Edrych tua’r dyfodol wrth i dirwedd ariannu’r DU symud ymlaen o gronfeydd yr UE.
Mae’r term ‘codi’r gwastad’ wedi’i gynnwys yn drwm mewn cyfeiriadau at gronfeydd disodli’r Undeb Ewropeaidd. Boris Johnson oedd y cyntaf i’w ddefnyddio yn ei anerchiad cyntaf ac, yn hwyrach, cafodd ei gynnwys ym maniffesto 2019 y Blaid Geidwadol ac, eto, yn anerchiad y Frenhines yn gynharach eleni.
Beth yw ystyr ‘codi’r gwastad’?
Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi parhau i fod yn aneglur o ran diffinio Codi’r Gwastad, gobeithiwn, wrth gyhoeddi Papur Gwyn yn yr hydref, y byddwn yn derbyn mwy o eglurder. Rydyn ni’n dehongli Codi’r Gwastad fel cyfeirio at ardaloedd y maent wedi’u nodweddu gan danberfformiad economaidd eang. Fel arfer, mae iechyd a lles yn yr ardaloedd hyn yn gymharol wael ac, mewn rhai achosion, gall fod yn seiliedig ar ddad-diwydiannu neu ddiweithdra hirdymor a materion economaidd-gymdeithasol.
Cynllun ar gyfer Tyfu
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Trysorlys ei Gynllun ar gyfer Tyfu. Mae’n cynnwys nifer o feysydd y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflenwi ei agenda codi’r gwastad trwyddynt – gan gynnwys adnewyddu cymunedau sy’n profi trafferthion trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, y Gronfa Adfywio Cymunedol, y Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.
Ychydig o ymgynghori
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnal ychydig iawn o ymgynghori ar y cronfeydd disodli. Mae CGGC, ynghyd â chynrychiolwyr eraill ar draws y sector gwirfoddol, wedi’i gynnwys yn rhan o amrywiaeth o drafodaethau ag amrywiaeth o adrannau’r Llywodraeth (gan gynnwys y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a’r Adran gwaith a Phensiynau) – er bod ceisiadau i ni a chynrychiolwyr eraill fynychu sesiynau ymgysylltu, cyflwyno adborth a thystiolaeth wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf, wrth i ddyddiadau lansio agosáu (ac, weithiau, fynd heibio).
O safbwynt allanol, mae cydlynu rhwng yr adrannau wedi teimlo’n amrywiol wrth i adrannau gwahanol y Deyrnas Unedig arwain ar feysydd gwahanol yn y cronfeydd – a phob un yn meddu ar ei hegwyddorion, ei hagenda, a’i chymhelliant ei hun i ymgysylltu.
Ail-greu perthynas
Mae’r pontio rhwng cyllid Undeb Ewropeaidd a chyllid canolog y Deyrnas Unedig hefyd wedi dangos angen brys i’r sector gwirfoddol yng Nghymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gryfhau eu perthynas. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae nifer o’n pwyntiau dylanwadu wedi canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru a Chomisiwn yr Undeb Ewropeaidd. Trwy’r Egwyddor Partneriaeth, mae’r sector gwirfoddol wedi bod yn bartner gweithredol, hafal o ran dylunio, cyflenwi, a rheoli’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru. Bydd pwerau cymorth cyllid ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn cael effaith sylweddol ar y sector ac, mewn nifer o ffyrdd, mae wedi ein symud ni yn ôl i’r dyddiau cyn datganoli – sy’n golygu, fel sector, bod angen i ni ailadeiladu ac ailffocysu ein hymgysylltu a’n dylanwadu i sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed.
Yn ddiweddar, sefydlodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Uned Dinasoedd a Thwf Lleol yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r rhaglenni disodli. Mae’n Uned ar y cyd rhwng y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol MHCLG a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a gobeithiwn y bydd hyn, i ryw raddau, yn atgyweirio’r datgysylltu ac yn cynorthwyo perthynas y sector â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gwahoddwyd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Uned i roi anerchiad yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar agenda codi’r gwastad. Siaradodd yn gadarnhaol am y sector a’i le o fewn y rhaglenni.
Rydyn ni hefyd yn cydnabod yr angen i weithio’n wahanol yn ein sector, sy’n cynnwys gweinyddiaethau datganoledig eraill yn fwy. Rydyn ni’n cydweithio’n agos gyda’n cyd-gynghorau i ymgysylltu yn well ac i gael mwy o ddylanwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac i sicrhau bod y safbwynt datganoledig yn cael ei ddeall.
Y cronfeydd disodli
Yn ystod y gwanwyn a’r haf hwn, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Gronfa Adfywio Cymunedol, y Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol – a bydd y Gronfa Ffyniant a Rennir yn dilyn y flwyddyn nesaf.
Mae rhai o’n pryderon wedi dwyn ffrwyth ar draws y cronfeydd a lansiwyd – amserlenni byr ar gyfer cyflwyno cais a chyflenwi prosiect, ychydig iawn o arweiniad ac ymgysylltu, diystyriwch siomedig tuag at amser gwirfoddoli fel cyfraniad arian cyfatebol a ffafrio mentrau ar raddfa fwy. Ond, mae amser a chwmpas o hyd i ni gael dylanwad, a gobeithiwn y bydd rowndiau a rhaglenni cyllid y dyfodol yn llawer mwy hygyrch.
Grŵp cyllid disodli ar gyfer y sector gwirfoddol
I gefnogi’r ymgyrch ddylanwadu hon, mae CGGC wedi sefydlu grŵp cyllid disodli. Mae dros 100 o bobl wedi cofrestru i fynychu’r cyfarfod cyntaf – gan ddangos y diddordeb a’r pwysigrwydd ynghlwm â’r cronfeydd hyn yng Nghymru. Trwy’r rhwydwaith hwn, hoffem ffurfio llais sector gwirfoddol Cymru unedig. Mae’r sector yn gymysgedd amrywiol o fudiadau sy’n gweithredu mewn nifer o feysydd ond mae nifer o egwyddorion allweddol y mae’r mwyafrif yn dymuno iddynt gael eu hadlewyrchu gan unrhyw gronfa yn y dyfodol gan gynnwys:
- Egwyddor Partneriaeth
- Cylchoedd cyllid aml-flynyddol
- Cymorth ar gyfer y sector gwirfoddol i sicrhau mynediad teg trwy ddefnyddio cymorth technolegol a chyfryngwyr
- Modelau taliadau hyblyg
- Rheolau teg, cymesurol, a chyson
- Cynnwys sector datganoledig a sector gwirfoddol sylweddol wrth baratoi, rheoli, a gweithredu cronfeydd
- Lleihau gofynion cyllid cyfatebol ar gyfer y sector gwirfoddol trwy wneud amser gwirfoddoli yn gyfraniad cymwys
Bydd yr egwyddorion hyn yn sail i ddatganiad rydyn ni’n bwriadu ei anfon, gyda’n cyd-gynghorau, i adrannau Gweinidogol perthnasol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig â chyfrifoldeb am adolygu rowndiau dilynol y cronfeydd disodli a lansiwyd a’r Gronfa Ffyniant a Rennir.
I dderbyn gwybodaeth am y grŵp hwn a diweddariadau ar y cronfeydd disodli, cofrestrwch am cylchlythyr CGGC yma.