Yma, mae Sian James o fudiad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn siarad â ni am ei gwaith ar sicrhau y gall plant a theuluoedd fanteisio ar gyfleoedd chwarae a gofal plant yn eu hiaith ddewisol.
Ein gweledigaeth, ym mudiad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw Cymru lle mae plant yn chwarae, a chymunedau yn ffynnu. Trwy ein harbenigedd a’n gwybodaeth o fewn y sector Gofal Plant y Tu allan i’r Ysgol, rydym yn rhoi’r adnoddau i Weithwyr Chwarae godi safonau Gofal Plant y Tu allan i’r Ysgol.
Ym mudiad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, rydym yn cofleidio’r Gymraeg fel rhan annatod o’r gwaith rydym yn ei wneud gydag amcan strategol i ‘gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, gan ganiatáu i blant a theuluoedd gael mynediad i gyfleoedd chwarae a gofal plant yn yr iaith o’u dewis, gan ddiogelu’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’
CYNNIG CYMRAEG
Yn 2022 gwnaethom weithio’n agos gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gyflawni ein Cynnig Cymraeg ein hunain gan ddangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg. Trwy’r Cynnig Cymraeg rydym wedi gallu arddangos ein gwasanaethau Cymraeg â balchder, yn ogystal â mynd ati’n barhaus i wella’r rhai rydym yn eu cynnig, gan ddiwallu anghenion clybiau Cymraeg eu hiaith.
Gwnaeth cyflawni ein Cynnig Cymraeg ein hunain ein galluogi i weld yr heriau yr oedd y Gweithwyr Gofal Plant a Chwarae yn eu hwynebu o ran y Gymraeg. Fe wnaeth y Cynnig Cymraeg ein hysgogi i gynyddu’r gwasanaethau Cymraeg a oedd ar gael i rieni yn ogystal â chefnogi lleoliadau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant a theuluoedd di-gymraeg.
DARPARIAETH GYMRAEG
Gwnaethom ddarganfod bod rhieni yn cael trafferth dod o hyd i ddarpariaeth gofal plant ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol sydd wedi’i chofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), ac sydd o ansawdd da ac ar gael yn eu hardal leol. Daeth hi’n amlwg hefyd fod prinder o Weithwyr Chwarae Cymraeg. Mae Gweithwyr Chwarae Cymraeg eu hiaith yn hanfodol, ond nid oes digon ohonynt o hyd, sy’n ei gwneud hi’n anodd i leoliadau gadw’u cofrestriad ag AGC a pharhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Fe wnaethom hefyd ddarganfod drwy ein gwaith gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a phrosiect Camau, sut roedd cyflwyno’r defnydd o’r Gymraeg a gweithio tuag at y Cynnig Rhagweithiol yn broses frawychus i leoliadau a oedd yn gweithredu trwy gyfrwng y Saesneg. Roedd angen mwy o gymorth ac arweiniad fel bod plant a staff yn cael cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
PROSIECT CYMELL
Trwy gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, mae ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant Cymraeg penodedig (WLCBDO’s) wedi gallu cyflawni ein prosiect CYMell:
Mae’r prosiect ysgogi, sef ystyr CYMell, wedi, ac yn parhau i:
- ysgogi lleoliadau Gofal Plant Cymraeg a dwyieithog y Tu allan i’r Ysgol nad ydynt wedi’u cofrestru ag AGC i wneud hynny
- hyfforddi unigolion sy’n siarad Cymraeg ar Waith Chwarae
- cefnogi lleoliadau gydag ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant Cymraeg penodedig i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg
YR ADDEWID CYMRAEG
Mae’r Addewid Cymraeg, a ddatblygwyd gan fudiad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ac a fabwysiadwyd gan bartneriaid Cwlwm yn ffordd i leoliadau Gofal Plant a Gwaith Chwarae gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg a dangos eu gwaith tuag at y Cynnig Rhagweithiol, gan rannu’r gwaith yn adrannau bach hydrin.
Mae’r Addewid yn cynnwys cynllun gweithredu cyraeddadwy a fydd, gyda chefnogaeth ein Swyddogion Datblygu’r Gymraeg, yn galluogi pawb sy’n gysylltiedig i gydweithio’n effeithiol ac ysbrydoli defnyddwyr gwasanaethau a staff i ddefnyddio’r Gymraeg er budd plant a chymunedau’r ardal y maen nhw’n gweithio ynddi.
Wrth ymrwymo i’r Addewid Cymraeg, mae lleoliadau wedi gallu datblygu eu defnydd o’r Gymraeg a chreu amgylchedd lle mae’r iaith yn rhan naturiol o’r hyn y mae’r lleoliad yn ei gynnig i blant.
EFFAITH EIN GWAITH
Ers dechrau prosiect CYMell ym mis Medi 2022, mae 25 yn fwy o glybiau Cymraeg wedi’u cofrestru ag AGC, a thri chlwb dwyieithog arall wedi cofrestru ag AGC. Rydym wedi cyflwyno hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymraeg i 193 o ddysgwyr sydd, yn ei dro, yn cynorthwyo teuluoedd i gael mynediad at ofal plant Cymraeg sydd hefyd yn diwallu eu hanghenion ac yn cyd-fynd â safonau AGC.
Mae’r Addewid Cymraeg hefyd wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i leoliadau Gofal Plant a Chwarae ledled Cymru i’w cefnogi i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg ac i weithio tuag at y Cynnig Rhagweithiol. Trwy gyllid CYMell a staff ymroddedig, mae lleoliadau wedi’u hannog i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, gyda lleoliadau yn ennill 37 o wobrau Efydd ac Arian, a thri lleoliad wedi ennill gwobr Aur am eu Cynnig Cymraeg eu hunain.
Mae prosiect CYMell wedi cymryd camau breision o ran cynyddu’r mynediad at ofal plant Cymraeg a chefnogi nodau Llywodraeth Cymru o ran defnyddio’r Gymraeg. Ein nod ym mudiad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw adeiladu ar gyflawniadau CYMell hyd yma a mynd i’r afael â’r anghenion a’r heriau a fydd yn codi.
RHAGOR O WYBODAETH
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cymorth y gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ei gynnig i’ch Clwb Gofal Plant y Tu allan i’r Ysgol.
029 2074 1000