Mae aelodau CGGC eisiau gweithio gyda’i gilydd i arwain newid positif. Siarada Peter Davies, Cadeirydd CGGC, am y pethau rydyn ni wedi meddwl amdanynt gyda’n haelodau i’n helpu ni i lunio dyfodol gwell i Gymru.
Mae ein haelodau’n ganolog i bwy ydym ni yma yn CGGC. Mae pobl bob amser wedi dod ynghyd o’u gwirfodd pan fyddan nhw eisiau gwneud gwahaniaeth. Ond mewn adegau heriol, mae angen i’r mudiadau gwirfoddol hynny ddod ynghyd ar eu pen eu hunain, trefnu ac edrych ymlaen er mwyn paratoi ar gyfer y dyfodol. Dyma pam y ffurfiwyd CGGC yr holl flynyddoedd hynny yn ôl a dyma pam rydyn ni’n parhau i fodoli heddiw.
Dyma ddiben CGGC – galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae mudiadau gwirfoddol hefyd wedi wynebu adegau anodd. Mae hyn yn cynnwys effeithiau’r pandemig, y newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldebau sydd ar gynnydd. Gwyddom fod newidiadau a heriau mawr o’n blaenau – yn enwedig gyda’r argyfwng costau byw.
‘Mae’n amlwg fod yna angen dybryd i’r sector gwirfoddol a’r holl gymdeithas adfer ac ailgodi o’r pandemig.’
Gareth Coles, Cyfarwyddwr Cymru dros ‘Creative Lives’ (arolwg Mehefin 2021)
ATEB YR HERIAU I DDOD
Mae gan aelodau CGGC rôl arweinyddiaeth gyfunol i’w chwarae mewn llywio ymateb positif i’r heriau hyn – ar gyfer y gymdeithas a’n sector. Rydyn ni eisiau gweithredu nawr i greu dyfodol lle y mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddoli yn ffynnu ledled Cymru, gan wella lles pawb.
Dyna pam ein bod wedi gweithio gyda’n haelodau ar sut gallwn ni lunio dyfodol gwell i Gymru gyda’n gilydd dros y bum mlynedd nesaf. Gallwch weld ychydig o’r gwaith hwn yn yr adroddiad Dyfodol y Sector Gwirfoddol.
Canfuom y bydd angen i’n sector fod yn fwy amrywiol, yn barod am newid a bod yn bartneriaid cyfartal wrth wella llesiant yng Nghymru os oedd am lwyddo. Bydd hefyd angen i CGGC fod yn fwy gwydn. Rydyn ni wedi ymwreiddio hyn bellach yn ein cynllun strategol newydd o dan dri nod newydd.
EIN SECTOR: AMRYWIOL A BAROD AM NEWID
Pobl sydd wrth wraidd ein sector. Er mwyn i’r sector ffynnu, byddwn angen i fwy a mwy o bobl amrywiol gymryd rhan mewn gweithredu gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. Rydyn ni eisiau gweld adnoddau mwy amrywiol yn cryfhau’r ddarpariaeth. Ac rydyn ni eisiau gweld mudiadau yn gallu cyflawni eu diben yng nghyd-destun newid.
‘Ein pobl ifanc, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yw dyfodol Cymru. Mae’n rhaid i ni greu amgylchedd lle gall unigolion feithrin eu doniau, tanio eu brwdfrydedd a datblygu i fod y ffurfiau gorau posibl o’u hunain er mwyn cyfrannu at y gymdeithas.’
Debanjali Bhattacharjee, Aelodau Tîm Lein Gymorth BAME Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) (cyfranogwr gweithdy, Mehefin 2021)
‘Mae digideiddio’n gyffrous. Mae’n caniatáu cysylltiad nad oedd yn bosibl o’r blaen ac yn cynnig cymorth i bobl sy’n ynysu ac yn agored i niwed, ond ni ddylai ddisodli cyfathrebu wyneb yn wyneb. Mae’r sector gwirfoddol yn eithriadol am greu cysylltiadau ystyrlon.’
