Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, dyma Alun Jones i adrodd y stori o sut dechreuodd popeth a pham ei fod yn parhau i’n codi ni o’n gwlâu.
Gallech ddisgrifio Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) fel damwain hapus, ond heb ragweledigaeth Phil Fiander, cyn Ddirprwy Brif Weithredwr CGGC, mae’n bosibl na fyddai wedi digwydd o gwbl.
Fe ddigwyddodd o ganlyniad i’r senario clasurol hwnnw o danwariant yn arian yr UE, ac awgrymwyd efallai y byddai CGGC yn hoffi rhedeg cynllun grant ar gyfer yr hyn a oedd bryd hynny’n sector mentrau cymdeithasol a oedd yn parhau i ddatblygu. Diolch i’r nefoedd, gwrthododd Phil y cynnig hwnnw ond awgrymodd ein bod yn rhedeg cynllun benthyca yn lle.
DOD YN FENTHYCIWR
Ar ôl hynny, dechreuodd y gwaith go iawn – nid oedd CGGC erioed wedi benthyg arian o’r blaen. Gyda chymorth Walter Dickie yn Lloyds TSB, cafodd popeth ei roi yn ei le ac yn 2006 roedd ton gyntaf yr arian yn cael ei rhoi ar waith mewn cymunedau.
Y buddiolwr cyntaf oedd Parc Sglefrio Glynrhedynog, er nad ydynt gyda ni mwyach, sy’n gadael Awel Aman Tawe (AAT) fel ein ‘benthyciwr byw hynaf’. Ers cael benthyciad i brynu eu safle yng Nghwmllynfell, mae AAT wedi tyfu’n eithriadol o gyflym ac wedi datblygu i fod yn ffagl ddisglair ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru, heb sôn am fod yn llysgennad gwych ar gyfer benthyciadau ariannol SIC.
20 MLYNEDD AC £20 MILIWN YN DDIWEDDARACH
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, rydyn ni wedi rhoi £20 miliwn mewn cyllid i fwy na 300 o fudiadau ar hyd a lled Cymru. Mae llawer wedi dychwelyd dro ar ôl tro gan eu bod yn credu bod cyllid ad-daladwy’n allweddol i wireddu eu huchelgeisiau am dwf ac effaith. Os mai un o’n prif nodau oedd creu cronfa fenthyca bytholwyrdd, rydyn ni wedi ticio’r blwch hwnnw heb os.
Heb eisiau swnio’n rhy ffroenuchel, rydyn ni siŵr o fod yn weddol agos ati os oes cymaint o bobl eisiau defnyddio’r hyn y gallwn ni ei gynnig. Mae cael ein cydnabod ar y llwyfan ehangach wedi bod yn wych hefyd, yn ennill gwobrau ‘Bargen Mentrau Cymdeithasol y Flwyddyn’ Social Enterprise UK yn 2017 ac yn ddiweddar iawn yn 2025.
DIM PRINDER YSBRYDOLIAETH
Mae gweld y twf hwnnw mewn mudiadau o ran eu graddfa, eu hyder a’u heffaith yn un o’r pethau sy’n gwneud y tîm SIC mor wych i weithio ynddo. Nid oes unrhyw brinder o ysbrydoliaeth i’n tynnu ni allan o’n gwlâu yn y bore, mae hynny’n bendant, fel y gwelwch chi’n amlwg mae’n siŵr ar wynebu’r bobl yn y fideos y byddwn ni’n eu rhannu yn ystod y flwyddyn ben-blwydd hon.
Byddwn ni hefyd yn rhannu canlyniadau ein hadroddiad Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi, ond rhywsut, er ei fod yn gwbl angenrheidiol, nid yw’n teimlo’n gwbl briodol i fesur pethau’n ariannol. Y wên a’r llawenydd sy’n dweud y stori go iawn.
DATHLU 20 MLYNEDD
I ni, mae ein dathliadau eleni yn ymwneud â cheisio dal ac arddangos yr emosiwn hwnnw ac efallai lledaenu ychydig mwy. Gobeithio y byddwch chi’n hoffi’r pethau rydyn ni wedi’u trefnu (cadwch lygad allan).
Ydy, mae SIC wedi bod yn llwyddiant ym mhob ffordd bosibl, ond nid ein llwyddiant ni yw ef, eich llwyddiant chi yw hwn, y mudiadau yn ein sector. Rydyn ni’n gwneud ein rhan i helpu, ond eich egni, ymroddiad a’ch brwdfrydedd chi dros eich cenhadaeth yw’r hyn sy’n deffro’r hud.
Ymlaen â ni i’r ugain mlynedd nesaf. Daliwch ati i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud mor dda ac fe fyddwn ni yno i chi.
RHAGOR AM HYN
Darllenwch ragor am ddathliad 20 mlynedd Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi helpu mudiadau gwirfoddol o bob math a maint i fuddsoddi yn y newid y maen nhw eisiau ei weld – edrychwch ar sut gallai cyllid ad-daladwy gefnogi eich uchelgeisiau.