Paentio ffenestri yn Antur Waunfawr, a dderbyniodd cyllid i fuddsoddi yn eu canolfan drwy ein Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol (SBGF). Mae SBGF wedi’i chyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Ydy hi’n amser ailedrych ar eich cynlluniau twf?

Cyhoeddwyd: 20/08/21 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Alun Jones

A oedd rhaid i chi ohirio’ch cynlluniau oherwydd y pandemig? Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC sy’n esbonio pam mai nawr yw’r amser i edrych ar dwf a chynhyrchu incwm.

Rydw i wedi bod yn y sefyllfa freintiedig o allu helpu rhai sefydliadau gwych i ddefnyddio buddsoddiad er mwyn ehangu ar eu gwaith a chynyddu eu heffaith gymdeithasol.

Byddai llawer o fudiadau gwirfoddol Cymru wedi bod yn barod i ddatblygu’u gweithgareddau cyn i COVID-19 ymddangos, ond eu bod wedi gorfod rhoi’r cynlluniau hynny o’r neilltu am y tro, a hynny’n ddealladwy.

Rydyn ni mewn cyfnod tyngedfennol ar hyn o bryd. Ar un llaw, mae cyfyngiadau’r Coronafeirws yn llacio yng Nghymru, ac ar y llaw arall, mae amser yn mynd yn brin er mwyn manteisio ar gymorth ariannol ar gyfer twf a chynhyrchu incwm drwy Gyllid Ewropeaidd.

Y GRONFA TYFU BUSNESAU CYMDEITHASOL

Os oes gennych chi syniad i ehangu ar eich gwaith a fydd yn creu swyddi ac yn helpu i gynyddu eich effaith gymdeithasol, gallai’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol fod o gymorth mawr i chi ddechrau arni.

Gall y Gronfa ddarparu buddsoddiad o hyd at £150,000 i fudiadau sy’n gweithio mewn rhanbarthau cymwys o Gymru. Mae’r cymorth sydd ar gael yn gymysgedd o grantiau a chymorth ad-daladwy (gyda llog o 0%), a pho fwyaf y byddwch chi’n gor-gyflawni wrth greu swyddi, po leiaf fydd angen ei ad-dalu.

Mae angen arian cyfatebol, ac mae’n bosib bod rhai ohonoch yn bryderus am y gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig â Chyllid Ewropeaidd, ond mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yma i’ch helpu chi, ac rydyn ni’n annog mudiadau i godi’r ffôn i drafod syniadau ac i siarad am y ffordd y gallai’r gronfa weithio i chi.

PA ARDALOEDD O GYMRU SY’N GYMWYS?

Er bod yr holl gronfeydd sydd ar gael wedi’u dyrannu i’r ardaloedd dwyreiniol a deheuol, mae modd i fudiadau sy’n gweithredu yn y siroedd eraill wneud cais hefyd.

Mae cyllid ar gael i Flaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, a Thorfaen.

Map yn dangos sut mae'r gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn rhannu Cymru yn ddwy, gydag ardaloedd Dwyrain Cymru (Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Dyffryn Morgannwg) a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (y siroedd sy'n weddill)

Map yn dangos y rhanbarthau a all elwa o’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol. Mae cyllid ar gael ar gyfer y rhai sy’n gweithredu yn siroedd y gorllewin a’r cymoedd.

MAE’R CLOC YN TICIO

Mae cyllid yr UE ar gael o hyd er mwyn cefnogi twf a chynhyrchu incwm ar gyfer mudiadau gwirfoddol mewn sawl rhan o Gymru, ond mae amser yn brin i wneud cais. Os ydych chi’n ystyried mynd â’ch busnes sy’n cael ei yrru gan genhadaeth i’r lefel nesaf, cofiwch gysylltu â ni, fan leiaf fe ddylen ni allu dangos i chi beth yw’ch opsiynau.

BYDDWCH YN RHAN O’R GWADDOL

Yng Nghymru, rydyn ni wedi bod yn fuddiolwyr net o Gyllid Ewropeaidd, ac ers i’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol agor, rydyn ni wedi gweld llawer o brosiectau twf ysbrydoledig gan bob math o fudiadau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth, ac rydyn ni’n awyddus iawn bod mudiadau o rannau cymwys o Gymru yn manteisio ar y cyfle tra ei fod yn dal ar gael.

Er bod y cyfle yma gan gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, mae cwestiwn yn dal i fod ynghylch beth fydd nesaf i Gymru, ac rydyn ni am barhau i ddangos i gyllidwyr yr effaith werthfawr mae mudiadau gwirfoddol yn ei chael ar ein cymdeithas a pham mae’r buddsoddiad yma mor bwysig.

CYSYLLTWCH I DRAFOD EICH SYNIADAU

Er mwyn dysgu rhagor ac i drafod eich syniadau, cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru drwy ffonio 0300 111 0124 neu e-bostio sic@wcva.cymru. Os hoffech drefnu galwad ar amser penodol, gallwch drefnu galwad un i un yma. Mae gwybodaeth ar gael ar ein tudalen Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol hefyd.

Mae’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru i’w galluogi i dyfu a chreu cyfleoedd gwaith. Mae’r Gronfa’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r gyfres o fuddsoddiadau a gaiff ei gweinyddu gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.