Yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, mae Natalie Zhivkova, Swyddog Polisi Gwirfoddoli CGGC, yn taflu goleuni ar wirfoddoli cymunedol.
Yn y dyddiau cyn refferendwm datganoli 1997, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol bryd hynny, Ron Davies, boblogeiddio’r syniad o Gymru fel ‘cymuned o gymunedau’. Rwyf wastad wedi meddwl bod hwn yn ddisgrifiad addas iawn o’n cenedl, sy’n crynhoi amrywiaeth a chyfoeth ein cymunedau clos ni.
Ac felly, yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, byddwn ni’n cyhoeddi’r gyntaf mewn cyfres o flogiau a fydd yn amlygu gwirfoddoli cymunedol ym mhob cwr o Gymru, a’i gyfraniad gwerthfawr at Nodau Llesiant Cymru.
YSBRYDOLIAETH
Cyn mis sanctaidd Ramadan, roeddwn i wedi fy nghyfareddu yn gwrando ar gydweithwyr yn siarad am yr holl weithgareddau cymunedol roedden nhw’n edrych ymlaen at gymryd rhan ynddyn nhw ac, ar wahân i obeithio y bydden i’n cael fy ngwahodd i un o’r gwleddoedd Iftar gwych (fel y cefais!), gwnaeth wneud i mi feddwl am yr holl wirfoddoli cymunedol hynny sy’n siŵr o fynd o dan y radar, nid dim ond yn ystod Ramadan, ond drwy gydol y flwyddyn, yn y byd Mwslimaidd ac mewn cymunedau ffydd eraill.
D’oes dim ateb hawdd i hyn, nid yw gwirfoddolwyr cymunedol yn dueddol o gofnodi eu horiau, cymryd rhan mewn trafodaethau polisi nac hyd yn oed ystyried eu hunain yn ‘wirfoddolwyr’ yn y lle cyntaf. Estyn help llaw mae rhywun yn ei wneud pan fydd yn rhan o gymuned.
Roeddwn i eisiau defnyddio’r blog hwn i amlygu rhai o’r pethau rwyf wedi sylwi arnynt am wirfoddoli cymunedol drwy gydol Ramadan.
SYLFEINI
Y cam cyntaf tuag at ddysgu yw cydnabod cymaint dydych chi ddim yn ei wybod. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am ddysgeidiaeth Islam a gallwn i fyth gyfathrebu â’r gymuned hon, a deall eu cymhellion dros wirfoddoli, heb ddysgu mwy am yr egwyddorion y maen nhw’n glynu atynt yn eu bywydau.
Bûm yn ddigon lwcus i gael fy ngwahodd, ynghyd â grŵp o ddisgyblion blwyddyn 3 o Sir Fynwy, i ymweld â Chanolfan Ddiwylliannol Fwslimaidd Grangetown. Cyrhaeddodd bws ysgol yn gynnar yn y bore yr hoff ffordd o Sir Fynwy.
Roedd y rôl yr oedd y gwirfoddolwyr yn ei chwarae yn yr ymweliad ysgol ei hun yn amlwg ar unwaith – cafodd ddrysau’r mosg eu hagor gan Ysgrifennydd Cyffredinol gwirfoddol y ganolfan, ac roedd yr ysgol wedi dod â’u gwirfoddolwyr eu hunain, a oedd yn cynorthwyo’r bws llawn disgyblion i dynnu eu hesgidiau cyn mynd i mewn i’r neuadd weddïo.
Gwnaethon ni i gyd ddysgu llawer am Islam y diwrnod hwnnw, ac roedd hi’n ddiddorol gweld chwilfrydedd a chyffro’r plant wrth gael eu cyflwyno i’r credoau a’r arferion a ddilynwyd yn y gymuned hon yn Grangetown.
CERDDED YR HOLL FFORDD I MECCA
Trwy gael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a oedd yn dod i’r meddwl i Iman a Mwslimiaid mewn gair a gweithred, gallai’r disgyblion nid yn unig gael gwybodaeth, ond hefyd wneud cysylltiad cadarnhaol â chymuned na fydden nhw o bosibl wedi dod ar ei thraws fel arall.
