Yr wythnos diwethaf clywsom y Canghellor yn cyflwyno ei adolygiad gwariant cyntaf ers y pandemig. Fel sydd wedi dod yn drefn arferol gyda llawer o’r cyhoeddiadau hyn, rydym yn aml yn gwybod llawer o’r manylion cyn i’r araith wirioneddol gael ei thraddodi, ond i lawer ohonom yn y sector, roeddem yn aros yn eiddgar am fanylion y Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF).
Er i ni gael rhywfaint o fanylion sylfaenol, ar y cyfan, roedd teimlad cyffredinol o rwystredigaeth a siom ac fe’n gadawyd gyda mwy o gwestiynau. Gellir gweld yr adolygiad gwariant llawn yma.
Mae’r UKSPF wedi cael ei nodi ers cryn amser fel yr un a fydd yn cymryd lle’r cyllid cyfredol a dderbyniwn trwy’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF), unwaith y bydd y cyfnod pontio Brexit cyfredol yn dod i ben. Mae Cymru wedi bod yn fuddiolwr net o ESIF ers iddynt gael eu cyflwyno yn 2000. Yn y rhaglen gyllido gyfredol, dyrannwyd buddsoddiad o £2 biliwn i Gymru, a phan gynhwysir cyllid cyfatebol, mae buddsoddiad yn cynyddu i oddeutu £3 biliwn. Yn ystod ymgyrch y refferendwm, gwnaed addewid allweddol na fyddai Cymru geiniog yn dlotach ar ôl gadael yr UE.
Ni roddodd adolygiad y Canghellor ddigon o sicrwydd y byddai’r llywodraeth yn cadw’r addewid a wnaethant. Er iddo nodi, ‘Bydd cyllid ar gyfer yr UKSPF yn cynyddu fel y bydd cyfanswm cyllid domestig ledled y DU o leiaf yn cyfateb i dderbyniadau o gronfeydd strwythurol yr UE, gan gyrraedd oddeutu £1.5 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd’, yr unig ffigurau penodol a roddwyd yn y ddogfen adolygu gwariant oedd y byddai £220 miliwn yn cael ei ddarparu yn 2021-22 i helpu ‘cymunedau i dreialu rhaglenni a dulliau newydd.’
DIFFYG EGLURDER
Mae amwysedd y datganiadau ynghylch yr ymrwymiadau gwario yn achosi pryderon sylweddol i ni, yn enwedig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac nid yw’n darparu’r ymrwymiad ariannol tymor hwy sydd ei angen arnom i sicrhau y gall y cyllid gael effaith mor fawr â phosibl.
Nid oedd gan y datganiad unrhyw wybodaeth am sut y gellid clustnodi’r arian ar lefel genedlaethol neu ranbarthol, felly gallai hyn olygu y gallai’r DU gyfan dderbyn arian sy’n cyfateb i lefel gyfartalog cyllid yr UE a wariwyd, ond heb ddarpariaeth benodol ar gyfer Cymru, gallai arwain at ostyngiad sylweddol yn ein dyraniad.
Fel popeth arall, yn y manylion y mae’r drwg ac nid yw’r datganiad yn rhoi fawr o eglurder ynghylch y trefniadau llywodraethu ar gyfer unrhyw gyllid yn y dyfodol. Cyfeirir at fframwaith ledled y DU a fyddai’n ein harwain i gredu y bydd y gronfa hon yn cael ei rheoli ar lefel y DU, heb unrhyw eglurder ynghylch sut y bydd y gweinyddiaethau datganoledig a’u rhwydwaith o bartneriaethau yn cymryd rhan. Bydd cyllid yn cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth ymhlith ‘grŵp rhanddeiliaid cynrychioliadol’. Mae manylion pellach wedi’u haddo yn y flwyddyn newydd a’r adolygiad gwariant nesaf yn 2021.
ANGEN SICRWYDD
Dros y tair blynedd diwethaf, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro y byddai ymgynghoriad llawn ar yr UKSPF yn digwydd, ond ni chafwyd hynny! Mae’n hanfodol nad yw’r un peth yn digwydd ar ddyluniad y fframwaith ledled y DU. Mae’r Canghellor wedi addo ‘y bydd y Deyrnas Unedig gyfan yn elwa o’r UKSPF’, er mwyn i hyn weithio, rhaid i’r Deyrnas Unedig gyfan chwarae rhan lawn yn y dyluniad a rhaid clywed pob llais.
Mae gan Gymru hanes hir, llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth, cryfhawyd perthnasoedd hyd yn oed ymhellach yn ein hymateb ar y cyd i’r pandemig cyfredol. Bydd symud i ffwrdd o egwyddor partneriaeth sy’n darparu llais cyfartal ar draws pob sector yn gam mawr yn ôl, ar adeg lle dylem fod yn ceisio grymuso pob partner i weithio mewn ffordd a all wneud gwahaniaeth mwy gyda’n gilydd.
Roeddem yn falch o weld rhai o’r meysydd eang y gallai’r gronfa geisio darparu gweithgaredd ar eu cyfer, gan gynnwys helpu’r llefydd mwyaf anghenus trwy fuddsoddi mewn pobl, cyfleusterau diwylliannol a chwaraeon, isadeiledd dinesig, gwyrdd a gwledig ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned. Roeddem yn arbennig o falch o weld y cyfeiriad at gefnogi’r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen trwy raglenni cyflogaeth a sgiliau pwrpasol, sydd wedi’u teilwra i anghenion lleol. Mae’r rhain yn feysydd y mae gan y sector gwirfoddol yng Nghymru hanes cryf o gyflawni gweithgareddau ynddynt, a byddem yn croesawu buddsoddiad parhaus a chynyddol i gefnogi’r gwaith hwn.
Er ein bod wedi croesawu meysydd cyffredinol gweithgaredd posibl, mae’r ffaith bod llawer o’r meysydd hyn yn gadarn o fewn pwerau datganoledig yn golygu bod angen rhywfaint o eglurder arnom, o ran sut y bydd cronfa a reolir yn ganolog yn y DU yn ceisio ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth bresennol, ac nid dim ond yn dyblygu neu anwybyddu’r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru.
EDRYCH I’R DYFODOL
Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, rydym yn disgwyl y bydd rhai o’r cwestiynau sydd gennym yn cael eu hateb a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid ar draws pob sector i sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed.
Mae’n bwysig cofio, y tu ôl i’r trafodaethau hyn, y ceir pobl a chymunedau mewn angen. Pobl a chymunedau nad oes ganddynt lawer o ddiddordeb o le y daw’r arian i’w cefnogi na sut y caiff ei reoli. Y cyfan sydd ei hangen arnynt yw’r gefnogaeth i wella eu bywydau ac i gael eu grymuso i wneud eu cymunedau’n lle gwell i bawb. Mae’r ffordd y mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi defnyddio cyllid Ewropeaidd dros yr 20 mlynedd diwethaf yn aml wedi darparu rhwyd ddiogelwch i ddal y rhai sy’n cwympo trwy graciau darpariaeth brif ffrwd. Ar adeg lle mae’r craciau hyn yn mynd yn fwy, ni allwn gael gwared ar y rhwyd ddiogelwch.