gwirfoddolwr yn pasio cawl i rhywun

Y wasgfa fawr i elusennau

Cyhoeddwyd: 03/04/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Ruth Marks

Mae elusennau a’r sector gwirfoddol yng Nghymru’n wynebu cyfnod heriol ac ansicr yn ystod yr achos cyfredol o COVID-19.

Rydyn ni wedi gweld ymateb syfrdanol gan bobl sydd eisiau gwirfoddoli a chan fudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. Maen nhw’n gwneud gwaith hanfodol, yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar bobl a chymunedau yn ystod yr argyfwng hwn – ac yn fwy hirdymor.

Yn anffodus, nid yw’r stori hon yn unigryw. Mae’r galw am wasanaethau llawer o fudiadau gwirfoddol wedi saethu i fyny, ond ar yr un pryd, mae ymdrechion codi arian wedi cael eu llesteirio wrth i lawer o farathonau, cyngherddau elusennol a digwyddiadau gwerthu cacennau gael eu canslo. Mae canolfannau cymunedol, siopau a gwasanaethau lletygarwch hefyd wedi gorfod cau.

Mae’r South Wales Argus wedi adrodd ar yr effaith y mae hyn wedi’i chael ar yr elusen plant, Sparkles, yn Hosbis Dewis Sant. Mae’r BBC wedi adrodd ar yr effaith ar Hafal Cymru a Music in Mind.

Wrth gwrs, mae mudiadau gwirfoddol ledled Cymru’n cydnabod pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn ac yn cefnogi’r penderfyniad i ganslo digwyddiadau mawr a chau busnesau dianghenraid. Ond, gallai hyn gael effaith sylweddol.

Yr effaith ariannol ar elusennau yng Nghymru

O safbwynt ariannol yn unig, mae llawer o fudiadau’n gweld eu ffrydiau incwm yn sychu’n gyfan gwbl. Yn ôl amcangyfrifon y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, NID oes gan 24% o elusennau sy’n gwneud llai nag £1 miliwn o incwm arian wrth gefn. Mae llawer o elusennau Cymru’n llai na hyn.

Wrth reswm, mae’r wasgfa ariannol hon yn cael effaith ar y bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae llawer o fudiadau gwirfoddol mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt leihau eu gweithgareddau ar yr union adeg y maen nhw eu hangen mwyaf. Dyma pam na fydd cynlluniau sy’n rhoi seibiant i staff yn briodol i bob elusen o bosibl – maen nhw’n golygu y bydd yn rhaid lleihau gwasanaethau.

I fudiadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, ni allai hyn fod wedi dod ar adeg waeth. Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i elusennau o bob math gynnig llai o wasanaethau, llai o raglenni a helpu llai o bobl yn y pen draw.

Elusennau mawr hefyd o dan fygythiad

Adroddwyd ddoe fod Cancer Research UK a Barnardo’s yn wynebu gostyngiadau mawr yn eu hincwm. Y rhain yw dwy elusen fwyaf y DU, a’r rhai sy’n fwyaf effeithiol am godi arian. Mae’r ffaith fod yr elusennau mawr hyn yn wynebu anawsterau yn adlewyrchu’r her enfawr sy’n wynebu mudiadau llai ar hyd a lled Cymru. Er enghraifft, mae Aren Cymru wedi dweud wrthym eu bod yn disgwyl gostyngiad o 33% yn eu hincwm yn ystod y tri mis nesaf.

Mae mudiadau gwirfoddol eraill hefyd yn cysylltu ag CGGC i ddweud eu bod nhw hefyd, waeth a ydynt yn gweithio’n uniongyrchol i drechu’r materion sy’n ymwneud a’r coronafeirws neu beidio, yn gweld gostyngiad mewn incwm. Rhybuddia CWVYS, sy’n cynrychioli grwpiau ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru, y bydd yn rhaid i rai dorri gwasanaethau neu gau’n gyfan gwbl. Mae llawer o ymddiriedolaethau byd natur yn wynebu anhawster, ac mae Amgueddfa Cwm Cynon wedi gweld yr incwm y mae’n ei chreu ei hun yn diflannu ers gorfod cau ei drysau dros dro. 

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae CGGC wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gyfres o gronfeydd i gefnogi gwirfoddoli a’r sector gwirfoddol yng Nghymru, fel y’u cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf. Bydd y rhain yn hyrwyddo gwirfoddoli ac yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol ar y rheng flaen. Mwy o fanylion i ddod. Rydyn ni hefyd wedi llunio rhestr lawn o gyngor a chanllawiau ar gyfer elusennau.

Mae rhai adroddiadau wedi nodi bod yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ystyried opsiynau i fwydo arian i mewn i elusennau. Hoffai CGGC eu gweld nhw’n gwneud hyn, gan sicrhau ei fod ar gael i elusennau o bob maint ledled y DU sy’n gweld cwymp incwm sector cyfan.

Dylai elusennau sy’n chwilio am gyngor ar eu cyllid gysylltu â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC ar SIC@wcva.cymru i drafod yr opsiynau sydd ar gael.