Kate Young, Cyfarwyddwr Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr (cyfweliad, Mehefin 2021)
PARTNERIAID CYFARTAL
Rydyn ni eisiau gweld mudiadau gwirfoddol yn cael eu cydnabod fel partneriaid cyfartal wrth wella llesiant yng Nghymru. Mudiadau gwirfoddol sydd ar flaen y gad o ran llunio newid a darparu datrysiadau cadarnhaol. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud hyn yn well fyth.
Rydyn ni eisiau i’r holl sectorau gydweithio i gyflawni canlyniadau ar y cyd, ac i gyfraniad mudiadau gwirfoddol gael eu gwerthfawrogi i’r un graddau. Ac rydyn ni eisiau i’n democratiaeth fod yn fwy agored a chyda’r gallu i gefnogi cyfranogiad gan fudiadau gwirfoddol yn well.
‘[Byddai dyfodol delfrydol yn edrych ac yn teimlo fel]… pawb yn cael llais cyfartal yn yr hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau, gyda gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan fudiadau gwerth cymdeithasol a’u cyd-gynhyrchu gyda’r bobl sy’n eu derbyn, buddsoddiad hirdymor yn y sector, ddim yn gorfod ymladd i gael cydnabyddiaeth.’
Sue Leonard, Prif Swyddog, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (arolwg Mehefin 2021)
‘Pan rydyn ni’n edrych ar osod gweledigaeth, mae angen i ni i gyd fod wrth y bwrdd hwnnw, nid yn unig i fyfyrio ar y cymunedau amrywiol, ond i fyfyrio ar gymuned amrywiol Cymru hefyd.’
Faith Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol ‘Friends of Cymru Sickle Cell and Thalassaemia’ (cyfranogwr gweithdy, Mehefin 2021)
CGGC MWY GWYDN
Er mwyn chwarae ein rôl yn hyn, bydd angen i CGGC ei hun fod yn fwy gwydn. Dyma beth sy’n gyrru ein rhaglen newid fewnol. Mae angen i ni fod yn ariannol-gynaliadwy. Bydd diwedd ein rhaglenni UE yn golygu y byddwn ni’n fudiad llai.
Bydd angen i ni addasu’n bositif i newid ehangach, gan addasu ein strwythurau, systemau a’n diwylliant i fod yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni’n galluogi ein haelodau i fod yn ganolog i CGGC. Byddwn ni’n gwerthfawrogi llesiant ein staff ac yn cefnogi mwy o amrywiaeth ar draws y mudiad, gan gynnwys ymhlith ein haelodau.
GWNEUD MWY O WAHANIAETH GYDA’N GILYDD
Mae CGGC yn cynnwys mwy na 600 o wahanol aelod-fudiadau. Maen nhw’n adlewyrchu amrywiaeth anhygoel ein sector – o’r hyperleol i’r rhyngwladol, o gael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i gael nifer sylweddol o staff, o grwpiau anffurfiol i gwmnïau buddiannau cymunedol ac elusennau cofrestredig ac maen nhw’n weithredol ar draws pob gweithgaredd y gallwch chi feddwl amdano, o gyngor ac eiriolaeth i ieuenctid a phopeth yn y canol.
Drwy gydweithio, mae gennych chi fel aelodau CGGC y grym i yrru newid go iawn – i’n sector, ond yn fwy pwysig, i’r gymdeithas. Mae’r newid sydd wedi’i amlinellu yn nodau newydd CGGC yn uchelgeisiol – ond yn rhywbeth y gallwn ni ei arwain gyda’n gilydd.
Cysylltwch os hoffech chi drafod yr hyn yr hoffech chi ei weld yn digwydd nesaf a pha rôl yr hoffech chi ei chwarae.
MWY AR EIN STRATEGAETH NEWYDD
Gwnaethom ni siarad yn ddiweddar ag aelodau CGGC, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) ac elusen y Groes Goch yng Nghymru ynghylch y materion y mae’r gwaith hwn wedi’u seilio arnynt.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy, cysylltwch neu gallwch chi edrych ar ein strategaeth hawdd ei darllen ar gyfer 2022-27.