Person yn dal clipfwrdd ac yn ysgrifennu nodiadau gyda pherson arall yn eistedd ar soffa

Ydyn ni’n gwybod sut i #TiciorBlwch?

Cyhoeddwyd: 25/11/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Dionne Sturdy-Clow

Mae Dionne Sturdy-Clow, Swyddog Prosiect Rhodd Cymorth y Charity Finance Group, yn mynd drwy’r canlyniadau a’r argymhellion o Arolwg Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024.

AROLWG YMWYBYDDIAETH RHODD CYMORTH 

Fel rhan o ymgyrch Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth y Charity Finance Group (CFG), cynhaliodd yr CFC arolwg o weithwyr cyllid proffesiynol ac arweinwyr elusennau mewn 100 o elusennau gwahanol ynghylch eu profiad o Rodd Cymorth.

Gwnaethom synhwyro fod rhai wedi syrffedu ar arolygon, felly roeddem wrth ein boddau â nifer yr ymatebion ac yn ddiolchgar i’r rheini a roddodd o’u hamser i roi mewnwelediad i ni o’u profiad o hawlio’r rhyddhad treth hanfodol hwn.

Gallwch *ddarllen adroddiad yr Arolwg Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth neu ddarllen crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg yn yr erthygl newyddion hon gan yr CFG: *Adroddiad newydd yr CFG yn datgelu bod angen gwneud mwy i fanteisio i’r eithaf ar y cynllun Rhodd Cymorth hanfodol.

PAM WNAETHOM NI EF?

Fel Swyddog Prosiect Rhodd Cymorth yr CFG, efallai fy mod ychydig yn unochrog, ond rwy’n credu mai Rhodd Cymorth yw’r ochr cŵl o ryddhad treth …

Roedd 90% o’r elusennau a arolygwyd wedi cofrestru i hawlio Rhodd Cymorth a gwnaethant nodi pa mor werthfawr oedd y rhyddhad treth iddyn nhw. Serch bod yn ffynhonnell hanfodol o incwm ar gyfer y sector, yn dod ag oddeutu £1.6 biliwn i dros 66,000 o elusennau ledled y DU, amcangyfrifir bod oddeutu £560 miliwn y flwyddyn nad yw’n cael ei hawlio o hyd (darllenwch fwy yn *ystadegau rhyddhad treth elusennau’r llywodraeth).

Roeddem ni eisiau edrych ar y rhwystrau i gofrestru a hawlio a gweld beth oedd y sector yn ei ddweud y gellid ei wneud i gau’r bwlch Rhodd Cymorth.

CHWALU’R RHWYSTRAU

Mae’r adroddiad yn dangos bod yn rhaid gwneud mwy i wneud y mwyaf o bob hawliad. Ymhlith yr anawsterau allweddol oedd:

  1. Cofrestru a hawlio:
  • Credai 20% o’r elusennau fod hawlio Rhodd Cymorth yn ‘anodd’ neu’n ‘anodd iawn’. Darllenwch fwy gan Third Sector: *Ymchwil yn dangos bod hawlio Rhodd Cymorth yn anodd i un o bob pump elusen.
  • Mae 60% o elusennau yn ymwybodol o naill ai ‘llawer’ neu ‘ychydig’ o’r cymorth sydd ar gael wrth gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth a gwneud hawliadau.
  • Ond mae 16% yn parhau i ddweud nad oes digon o gymorth.
  1. Diffyg ymwybyddiaeth:
  • Hoffai 70% ohonynt weld mwy yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o Rodd Cymorth ymhlith y cyhoedd.
  • Mae 50% o elusennau o blaid y syniad o ymgyrch ymwybyddiaeth i’r cyhoedd a gefnogir gan y llywodraeth.
  1. Heriau gweithredol:
  • Hoffai 40% pe bai’r rheolau o ran Rhodd Cymorth yn fwy eglur ac yn haws eu deall.
  • Mae elusennau yn wynebu heriau gweinyddol a gall fod yn anodd deall y rheolau treth fwy cymhleth, sy’n arwain at golli hawliadau. Mae rhai elusennau yn colli incwm Rhodd Cymorth oherwydd diffyg adnoddau a chymorth.

