Dyma Philip Hill o Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddweud wrthym ni am adnoddau newydd am ddim i helpu mudiadau i fesur llesiant meddyliol pobl a sut gallwch chi gael hyfforddiant ar eu defnyddio.
DIOGELU LLESIANT MEDDYLIOL
Mae ein llesiant meddyliol yn chwarae rôl ganolog yn ein hiechyd cyffredinol. Mae’n llunio’r ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn ac yn dylanwadu ar bopeth, o’n cydberthnasau i’n gallu i ymdopi â throeon bywyd.
Pan fydd ein llesiant meddyliol yn bositif, rydyn ni’n fwy tebygol o wneud dewisiadau iach, ymhél â phobl eraill a byw bywyd sy’n teimlo’n llawn diben ac yn werth chweil. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio at gyflwr o lesiant positif fel ‘teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda’.
Mae’r ymdeimlad o berthyn, cysylltiad a gofal a ddarperir gan fudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i lesiant meddyliol pobl. Trwy leihau ynysu, dod â phobl ynghyd ac ennyn ymddiriedaeth o fewn cymunedau, mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn creu’r cyflyrau delfrydol i lesiant meddyliol ffynnu.
SUT GALL MUDIADAU FESUR LLESIANT MEDDYLIOL?
Gall dechrau mesur llesiant meddyliol deimlo’n hynod anodd, ond d’oes dim rhaid iddo fod. I fudiadau gwirfoddol a chymunedol, mae ffyrdd syml, dibynadwy ac ystyrlon o fynd ati.
Ond er bod llawer o adnoddau ar gael, mae’n hanfodol dewis un dibynadwy, hawdd ei ddefnyddio sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS) yn cynnig ffordd glir ac ymarferol o ddeall sut mae pobl yn wirioneddol deimlo.
BETH YW WEMWBS?
Adnodd am ddim, hawdd ei ddefnyddio yw *WEMWBS, sydd wedi’i ddylunio i fesur llesiant meddyliol pobl ifanc ac oedolion. Yn wahanol i lawer o asesiadau, mae WEMWBS yn mynd ati mewn modd positif, gan asesu pa mor dda y mae pobl yn teimlo ac yn gweithredu yn eu bywydau bob dydd.
Mae’n cynnwys 14 o ddatganiadau sy’n ymdrin ag agweddau fel optimistiaeth, egni a pherthnasau, gyda chyfranogwyr yn graddio pa mor aml y maen nhw wedi profi pob un yn ystod y bythefnos ddiwethaf. Caiff pob datganiad ei raddio o un i bump, gyda sgôr gyffredinol uwch yn nodi llesiant meddyliol gwell.
Mae fersiwn byrrach dilys o saith datganiad – Graddfa Llesiant Meddyliol Byr Warwick-Caeredin (SWEMWBS), hefyd ar gael. Argymhellir *SWEMWBS yn aml pan fydd angen cipolwg cyflym neu os oes proses fonitro mwy o faint ar waith.
Mae’r ddwy raddfa ar gael ac wedi’u dilysu i’w defnyddio yn Gymraeg.
PAM DEFNYDDIO WEMWBS NEU SWEMWBS?
Drwy helpu pobl a gwella bywydau bob dydd, mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn cefnogi ac yn gwarchod llesiant meddyliol pobl ar hyd a lled cymunedau, ond mae llawer o fudiadau yn ei chael hi’n anodd dangos y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud.
Heb ffordd gyson o fesur llesiant meddyliol, mae mudiadau mewn perygl o golli effaith lawn eu gwaith neu ddeall lle y gallai fod angen iddyn nhw wella.
Gall WEMWBS neu SWEMWBS helpu mudiadau i ddangos effaith yn glir dros amser. Gall yr adnoddau hefyd ddarparu data i lywio sut gallai gwasanaethau gynllunio neu addasu eu cynigion.
YMWREIDDIO PROSES MESUR LLESIANT MEDDYLIOL MEWN PROSIECTAU
Y newyddion da? Mae’r ddau adnodd am ddim i’w defnyddio at ddibenion anfasnachol, ac nid oes angen i chi fod yn arbenigwr clinigol i’w defnyddio chwaith.
Dyma rai awgrymiadau allweddol:
- Cyflwynwch yr adnodd yn ofalus: Eglurwch pam eich bod yn ei ddefnyddio a sut bydd y data yn cael ei ddefnyddio.
- Sicrhewch gysondeb a chyfrinachedd: Parchwch breifatrwydd ac annibyniaeth cyfranogwyr.
- Defnyddiwch yr adnodd yn gyson: mae cymharu cyn ac ar ôl ymyrraeth yn bwerus tu hwnt.
Gallwch ddod o hyd i’r ddwy raddfa, ynghyd â chanllawiau ar y telerau defnyddio, addasrwydd, rhinweddau, sgorio, dehongliad a chyfarwyddiadau sgorio ar *wefan CORC.
A ALLECH CHI ELWA AR FWY O GYMORTH?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio pennu a oes diddordeb ar draws y sector gwirfoddol i gael hyfforddiant a chymorth pwrpasol ar ddefnyddio WEMWBS yn ymarferol.
Ydych chi’n fudiad sydd â diddordeb mewn:
- Deall beth mae WEMWBS a SWEMWBS yn ei fesur a pham mae hyn yn bwysig?
- Magu hyder mewn defnyddio’r adnoddau’n effeithiol gyda’ch cyfranogwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau?
- Dysgu sut i ddadansoddi a defnyddio data llesiant meddyliol i wella eich gwasanaethau?
- Rhannu dysgu a phrofiadau gyda phobl eraill yn y sector?
- Darganfod sut gall data llesiant meddyliol gryfhau ceisiadau cyllido a dylanwadu ar bolisïau?
Os hoffech chi neu gydweithwyr ymuno â gweminar ar y pwnc hwn yn y dyfodol, rhowch wybod i CGGC drwy anfon e-bost i iechydagofal@wcva.cymru.
AROLWG
Rydyn ni’n cynnal arolwg byr i ddarganfod beth mae’r sector yn ei wybod am WEMWBS. Gallwch chi ei gwblhau yma.
ADNODDAU
Gallwch ddysgu mwy am beth yw llesiant meddyliol, pam ei bod hi’n bwysig gofalu am eich llesiant meddyliol a’r gwahaniaethau gwahanol a all ei gefnogi drwy ymweld â Hapus Cymru, neu wylio’r weminar hon gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I wybod mwy am waith y sector yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.