Mae Eleanor Jones, Rheolwr Llywodraethu CGGC, yn rhannu prif ganfyddiadau gwaith ymchwil diweddar a gafodd ei wneud gan y Charity Finance Group ar fancio i elusennau.
Diolch i’r rheini ohonoch a gymerodd ran yn yr arolwg bancio diweddar i elusennau. Mae’r adroddiad llawn wedi’i gyhoeddi nawr gan y *Charity Finance Group a bydd mwy o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn mewn ymateb i ganfyddiadau’r arolwg.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn *yma.
YSTADEGAU ALLWEDDOL
Gwnaeth 2,000 o bobl rannu eu profiadau o heriau bancio elusennau. Gwnaeth elusennau ag incwm blynyddol o lai na £10,000 i rai ag incwm o dros £100 miliwn gymryd rhan.
Dyma oedd y prif heriau a brofwyd:
- Newid y mandad – Roedd 75% o’r ymatebwyr wedi cael anawsterau.
- Adnabod – Roedd 34% o’r ymatebwyr yn gorfod mynd i’r gangen yn bersonol, a nododd llawer ohonynt heriau wrth geisio profi pwy oedd y llofnodwyr neu’r mudiad.
- Dau lofnodydd neu awdurdod – Dywedodd dros 500 o’r ymatebwyr wrthym nad oedd ganddynt gyfrifon â dau awdurdod ar gyfer trafodion, er mai hyn sy’n cael ei argymell gan reoleiddwyr elusennau er mwyn rheoli risg ac atal twyll.
- Dadrisgio – er bod rhewi neu gau cyfrifon dim ond wedi effeithio ar 12% o’r ymatebwyr, roedd hyn yn her arbennig i elusennau sy’n gweithredu dramor. Roedd pryder ynghylch dadrisgio hefyd yn ffactor yn y straen a brofwyd gan ymddiriedolwyr elusennau, gwirfoddolwyr a staff.
- Cyfathrebu – roedd nifer o brofiadau yn deillio o gyfathrebu gwael, yn bennaf cyfathrebu’r banciau a sefydliadau ariannol â’u cwsmeriaid elusennol.
PRIF THEMÂU
Gellir rhannu’r heriau yn dair thema eang: gwybodaeth a dealltwriaeth, cyfathrebu ac awydd am lai o gymhlethdod.
ARGYMHELLION
I fanciau a sefydliadau ariannol
- Gwella gwybodaeth am fudiadau elusennol a dealltwriaeth ohonynt ymhlith staff, yn enwedig y rheini mewn rolau sy’n ymdrin â chwsmeriaid mewn canghennau, canolfannau cyswllt neu ganolfannau gwasanaethau cwsmeriaid.
- Creu a chynnal timau gwasanaethau cwsmeriaid penodedig i gefnogi ymholiadau ynghylch cyfrifon elusennol a chymunedol, a sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth i ymateb yn briodol.
- Sicrhau bod manylion cyswllt y tîm gwasanaethau cwsmeriaid penodedig yn cael eu rhannu â’r holl staff sy’n ymdrin â chwsmeriaid a chwsmeriaid sydd â chyfrifon elusennol neu gymunedol, fel y gellir cyfeirio ymholiadau at y bobl gywir, y tro cyntaf.
- Gweithio gyda thimau cydymffurfio a systemau i addasu ffurflenni a gwybodaeth am gyfrifon elusennol a chymunedol er mwyn adlewyrchu’r iaith y mae’r mudiadau hynny yn ei defnyddio.
- Datblygu mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o strwythurau a modelau llywodraethu mudiadau elusennol fel rhan o adnabod eich cleient.
- Adolygu’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi i gwsmeriaid cyfrifon elusennol a chymunedol ar Know Your Client (KYC), Atal Gwyngalchu Arian a Chyllido Gwrthderfysgaeth (AML/CFT) i helpu derbynyddion i ddeall pam mae’r mesurau hyn yn berthnasol i bob cwsmer bancio.
- Adolygu cyfathrebiadau â deiliaid cyfrifon elusennol a chymunedol er mwyn sicrhau bod y rhain yn bodloni gofynion y Ddyletswydd Defnyddwyr.
- Cynnal dadansoddiad cost a budd o addasu systemau awtomatig er mwyn ymdrin â chyfrifon elusennol a chymunedol.
- Dylai mudiadau elusennol gymryd camau i herio eu banc neu sefydliad ariannol pan na fydd y cyfathrebu yn bodloni gofynion y Ddyletswydd Defnyddwyr, gan ddefnyddio’r weithdrefn gwyno os oes angen.
I reoleiddwyr
- Parhau i roi arweiniad a gwybodaeth i ymddiriedolwyr elusennau a’r rheini â rheolaeth ariannol dros fudiadau elusennol – yn ogystal ag i’r rheini sy’n rheoli arian – ar ddefnyddio gwasanaethau bancio’n effeithiol er mwyn cefnogi llywodraethu da, rheoli risg a diogelu rhag twyll.
- Parhau i gasglu data ar faterion bancio sy’n effeithio ar elusennau, gan rannu data cryno â rheoleiddwyr gwasanaethau ariannol.
- Dylai rheoleiddwyr y sector ariannol fod yn effro i’r heriau sy’n wynebu mudiadau elusennol a chymryd camau i sicrhau bod banciau a sefydliadau ariannol yn cyfathrebu’n fwy effeithiol â’r grŵp hwn o gwsmeriaid.
- Dylai rheoleiddwyr y sector elusennol a rheoleiddwyr y sector ariannol gydweithio i gefnogi llywodraethu da, rheoli risg ac atal twyll.
CAEL CYMORTH
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch ar y pwnc hwn, mae croeso i chi gysylltu ag Eleanor Jones, Rheolwr Llywodraethu CGGC – llywodraethu@wcva.cymru – neu gallwch siarad â’ch CVC lleol. Rydym yma i helpu.
*Saesneg yn unig