Mae hyfforddwr Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn, Rosie Cribb, yn rhannu ei phrif awgrymiadau ag elusennau bach er mwyn gwneud y gorau o roddion ariannol unigol trwy godi arian trwy e-bost.
Mae’n gred gyffredinol bod denu rhoddion unigol yn faes unigryw ar gyfer elusennau mawr sydd â’r gyllideb a’r capasiti i gynllunio, cyllido a gweinyddu ymgyrchoedd codi arian pwerus o ansawdd uchel.
Fodd bynnag, mae’n ffaith ddiddorol mai codi arian trwy e-bost (sef chwilio am roddion trwy anfon e-bost at eich cefnogwyr neu gefnogwyr posibl) sydd â’r enillion uchaf ar fuddsoddiad o unrhyw ddull digidol o godi arian, ac mae’n gyfrifol am oddeutu 1/3 o refeniw codi arian ar-lein mudiadau nid-er-elw.
Gyda 72% o gyfraniadau i elusennau yn cael eu gwneud gan unigolion (ffynhonnell ww.nptechforgood.com), mae’r dull o annog cyfraniadau gan unigolion yn faes sy’n cael ei anwybyddu gan nifer o elusennau bach ledled y DU sy’n teimlo ‘nad yw ar eu cyfer nhw’.
Efallai ei fod yn teimlo fel gormod o fynydd i’w ddringo, neu na fyddai modd ei wneud yn iawn gyda chyn lleied o adnoddau. Yn ddigon aml, o’n profiad ni, nid yw, yn syml, yn cael ei weld fel blaenoriaeth.
Fodd bynnag, ni fyddai’n cymryd llawer i elusen fach brofi’r dŵr a throchi bysedd eu traed yn y maes codi arian hwn. Wrth adlewyrchu ar y ddwy flynedd ddiwethaf – Brexit i gychwyn a nawr Covid-19 – mae’n ymddangos bod gennym ymdeimlad cryfach o gymuned nag erioed. Efallai mai nawr yw’r amser i fanteisio ar y posibilrwydd o roddion unigol wedi’u lleoleiddio?
Darllenwch ymlaen i weld strategaeth roi unigol syml ar gyfer elusen fach sydd heb lawer o adnoddau.
Byddwch yn barod i dderbyn rhoddion ar-lein
Yn gyntaf, bydd angen integreiddio gweithrediad rhoi ar-lein i’ch gwefan (mae nifer o gwmnïau yn darparu’r gwasanaeth masnach hwn, a’r rhan fwyaf yn cymryd comisiwn bach).
Rhai enghreifftiau yw www.enthuse.com a www.justgiving.com.
Cadwch y cyfan yn syml – gwnewch yn siŵr bod y llwybr rhoi yn syml i’w lywio, gyda galwad gref i weithredu sy’n mynd â chi’n syth i’r dudalen roi.
Mae’n ddefnyddiol awgrymu symiau o roddion yn gysylltiedig â gweithgareddau eich elusen, e.e. bydd £50 yn talu i 5 o bobl hŷn neu bobl wedi’u hynysu fynychu clwb cinio.
Mae gwefan Top Non-Profits yn cynnig y cynghorion hyn ar gyfer creu tudalennau rhoi effeithiol.
Crëwch gynnwys ysgogol
Ystyriwch sut y byddwch yn denu rhoddwyr posibl i’ch tudalen roi. Mae cynnwys fideo yn prysur ddod yn fodd hynod effeithiol o ymgysylltu, ac nid oes angen i hyn fod yn ddrud i’w gynhyrchu o angenraid.
Ystyriwch sut y gallwch wneud cynnwys fideo ynglŷn â’ch gwaith yn fewnol. Gall iPhones gynhyrchu ffilmiau o ansawdd uchel – cadwch nhw’n fyr ac yn ysgogol.
Mae nifer o becynnau meddalwedd ar gael hefyd i’ch helpu i olygu eich ffilmiau er mwyn iddynt edrych yn glir a phroffesiynol. Gall www.openshot.org neu hyd yn oed yr ap ‘iMovie’ wella ac ychwanegu’n sylweddol at eich ffilmiau, ac mae’r ddau yn rhad ac am ddim.
Gwnewch yn siŵr fod gennych alwad ysgogol i weithredu – dywedwch wrth bobl am effaith eich gwaith, y gwahaniaeth mae’n ei wneud a cheisiwch greu cyswllt emosiynol gyda’r darllenydd/ gwyliwr.
Mae’r wefan www.fiverr.com yn cynnwys cynllunwyr, gwneuthurwyr ffilm ac ysgrifenwyr copi llawrydd o bedwar ban y byd sy’n medru golygu eich ffilmiau, neu greu ffilmiau proffesiynol wedi’u hanimeiddio am bris isel iawn.
Os ydych chi’n teimlo bod cynhyrchu fideo y tu hwnt i’ch gafael ar hyn o bryd, ysgrifenwch e-bost ysgogol yn cynnwys adborth gan eich buddiolwyr a ffotograffau o’ch gwaith.
Esboniwch eich angen ac, os yw’n angenrheidiol neu’n addas, peidiwch â bod ofn defnyddio synnwyr o enbydrwydd – beth fydd yn digwydd os na fydd pobl yn rhoi arian?
Datblygwch restr bostio
Gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu cyfeiriadau e-bost yn rheolaidd gan bobl sy’n defnyddio’ch gwasanaeth.
Mae’r holl randdeiliaid yn rhoddwyr posibl – teuluoedd a ffrindiau buddiolwyr, mudiadau partner, cymunedau lleol, defnyddwyr eich gwasanaethau, cyflenwyr, neu efallai bobl nad ydych erioed wedi cwrdd â nhw ond sydd â diddordeb yn eich achos.
Ydyn, mae rheolau GDPR yn ei gwneud yn fwy cymhleth nag yr arferai fod, a bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â GDPR yn eich holl gyfathrebiadau, felly gwnewch yn siŵr fod gennych strategaeth ar gyfer cydymffurfio â GDPR sy’n sail i’ch holl brosesau cadw data a chyfathrebiadau.
Adeiladwch berthnasoedd
Gallai gwahanol ffyrdd o wahodd pobl i ymuno â’ch rhestr bostio gynnwys:
- ffurflenni cofrestru ar eich safle neu mewn digwyddiadau
- bod â gweithrediad cofrestru ar eich gwefan
- defnyddio’ch tudalen Facebook i annog pobl i gofrestru
Gall casgliad o gyfeiriadau e-bost sy’n cydsynio â rheolau GDPR fod yn un o’ch teclynnau mwyaf gwerthfawr yn nhermau codi arian, gan greu rhoddwyr ‘cynnes’ posibl y gallwch gychwyn adeiladu perthnasoedd â nhw.
Rosie Cribb yw sylfaenydd Funding Assist, Ymgynghoriaeth Codi Arian y Trydydd Sector www.fundingassist.co.uk @FundingAssist