fuan. Mae Gwirfoddoli Cymru yn helpu i gysylltu pobl â mudiadau sydd eu hangen.
Mae CGGC yn cynnig cymorth uniongyrchol i gannoedd o fudiadau drwy ein grantiau a benthyciadau. Rydyn ni wedi sefydlu benthyciadau carlam mewn argyfwng er mwyn i fudiadau gefnogi mudiadau gwirfoddol drwy effeithiau’r coronafeirws a’r llifogydd diweddar. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cyllidwyr i barhau i ddosbarthu ein rhaglenni grantiau a benthyciadau parhaus. Lle bo modd, rydym yn gweithio i ailgyfeirio cronfeydd presennol a datgloi cronfeydd newydd i gefnogi mudiadau a chymunedau yn ystod yr argyfwng hwn.
Cysylltu
Mae CGGC wedi bod yn dwyn mudiadau gwahanol ynghyd i ddeall y problemau y maen nhw’n eu hwynebu ac i gyflwyno mannau lle gall mudiadau weithio gyda’i gilydd. Rydyn ni wedi bod yn siarad yn rheolaidd â’r rhwydwaith o Gynghorau Gwirfoddol Sirol sy’n gweithio’n lleol ledled Cymru. Rydyn ni hefyd mewn cysylltiad â’r rhwydweithiau cenedlaethol ar draws Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a mudiadau cenedlaethol sy’n arbenigo mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac mewn ymateb i argyfwng. Rydyn ni hefyd mewn cysylltiad â’n partneriaid mewn cyrff seilwaith ledled y DU er mwyn cydlynu ymdrechion. Rydyn ni eisiau gwneud mwy i helpu mudiadau i rannu a chydlynu ac rydyn ni’n gweithio ar hyn ar hyn o bryd.
Rydyn ni hefyd mewn cyswllt ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ac yn gweithio gyda CLlLC ac Un Llais Cymru i gefnogi cydweithio lleol.
Dylanwadu
Os yw ein sector yn mynd i allu cynorthwyo pobl a chymunedau drwy’r argyfwng hwn hyd eithaf ein gallu, bydd angen i’r llywodraeth – ar lefel y DU, Cymru ac yn lleol – a’n rheoleiddwyr gymryd camau. Mae angen i CGGC fod yn llais cryf ar gyfer y sector.
Rydyn ni’n gwrando ar amrywiaeth eang o fudiadau. Mae’r prif negeseuon rydyn ni’n eu gwthio ar hyn o bryd yn ymwneud â’r canlynol:
- gwydnwch ariannol y sector – darparu sefydlogrwydd ar unwaith, gan alluogi mudiadau i baratoi a sicrhau eu bod yn gallu adfer yn y tymor canolig ac yn y tymor hirach
- capasiti mudiadau – yn enwedig ynghylch materion staff a gwirfoddolwyr, gan gynnwys hunanynysu, gofal plant a statws gweithiwr allweddol
- y faich reoleiddio gan Lywodraeth Cymru, y llywodraeth leol a chyllidwyr – gan gynnwys hyblygrwydd ar ailgyfeirio adnoddau
Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch
Mae’r wybodaeth rwyf wedi’i chyflwyno yma yn rhoi trosolwg o’n rôl o ran cynorthwyo mudiadau gwirfoddol drwy’r argyfwng hwn. Rhaid i’n gwaith fod yn seiliedig ar eich anghenion chi ar bob adeg, felly os ydych chi’n gweithio yn y sector a chyda phryderon neu anghenion penodol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at help@wcva.cymru.
Nid ydyn ni’n honni bod gennym ni’r holl atebion ac ni fyddwn yn gallu helpu gyda phob problem, ond drwy weithio gyda chi byddwn bob amser yn mynd yr ail filltir i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.