Mark Price, Strategydd Gweithle Modern Cyfrifiaduron Pugh, yn trafod yr effaith gadarnhaol y mae canlyniadau gweithle modern cynaliadwy y cwmni’n cael o fewn y sector gwirfoddol.
PWY YDYM NI
Mae Cyfrifiaduron Pugh yn gyflenwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) y gellir ymddiried ynddo, sydd â dros 41 mlynedd o brofiad o gyflenwi trwyddedau meddalwedd, datrysiadau caledwedd a gwasanaethau proffesiynol o fewn y sector gwirfoddol.
Dros y blynyddoedd, rydym ni wedi datblygu partneriaethau agos a hirsefydlog gyda chwmnïau technoleg fel Microsoft, Adobe a llawer mwy. Mae hynny’n ein galluogi i gynnig y meddalwedd a’r caledwedd gorau i’n cwsmeriaid sector gwirfoddol am brisiau gostyngol iawn, neu hyd yn oed fel rhoddion am ddim pan fyddant yn gymwys.
Lleolir y cwmni yn Llanon, Ceredigion, ac rydym yn cyflenwi ledled y DU ac yn falch o gynnig ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
BETH YW GWEITHLE MODERN CYNALIADWY?
Mae llawer o ffactorau sy’n cyfrannu atoch chi’n dod yn weithle modern cynaliadwy gwirioneddol effeithiol.
Efallai eich bod chi eisiau darparu amgylchedd gwaith hybrid lle gall staff a gwirfoddolwyr weithio yn y swyddfa, weithio gartref neu hyd yn oed weithio ar fynd.
Efallai eich bod chi eisiau lleihau eich ôl troed carbon a dod yn fwy cynaliadwy.
Neu, efallai eich bod chi eisiau cymryd mwy o ofal o lesiant eich tîm a sicrhau cydbwysedd gwaith / hamdden iach.
Mae ein datrysiadau gweithle modern cynaliadwy yn cynnwys ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau. Mae’r datrysiadau hyn yn hyblyg ac yn bwrpasol i chi. Cânt eu cynllunio i rymuso eich tîm i berfformio ar ei orau ac i gyflawni mwy.
Mae rhai o’n datrysiadau mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yn cynnwys ystafelloedd / gofod cyfarfod modern o ansawdd uchel, meddalwedd cwmwl hynod hygyrch, dyfeisiau defnyddiwr terfynol cludadwy (gliniaduron / llechi), a theleffoni cwmwl hyblyg a gwydn.
Gallwch bori ein darpariaeth lawn ar ein gwefan.
BETH YW’R MANTEISION O FOD YN WEITHLE MODERN CYNALIADWY?
Hyblygrwydd
Mae gliniaduron a chyfrifiaduron tabled pwerus a chludadwy, gyda chamerâu o ansawdd uchel, ynghyd â chlustffonau sy’n canslo sŵn a’r meddalwedd cwmwl cywir, yn golygu nad oes rhaid i ddefnyddwyr fod yn y swyddfa i fod yn gynhyrchiol.
Gall defnyddwyr wneud a derbyn galwadau gwaith gan ddefnyddio eu dyfeisiau, trosglwyddo galwadau i gydweithwyr sydd â statws argaeledd clir wedi’i arddangos, a hyd yn oed trosglwyddo galwadau at ddyfais bersonol arall er mwyn parhau â’r sgwrs mewn lleoliad arall.
Mae’r hyblygrwydd hwn yn golygu eich bod yn gallu cytuno ar batrymau gwaith sy’n addas i’r mudiad ac i aelodau’r tîm, gan ganiatáu i staff a gwirfoddolwyr weithio yn ystod y cyfnodau amser mwyaf cynhyrchiol iddyn nhw. Gall hynny gael effaith gadarnhaol iawn ar lesiant a chydbwysedd gwaith / hamdden eich tîm.
O ystyried yr hyblygrwydd hwn, mae diogelwch yn ystyriaeth allweddol i unrhyw weithle modern cynaliadwy.
Er bod eich tîm efallai yn gweithio gartref neu mewn lleoliad arall oddi ar y safle, cedwir eich defnyddwyr a’ch data yn ddiogel iawn gyda system diogelwch cwmwl sy’n cael ei diweddaru’n barhaus, a gellir amgryptio eich dyfeisiau i liniaru colled neu ladrad posibl.