ARGYMHELLION

Gwnaeth yr adroddiad argymell newidiadau i helpu elusennau fanteisio i’r eithaf ar y ffynhonnell hanfodol hon o incwm:

  1. *Dyfodol Rhodd Cymorth: Mae’r CFG yn ailadrodd ‘gofyniad’ y sector elusennau i’r llywodraeth ddatblygu’r prosiect Dyfodol Rhodd Cymorth.
  2. Proses gofrestru fwy syml: Dylid symleiddio a gwella proses gofrestru a hawlio’r Rhodd Cymorth a all fod yn anodd i lawer o elusennau a mynd â llawer o’u hamser.
  3. Hybu Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (GASDS): Mae’r adroddiad arolygu yn argymell codi swm uchaf y GASDS o £30 i annog pobl i’w gefnogi a chodi mwy o arian.
  4. Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth uwch: Dylid lansio ymgyrchoedd wedi’u targedu er mwyn hysbysu rhoddwyr ac elusennau o bwysigrwydd Rhodd Cymorth a’r GASDS, ac o’r gwerth ychwanegol y mae’n ei gyflwyno i’r achosion sy’n agos at eu calonnau.
  5. Mwy o gymorth a hyfforddiant: Mae angen cynnig mwy o hyfforddiant cynhwysfawr ac adnoddau cymorth i helpu elusennau i fanteisio i’r eithaf ar Rodd Cymorth.
  6. Datrysiadau technolegol: Dylid parhau i edrych ar ddigideiddio ac awtomeiddio prosesau Rhodd Cymorth.

YMGYRCH DIWRNOD YMWYBYDDIAETH RHODD CYMORTH – #TICIORBLWCH!

Cafodd yr ymgyrch Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth ei ddechrau gan yr CFG yn 2019 i:

  • ddeall y rhwystrau i gofrestru a hawlio
  • codi ymwybyddiaeth y sector, y cyhoedd a’r llywodraeth ac i’n
  • hannog ni i gyd i #TiciorBlwch.

Gwnaeth miloedd o elusennau ymuno â’r ymgyrch yn 2024, *fel y gwelwch chi o rai o’n hoff bostiadau.

Mae’r CFG hefyd yn cynnal y Weminar Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth bob mis Hydref. Ychwanegwch eich manylion at y ffurflen isod i gofrestru am ddiweddariadau neu ewch i  *dudalen ddigwyddiadau’r CFG i weld pa ddigwyddiadau eraill sydd gennym yn y gofod hwn. Gallwch hefyd fynd i’n *Hyb Rhodd Cymorth am ddigonedd o adnoddau defnyddiol.

YMUNWCH AG YMGYRCH DIWRNOD YMWYBYDDIAETH RHODD CYMORTH 2025

A wnewch chi ymuno â ni fis Hydref nesaf? Gwnewch addewid i gefnogi ymgyrch Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2025 drwy lenwi’r *ffurflen fer hon. Dewiswch faint o ran yr hoffech chi ei chwarae a chofrestrwch i gael diweddariadau ar sut gallwch gymryd rhan. Byddwch hefyd yn gweld gwybodaeth am adnoddau sydd ar gael i helpu eich elusen i fanteisio i’r eithaf ar Rodd Cymorth.

Os ydych chi’n unigolyn, yn gorff ymbarél neu’n fudiad corfforaethol, gallwch chi barhau i gymryd rhan! Gallech ddysgu sut i #TiciorBlwch y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’ch hoff siop elusen neu’n rhoi ar-lein, rhannu eich neges ar gyfryngau cymdeithasol, cefnogi ein digwyddiadau neu bartneru â ni i wneud rhagor o waith ymchwil. Sut bynnag y byddwch yn dewis cymryd rhan, gallwch helpu i gau’r bwlch Rhodd Cymorth.

I gael rhagor o wybodaeth am y Charity Finance Group a’r cymorth sydd ar gael i’n haelodau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r ymgyrch Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth, mae croeso i chi gysylltu â Dionne.Sturdy-Clow@cfg.org.uk.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hawlio Rhodd Cymorth, gallwch ddarllen canllawiau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF): *Hawlio Rhodd Cymorth fel elusen neu Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC).

YNGLŶN Â DIONNE

Ymunodd Dionne ag CFG yn Ionawr 2024 fel Swyddog Prosiect Rhodd Cymorth. Ei rôl yw arwain ymgyrch Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yr CFG, a’i gwneud yr un mwyaf effeithiol hyd yma!

*Saesneg yn unig