Gwnaethon ni ddysgu nad oes disgwyl i bererinion gerdded (na nofio?) y 4,000 o filltiroedd a mwy o Gaerdydd i Mecca, ond gwnaethon ni hefyd ddysgu pam a sut mae’r plant lleol yn dysgu Arabeg yn y ganolfan, pam mae Mwslimiaid yn gweddïo pum gwaith y dydd ac yn ymprydio yn ystod Ramadan, ynghyd â’r rôl allweddol y mae Zakah (rhoi elusennol) yn ei chwarae mewn Islam.
D’oes dim dwywaith bod yr ymweliad yn helpu i gyfrannu at ‘Gymru o Gymunedau Cydlynus’ (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) a byddai’n bendant yn cynorthwyo’r disgyblion i fod yn ‘ddinasyddion egwyddorol gwybodus yng Nghymru a’r Byd’, fel y nodwyd ym mhedwar diben y Cwricwlwm newydd i Gymru’. Roedd y gwirfoddolwyr, o’r gymuned a’r sector gwirfoddol ‘traddodiadol’ yn allweddol i alluogi’r ymweliad hwn.
EFFAITH
Ar ôl yr ymweliad ysgol, ceisiais fesur yr effaith y mae’r rheini sy’n gwirfoddoli yng Nghanolfan Ddiwylliannol Fwslimaidd Grangetown yn ei chael drwy gyfweld â Tariq – cydweithiwr sy’n gweithio yn nhîm Cynhwysiant Gweithredol CGGC, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y ganolfan – rôl wirfoddol y mae wedi’i gwneud ers 20 mlynedd.
Dywedodd Tariq wrthyf ei fod yn gwirfoddoli yn y mosg am ryw ddwy awr yr wythnos ar gyfartaledd. Mae hwn yn oddeutu 104 o oriau bob blwyddyn, 2,080 o oriau dros 20 mlynedd, neu 297 o ddiwrnodau gwaith!
Nid yw ei weithredu gwirfoddol yn cael ei gofnodi na’i adrodd yn swyddogol, ac eto i gyd, mae’r effaith ar y gymuned leol a thu hwnt yn bellgyrhaeddol. Mae’r ganolfan yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, gyda 12 aelod o’r gymuned yn aelodau Bwrdd a llawer mwy o wirfoddolwyr yn helpu gyda nifer dirifedi o dasgau gwahanol – o baentio ac addurno, trefnu sesiynau casglu sbwriel yn yr ardal leol, i sicrhau bod pellter cymdeithasol yn cael ei gadw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
CREU GOFOD I’R GYMUNED
Mae’r mosg mewn adeilad a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol. Yn fuan ar ôl i’r ganolfan gau, gwnaeth gwirfoddolwyr o’r gymuned leol gofrestru elusen a dechrau codi arian. Blwyddyn yn ddiweddarach, prynwyd yr adeilad ganddyn nhw ac aethant ati i’w drawsnewid.
Nawr, mae’r ganolfan yn cynnal gwasanaethau crefyddol, cymorthfeydd cynghorydd lleol, dosbarthiadau iaith, canolfan ddydd i bobl hŷn a gofod i gynnal gwasanaethau angladdol Islamaidd a digwyddiadau cymdeithasol bach. Mae’r gwerth cymdeithasol y mae’r ganolfan hon yn ei gyflwyno i’r ardal yn mynd ymhell y tu hwnt i ddiwallu anghenion y gymuned graidd o wirfoddolwyr sy’n ei rhedeg.
Yn ogystal â hyn, maen nhw’n cynnal digwyddiad codi arian ar gyfer gwahanol elusen bob diwrnod o’r wythnos yn ystod mis Ramadan, ac mae’r mwyafrif o’r elusennau a gefnogir yn helpu pobl mewn angen dramor. Am gyfraniad gwych at ‘Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’!
CYMUNED O GYMUNEDAU
Er mai fy mwriad gwreiddiol oedd i’r prosiect hwn roi chwyddwydr ar y garfan o wirfoddolwyr yng Nghanolfan Ddiwylliannol Fwslimaidd Grangetown, buan y sylweddolais nad oedd hyn yn hawdd nac yn ddefnyddiol.
