Mae fenyw yn eistedd yn edrych yn awyddus yng nghadair

Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant: Ydy hi’n wirioneddol Drawsnewidiol?

Cyhoeddwyd: 23/07/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Simon Jones

Yn yr ail o’n herthyglau ar y Cynllun Iechyd newydd i Fenwod a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant, mae Simon Jones, Pennaeth Polisi, Ymgyrchoedd a Chyfathrebiadau Mind Cymru, yn edrych yn fanylach ar yr effaith y bydd yn ei chael ar y sector gwirfoddol.

Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd cael strategaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant ar waith sy’n gosod y cyfeiriad teithio a’r bwriad ar gyfer y deng mlynedd nesaf. Er bod etholiad ar y gorwel yng Nghymru, dylai’r strategaeth hon gynnig ychydig o sefydlogrwydd o ran sut rydym eisiau gweithio ochr yn ochr â’r holl rai hynny sydd angen cymorth â’u hiechyd meddwl.

MOMENT DRAWSNEWIDIOL

Mae’r Strategaeth yn teimlo fel moment drawsnewidiol go iawn ar gyfer cymorth a mynediad at iechyd meddwl yng Nghymru. Er bod angen canolbwyntio ar gael y system yn iawn, mae’n cydnabod bod yr hyn sy’n gyrru iechyd meddwl gwael yn aml y tu allan i’r GIG.

Heb gymryd yr amser i ddeall a mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ac economaidd ehangach anhwylder meddyliol, y cwbl y byddwn ni’n ei wneud o hyd fydd ei reoli yn hytrach na’i wella.

Mae’r ddogfen yn cydnabod y partneriaethau sydd eu hangen â’r sector gwirfoddol os yw’n mynd i lwyddo. Mae symud i system ofal tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar hawliau, heb wahaniaethu na stigma, yn ganolog i ddarparu nifer o wasanaethau a rhaglenni’r sector gwirfoddol. Mae’n hanfodol bod mudiadau yn gallu parhau i weithio gyda’r cymunedau sy’n ymddiried ynddynt.

GWRANDO AR ANGHENION

Mae lansiad y strategaeth newydd hon wedi canolbwyntio’n fawr ar y cynnig i roi dull ymyrraeth gynnar ar waith lle bydd pawb yn cael ‘mynediad agored at ofal iechyd meddwl yr un diwrnod pryd a lle bynnag y bo’i angen, gyda chyn lleied o asesiad â phosibl’. Pan rydym ni’n siarad â phobl am gael help, mae mynediad amserol sy’n seiliedig ar eu hanghenion yn thema gyson.

Mae’r trawsnewidiad o’r ffordd y cawn ein cefnogi’n bositif ac eto, mae hyn wedi bod yn ganolog i ddarparu llawer o raglenni a gwasanaethau’r sector gwirfoddol. Ond, rhaid i hyn fod yn fwy na dim ond cyflwyno model newydd o ofal iechyd meddwl. Rhaid ei gyfuno â newid diwylliannol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda phobl er mwyn diwallu eu hanghenion, yn hytrach na dim ond cynnig yr hyn y mae’r system eisoes yn ei darparu.

Mae cyfle gan y sector gwirfoddol i arwain y newid diwylliannol hwn, ar sail y ffordd rydym yn gweithio gyda’n cymunedau a’r ymddiriedaeth sy’n rhan o’n darpariaeth.

GWNEUD PETHAU’R FFORDD IAWN

Er bod gan y strategaeth y bwriad iawn a’i bod yn teimlo fel moment drawsnewidiol go iawn, mae ffordd o deithio rhwng yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu ar y dudalen a’r realiti o effeithio’n bositif ar fywydau pobl. Mae perygl ein bod yn gweld modelau newydd sy’n ddim mwy nag addasiadau o bethau sydd eisoes yn cael eu darparu, gyda’r un ffordd o feddwl a’r un diwylliant.

Os ydym ni am sicrhau sylfaen i gymorth iechyd meddwl ein cenedl, sy’n seiliedig ar hawliau a heb stigma, mae’n rhaid i ni harneisio’r egni i newid y system a’r diwylliant sydd wrth ei wraidd drwy symud y pŵer yn ôl i’r rheini sy’n chwilio am help. Bydd hyn yn gofyn am egni, arweinyddiaeth gref a’r parodrwydd i ymhél â sgyrsiau anodd a gonest.

Mae’r strategaeth wedi paratoi’r ffordd ar gyfer hyn a chyfrifoldeb pob partner yw hi nawr i wneud y newidiadau parhaol i’r system iechyd meddwl y mae pob un ohonom ni am weld.

ADNODDAU PELLACH

Gallwch ddarllen y flog cyntaf ar y pwnc yma.

Mind Cymru

Darllen y Cynllun Iechyd newydd i Fenwod a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant

I wybod mwy am y dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.

Mae’r egwyddorion a ddilynir gan Lywodraeth Cymru wrth gyllido’r sector wedi’u nodi yn y Cod Ymarfer ar gyfer ariannu’r trydydd sector.