Dwylo person sy'n gweithio gyda phapurau a graffiau

Yng nghanol pob anhawster mae cyfle

Cyhoeddwyd: 27/03/24 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: Natalie Zhivkova

Mae Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau CGGC, yn trafod goblygiadau cyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru.

Nid oedd unrhyw un yn disgwyl newyddion positif yng nghyhoeddiadau’r gyllideb y flwyddyn hon. Nid yw’r chwyddiant wedi sefydlogi eto, mae prisiau tanwydd yn parhau i fod yn uchel, ac mae gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau aruthrol. Cafodd y rhybuddion annymunol fod gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru £1.3 biliwn yn llai, eu dilyn gan gyhoeddiad drafft sy’n symud i ffwrdd o wariant ataliol ac yn canolbwyntio ar dalu costau gweithredol y GIG. A wnaeth unrhyw beth newid yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru? A beth mae *Cyllideb Gwanwyn Canghellor y Trysorlys yn ei golygu i Gymru?

Y DRAFFT

Mae cyllideb drafft Llywodraeth Cymru yn codi pryderon difrifol yn y sector gwirfoddol. Cyhoeddodd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) ddatganiad yn amlygu’r symudiad brawychus i ffwrdd o wariant ataliol a chynllunio hirdymor, gan bwysleisio’r effeithiau cynyddol ar draws lliaws o bortffolios y bydd hyn yn eu cael ar fudiadau gwirfoddol.

Roeddem yn falch o weld nifer o Bwyllgorau’r Senedd yn talu sylw at bryderon y sector ac yn mabwysiadu rhai o’n hargymhellion yn eu hadroddiadau mewn ymateb i’r gyllideb ddrafft.

Y GYLLIDEB DERFYNOL

Fel y disgwyliwyd, nid oedd newidiadau sylweddol yn y gyllideb derfynol a’r un yw ein pryderon ynghylch y cyfeiriad teithio a chynlluniau tymor byr.

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn £14.4 miliwn bellach drwy setliad y Llywodraeth Leol. Disgwylir y bydd rhywfaint o’r dyraniad hwn yn cael ei ddefnyddio i gyllido gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol. Nid yw’r cyllid hwn wedi’i glustnodi ac mae’n rhoi llawer o hyblygrwydd ar gyfer gwariant lleol. Yn ogystal â hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol.

Mae CGGC yn galw ar awdurdodau lleol i ddefnyddio’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector, cydweithio â phartneriaid cyflenwi’r sector gwirfoddol ac i leihau’r baich gweinyddol y maen nhw’n ei wynebu.

NEWIDIADAU ERAILL

Mae sector cymorth digartrefedd a thai Cymru wedi croesawu cynnydd o £13 miliwn i wasanaethau digartrefedd a chymorth, ynghyd â £5 miliwn o ddyraniad pellach i’r gyllideb atal a chymorth digartrefedd.

Bydd £1.4 miliwn yn cael ei rannu rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyda’r nod o rannol gefnogi gwirfoddoli a chyfranogiad cymunedol. Fodd bynnag, nid yw’r dyraniad hwn yn ddim o’i gymharu â’r toriadau i’r sector diwylliant a threftadaeth yn gyffredinol, ac mae *protestiadau wedi’u cynnal.

Nid ydym eto’n deall effeithiau posibl y dyraniad o £10.5 miliwn i’r Gronfa Gweithlu Gofal Cymdeithasol a’r dyraniad o £185,000 i ddatblygu cynigion ar gyfer trafnidiaeth gymunedol yng Ngorllewin Cymru.

Rydym yn croesawu’r estyniad o £5 miliwn i’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol a mynegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei bwriad i osod cynllun ar gyfer dyfodol Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn dilyn toriadau sylweddol yn y gyllideb hon.

Nid oes unrhyw arwydd y bydd Cyllideb Gwanwyn Llywodraeth y DU yn arwain at unrhyw fuddion diriaethol i’r sector gwirfoddol yng Nghymru drwy symudiadau canlyniadol Barnett. Mae cyhoeddiad y Canghellor o £45 miliwn i gefnogi gwaith ymchwil ym meysydd dementia, canser ac epilepsi yn newyddion da i elusennau ymchwil meddygol, ond nid oes fawr mwy i fod yn gyffrous amdano. Mae’r *Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol *Pro Bono Economics wedi cyhoeddi dadansoddiad defnyddiol ar yr effeithiau disgwyliedig i sector gwirfoddol y DU.

Y FFORDD YMLAEN

Rydym yn mynd drwy gyfnod economaidd anodd ac mae’r golau ar ben arall y twnnel yn parhau i fod yn bell i ffwrdd yn ôl pob golwg. Ond yn aml, yng nghanol anhawster mae cyfle. Mae cyfle i’r sector gydweithio’n agosach i gyflawni ein nodau cyffredin. Mae cyfle i’r sector cyhoeddus hwyluso’r baich gweinyddol ar bartneriaid cyflenwi’r sector gwirfoddol. Ac mae cyfle i ddatblygu a chryfhau ein cydberthnasau â’r Prif Weinidog a chabinet newydd yng Nghymru a chyda Llywodraeth newydd y DU o fewn y flwyddyn nesaf. Bydd angen i ni weithio’n galed i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn. Mae cydweithio, meddwl ochrol a siarad mewn un llais yn bwysicach nag erioed.

AELODAETH CGGC

Rydyn ni’n credu y gallwn wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd, felly beth am ymuno â ni a’n rhwydwaith cynyddol o fudiadau ledled Cymru?

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i fudiadau ag incwm blynyddol o £50,000 neu lai, ac fel arall yn dechrau ar £32 y flwyddyn yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn aelod ewch i’n tudalen aelodaeth.

*Saesneg yn unig