Mae WCVA a TUC Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar siarter ddrafft i egluro a chryfhau’r berthynas rhwng staff cyflogedig a gwirfoddolwyr. Dyma Fiona Liddell yn egluro pam.
Pa mor aml ydych chi’n gadael cyfarfod yn teimlo wedi’ch grymuso, yn optimistaidd ac wedi’ch synnu gan gyflymder datblygiadau positif?
Dyna’n union sut y teimlais ar ôl cyfarfod diweddar rhwng TUC Cymru a WCVA, ynghyd â chynrychiolwyr undebau llafur a mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, i drafod fersiwn ddiwygiedig Siarter WCVA a TUC Cymru.
Pam diwygio’r siarter?
Ers y siarter wreiddiol, a gyhoeddwyd yn 2011, mae ein cyd-destun o ran deddfwriaeth a pholisi wedi newid yn sylweddol yng Nghymru.
Mae pwyslais newydd ar wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, cydweithio rhwng partner-fudiadau ac anelu at wasanaethau cyhoeddus mwy cydgysylltiedig ac integredig.
Rhoddir pob anogaeth i feddwl o’r newydd am ddarparu gwasanaethau lleol mewn ffyrdd sy’n darparu gofal yn nes at gartref pobl ac ar sail ‘beth sydd bwysicaf’ i’r unigolyn.
Dyma gyfle amserol i ystyried o’r newydd ble a sut y mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu.
Ble y gallent alluogi gofal mwy cydgysylltiedig, gofal cynt neu ofal sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn, er enghraifft, a ble y gallent alluogi staff proffesiynol i dreulio mwy o amser yn gwneud yr hyn na all neb arall ond y nhw ei wneud?
Daw peryglon gyda’r cyfleoedd wrth gwrs, a dyma ble y gall siarter for o gymorth, drwy nodi egwyddorion positif o arfer da gan roi sylw priodol i ddiogelwch cleifion, llesiant gwirfoddolwyr a staff a phwysigrwydd perthynas gytûn.
Beth sy’n wahanol?
Ar wahân i newidiadau yn y cyd-destun ac iaith, y prif wahaniaeth yw bod egwyddorion y siarter yn cael eu cyflwyno o dan dair egwyddor gyffredinol.
Gellid dadlau y bydd popeth yn disgyn i’w le os cedwir at y rhain! Dyma ni’r tair prif egwyddor felly, ac esboniad byr o’r hyn sydd ym mhob un. Mae’r fersiwn lawn ar gael yma:
Egwyddor graidd rhif Un: Caiff gwirfoddoli ei gynllunio’n strategol, nid mewn ymateb i argyfwng
Mae cynllunio’n strategol yn golygu darparu adnoddau yn strategol, gan fuddsoddi mewn arweinyddiaeth yn ogystal ag adnoddau gweithredol ar gyfer gwirfoddoli.
Mae’n golygu bod rhanddeiliaid perthnasol yn trafod rolau gwirfoddoli ac yn cytuno arnynt, bod y peryglon yn cael eu hasesu a bod mesurau priodol a chymesur yn cael eu rhoi ar waith.
Egwyddor graidd rhif Dau: Mae gwirfoddolwyr yn darparu rhywbeth ychwanegol er budd defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr cyflogedig
Mae’r egwyddor bod gwirfoddoli yn ychwanegol at waith cyflogedig, yn hytrach na’i ddisodli, yn hanfodol i sicrhau perthynas gytûn yng nghyd-destun ein gwasanaethau cyhoeddus statudol.
(Yn achos mudiadau a arweinir gan wirfoddolwyr, fodd bynnag, megis St John Cymru, y Samariaid neu’r RNLI, mae gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau craidd. Y naill ffordd neu’r llall, dylai polisi gwirfoddoli’r mudiad egluro’n glir y berthynas rhwng gwirfoddoli a chenhadaeth graidd y mudiad).
O dan yr egwyddor hon rydym yn cadarnhau parch at safonau proffesiynol a chodau ymddygiad a’r angen i sicrhau bod modd adnabod gwirfoddolwyr yn hawdd, drwy iwnifform neu fathodyn.
Egwyddor graidd rhif Tri: Mae gwirfoddoli yn dilyn arfer gorau cydnabyddedig
Amlygir yma’r angen i gynnwys gwirfoddolwyr, staff ac undebau llafur wrth ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau, yn ogystal ag arfer da o ran hyfforddi, cefnogi a goruchwylio, rheoli ffiniau a disgwyliadau, delio gydag anawsterau a chwynion, diogelwch a chydraddoldeb.
Caiff arfer gorau cydnabyddedig mewn perthynas â gwirfoddoli ei egluro ymhellach yn y Safon Ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (sydd wrthi’n cael ei hadolygu a’i diwygio).
Cydweithio
Roedd aelodau o Rwydwaith Gwirfoddoli Cymru yn rhan o drafodaethau cynnar ynglŷn â diwygio siarter 2011 a bu grŵp bach yn gweithio ar ddrafft a anfonwyd i TUC Cymru.
Cafwyd adborth ystyriol gan Unsain, GMB a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, a gafodd ei gynnwys yn y drafft nesaf yn barod i’w drafod wyneb yn wyneb.
Dywedodd Nisreen Mansour, Swyddog Polisi TUC Cymru ‘Mae’n teimlo’n amserol ac yn bwysig adnewyddu’r siarter wrth i ni hefyd weithio i gryfhau’r model partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru a chyflogwyr.
‘Yn bwysig, mae’r egwyddorion yn sicrhau nad yw staff cyflogedig yn cael eu disodli gan wirfoddolwyr a bod gwirfoddoli yn cael ei gynllunio gyda chyfraniad cyflogwyr ac undebau.
‘Fe wyddom pa mor bwysig yw gwirfoddoli – sefydlwyd ein mudiad gan wirfoddolwyr – ac mae’r siarter yn ffordd ragweithiol o ddatblygu perthynas bositif rhwng staff a gwirfoddolwyr yn y gweithle.’
Mae Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA, wedi croesawu’r datblygiad gan ddweud ‘Mae gwirfoddoli – rhoi o’ch amser i achosion agos at eich calon – yn rhywbeth sy’n digwydd bob dydd ym mhob cymuned ledled Cymru.
‘Mae’r gallu i hyrwyddo gwirfoddoli ar y cyd â TUC Cymru yn ddatblygiad pwysig iawn. Wrth gydweithio’n strategol ac yn drefnus gallwn amlygu arfer gorau a’r gwerth ychwanegol y mae gwirfoddolwyr yn ei gynnig.’
Cysylltwch a ni
Gallwch ddarllen y siarter ddrafft yma. Anfonwch eich sylwadau erbyn diwedd mis Hydref fliddell@wcva.org.uk. Bwriadwn hefyd lunio casgliad o Gwestiynau Cyffredin, felly os oes yna gwestiynau yr hoffech eu gweld yn cael eu hateb, rhowch wybod i ni.
Byddwn yn cwrdd eto â’n cydweithwyr o’r undebau ym mis Tachwedd i adolygu’r adborth yr ydym wedi’i gael gan rwydweithiau ein gilydd a chytuno ar fersiwn derfynol.
Rhagwelwn y byddwn yn lansio’r siarter newydd ym mis Rhagfyr.
Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu yn WCVA. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (WCVA a’r 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.