Os awn ni’n ôl i’r cysyniad o ‘gymuned o gymunedau’ – mae’r we gymhleth o gysylltiadau rhwng cymunedau yng Nghymru yn hanfodol i lwyddiant parhaus pob un ohonyn nhw. Roedd yr ymweliad ysgol a welais yn bosibl oherwydd gwirfoddolwyr y mosg, yn ogystal â gwirfoddolwyr yr ysgol, ac roedd hefyd yn fuddiol i’r ddau grŵp.
Mae’r bartneriaeth fer hon yn cyflwyno buddion i’r canlynol:
- Y disgyblion a’u hathrawon (dysgu rhyngweithiol)
- Cymunedau Mwslimaidd ar hyd a lled Cymru (goddefgarwch a chynhwysiant)
- Gwirfoddolwyr ysgol (profiad gwaith, ymdeimlad o berthyn i’w cymuned eu hunain)
- Cymdeithas Gymreig (Cymru o Gymunedau Cydlynus)
BOD YN RHAN O DDARLUN MWY O FAINT
Rai wythnosau ar ôl yr ymweliad ysgol, cefais fy ngwahodd i Iftar cymunedol yn y ‘Grange Pavillion’ cyfagos. (Iftar yw’r pryd bwyd nos y mae Mwslimiaid yn ei gael i dorri’r ympryd pan fydd yr haul yn machlud yn ystod Ramadan.) Cyrhaeddais ychydig yn gynnar a bûm yn ddigon lwcus i glywed cyfarfod cyffredinol blynyddol (AGM) y Pafiliwn, a oedd, yn gyfleus iawn, yn cael ei gynnal y prynhawn hwnnw.
Roedd hwn yn ei hun yn enghraifft o weithredu gwirfoddol a oedd yn haeddu cael ei amlygu a dweud y gwir, oherwydd fe wnaeth fy nghyflwyno i blethora o grwpiau gwirfoddoli yn Grangetown – garddio, fforwm ieuenctid, tai, ymhlith pethau eraill.
Ar ôl yr AGM, gwnaeth grwpiau cymunedol bywiog Grangetown i gyd ymgasglu yn y caffi i ddysgu am bwysigrwydd Iftar, clywed yr alwad i weddïo (a chymryd rhan ynddo os oedden nhw’n dymuno) cyn i ni i gyd fwynhau gwledd gwbl ogoneddus (ac enfawr!) a ddarparwyd gan fusnesau lleol.
Gwnaeth y digwyddiad hwn ddwyn ynghyd cymaint o isadrannau cymdeithas sifil – grwpiau cymunedol, trigolion chwilfrydig Grangetown, gwirfoddolwyr o’r mosg lleol a’r ganolfan gymunedol leol. Daeth yr holl gymunedau hyn at ei gilydd i ddysgu, rhannu a dangos gwerthfawrogiad o arferion un grŵp.
O ran y gwirfoddoli ymarferol yn ystod y digwyddiad, d’oedd dim gwahaniaeth rhwng gwirfoddolwyr y mosg, gwirfoddolwyr grwpiau cymunedol eraill nac aelodau Bwrdd y Pafiliwn, gyda phawb yn torchi llewys i osod y byrddau, helpu i weini a glanhau. Efallai mai dyma un o’r heriau wrth geisio diffinio a mesur gwirfoddoli cymunedol?
MWY AM WIRFODDOLI A’R WYTHNOS GWIRFODDOLWYR
Gobeithio bod y cipolwg hwn ar ddim ond un o gymunedau amrywiol Cymru wedi helpu i ddangos buddion ac effeithiau amrywiol gwirfoddoli cymunedol neu ‘anffurfiol’. Gallwn ni ddweud, heb os, bod gwirfoddolwyr cymunedol yn hanfodol i greu ‘Cymru o Gymunedau Cydlynus’.
Os yw hwn wedi codi awydd arnoch i wirfoddoli, beth am fynd i Gwirfoddoli Cymru lle gallwch chi ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli o bob lliw a llun yng Nghymru.
Hefyd, darllenwch ein herthygl ar Wythnos Gwirfoddolwyr i weld sut gallwch chi gymryd rhan.