Yn ogystal, mae diogelwch cwmwl yn rhoi mantais ychwanegol i’ch tîm TG o ran cael gwelededd a rheolaeth, ni waeth ble maen nhw. Gallant fewngofnodi o unrhyw le, ar unrhyw ddyfais, pryd bynnag y bo angen.
Cynaliadwyedd
Gall gweithle modern cynaliadwy leihau’r angen i deithio yn sylweddol.
Gellir cynnal nifer o gyfarfodydd, cyflwyniadau, gweminarau a digwyddiadau heddiw ar-lein neu’n hybrid, gan leihau’r angen i deithio ar draws y wlad, neu hyd yn oed y byd. Mae ystafell / gofod cyfarfod modern yn eich galluogi chi i leihau eich ôl troed carbon, heb gyfaddawdu ar ansawdd.
Gall hynny olygu ystafell gyfarfod, gynadledda neu fwrdd fodern a chynhwysfawr ar Microsoft Teams/Zoom, neu dim mwy na’r dyfeisiau cywir i greu gofod bach ond effeithiol i gynnal cyfarfod.
Mae mabwysiadu datrysiadau cwmwl, fel Microsoft 365 ac Azure, yn ffordd effeithiol arall o ddod yn fwy cynaliadwy.
Er enghraifft, o ystyried addewid Microsoft i fod yn garbon negyddol erbyn 2030 ac i waredu’r holl garbon y mae’r cwmni wedi cynhyrchu trwy gydol ei oes erbyn 2050, pam na wnewch chi gymryd mantais o’r holl ganolfannau data cwmwl sydd ganddynt o amgylch y byd, a symud i ffwrdd oddi wrth weinyddion ar-leoliad aneffeithlon ac elwa o’u llwyfannau cwmwl arloesol?
Wrth wneud hynny, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at yr ymgyrch gynaliadwyedd anferth ar lefel fyd-eang hon, waeth beth yw maint eich mudiad gwirfoddol.
Gallwch ddysgu mwy am sut mae Cyfrifiaduron Pugh yn ymrwymo i fod yn fwy cynaliadwy fan hyn.
ASTUDIAETH ACHOS
Canolfan Gymunedol Mynach
Mae Cyfrifiaduron Pugh yn ymfalchïo mewn cefnogi’r gymuned leol ac mae ein gwaith diweddar gyda Chanolfan Gymunedol Mynach ym Mhontarfynach, Ceredigion, wedi datblygu i fod yn llwyddiant mawr.
Gan gydweithio’n agos gyda’r Ganolfan trwy gydol y prosiect, llwyddodd Elfed Jenkins, ein Rheolwr TG, i gasglu a deall holl anghenion y Ganolfan cyn mynd ati i ddarparu arddangosfa fyw o ystafell gyfarfod fodern Cyfrifiaduron Pugh yn ein swyddfa yn Llanon. Cytunodd y Ganolfan bod y datrysiad arfaethedig, oedd yn cynnwys bwrdd rhyngweithiol mawr ac addasadwy o ran uchder, a chamera o ansawdd uchel, yn ddelfrydol iddyn nhw.
Ers gosod y system, a diolch i hyfforddiant Elfed drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r Ganolfan wedi profi llwyddiant mawr o ran cynnal ac ymuno â chyfarfodydd a dosbarthiadau hybrid ar-lein / wyneb yn wyneb, gan ddarparu cyflwyniadau, ei ddefnyddio fel bwrdd gwyn digidol, a hyd yn oed ymgysylltu â’r gymuned leol trwy gynnal nosweithiau gwylio ffilmiau a digwyddiadau cymunedol eraill.
Bellach, mae nifer o grwpiau cymunedol yn defnyddio ac yn elwa o gyfleusterau modern y Ganolfan, gan gynnwys Merched y Wawr, y Clwb Ffermwyr Ifanc a’r Cyngor Cymuned lleol.
Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos llawn fan hyn.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn weithle modern cynaliadwy, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am unrhyw beth rydych chi wedi ei weld, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar o arbenigwyr ar 01974 200 201 neu sales@pugh.co.uk.
Edrychwn ymlaen at eich cefnogi chi ar y siwrnai hon.