Older people doing various arts and crafts

Ymhél â phreswylwyr cartrefi gofal

Cyhoeddwyd: 14/09/22 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae Age Cymru yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ac ymarferwyr artistig i ymhél mewn sgyrsiau ystyrlon â phreswylwyr cartrefi gofal a chyflwyno rhaglenni o weithgareddau pwrpasol i wella eu llesiant.

Y llynedd, gyda chymorth Helplu Cymru yn CGGC a Llywodraeth Cymru, gwnaeth Age Cymru beilota model ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr mewn cartrefi gofal. Cynhyrchwyd pecyn cymorth sy’n cynnwys gwybodaeth gyhoeddusrwydd, canllawiau a thempledi a fydd yn ddefnyddiol i fudiadau eraill sydd eisiau gweithio gyda chartrefi gofal i ddatblygu gwirfoddoli.

Nod y prosiect cychwynnol oedd galluogi ymweliadau diogel yn ystod cyfyngiadau’r pandemig. Nawr, mae cyllid dilynol gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi’r gwaith i ddatblygu mewn ffyrdd a fydd yn fwy cyffrous a phositif i bawb dan sylw.

BETH FYDD YN DIGWYDD NESAF?

Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi gan ymarferwyr artistig proffesiynol i gael sgyrsiau ystyrlon â phreswylwyr, gan ddefnyddio set o gardiau awgrym i drafod hanes eu bywydau, diddordebau, gobeithion a dyheadau. Datblygwyd y dull (tudalen Saesneg yn unig) i alluogi preswylwyr i rannu eu profiadau a’u barnau yn ystod y pandemig.

Bydd cydlynydd gweithgareddau’r cartref gofal, ynghyd â’r artist, yn gallu nodi themâu sy’n dod i’r amlwg wedyn a dylunio rhaglen i fynd i’r afael â dymuniadau ac anghenion y preswylwyr. Bydd mwy o wirfoddolwyr yn cael eu recriwtio i gefnogi’r gwaith o gyflawni hyn.

PWY FYDD YN CYMRYD RHAN YN Y PROSIECT?

Mae naw cartref yn cymryd rhan yn y prosiect:

  • Glan Rhos – Ynys Môn
  • Ysguborwen – Aberdâr
  • Tŷ Coch, Llanisien, Caerdydd
  • Llys Cyncoed – Caerdydd
  • Cartref Nyrsio Duffryn Ffrwd, Nantgarw.
  • Plas Bryn Rhosyn – Castell-nedd
  • Capel Grange – Casnewydd
  • Llys y Seren – Port Talbot
  • Tŷ Nant – Port Talbot

Bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan dyngedfennol mewn cefnogi gweithgareddau yn y cartref fel cerddoriaeth, celf, ymarfer corff ysgafn a digwyddiadau teuluol. Byddant hefyd yn cefnogi sgyrsiau ystyrlon â phreswylwyr er mwyn llywio’r gwaith o gyflawni’r prosiect, ar sail syniadau’r bobl sy’n byw a gweithio yn y cartref gofal.

I wirfoddoli neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â carehomevolunteer@agecymru.org.uk.