Dyma flog gan Menai Owen-Jones, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Pituitary ac un o ymddiriedolwyr Cyngor Hil Cymru ac ACEVO, am rôl arweinyddiaeth yn y broses o greu dyfodol gwahanol a gwell i Gymru a bod gennym ddewisiadau a phenderfyniadau i’w gwneud a fydd yn cael dylanwad aruthrol ar yr hyn sydd i ddod.
Yr amser yw nawr. Gall pob un ohonom ddylanwadu ar ein dyfodol. Ein dewis ni yw hyn. Ond a oes gennym yr ewyllys ac arweinyddiaeth o’r ansawdd sydd ei angen i ‘ailgodi’n gryfach’, neu ai cyfres o eiriau o gysur yw’r rhain? Nid yw sloganau da yn unig yn newid y byd wedi’r cyfan.
Gall pobl fod yn garedig, yn greadigol a hael. Rydym yn sicr wedi gweld hynny yn ystod y misoedd diwethaf. Rydym wedi gweld y gorau o’r natur ddynol ac enghreifftiau ysbrydoledig o arweinyddiaeth ar draws cymunedau yng Nghymru, wrth i bobl gamu ymlaen i gyfrannu.
Y pethau sydd wedi’u cyflawni nad oedd pobl yn credu oedd yn bosibl
Rydym wedi gweld anhunanoldeb cymaint o bobl; yn enwedig y gweithwyr rheng flaen a gweithwyr allweddol, sydd wedi aberthu cymaint er mwyn eraill.
Mae’r ymateb i’r pandemig hefyd wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn camu ymlaen i drefnu eu hunain, gwirfoddoli a rhoi i bobl eraill, am eu bod yn dewis gwneud hynny ac am eu bod eisiau gwneud hynny, gan gynnwys helpu cymdogion sy’n gwarchod a sefydlu banciau bwyd cymunedol.
Mae mwy o newid wedi digwydd yn ystod tri mis nac mewn tair blynedd. Mae pethau wedi’u cyflawni nad oedd pobl yn credu oedd yn bosibl. Mae’n dangos y newidiadau radical y gellir eu gwneud pan fyddwch yn cael gwared ar fiwrocratiaeth, pan fydd ymdeimlad o frys ac ewyllys i weithredu.
Mae’r sector gwirfoddol wedi llwyddo i symud pobl i raddau na welwyd ei debyg o’r blaen, wedi addasu gwasanaethau, croesawu datrysiadau digidol ac wedi dangos bod angen y sector a’i waith #NawrFwyNagErioed.
Fodd bynnag, sut allwn ni sicrhau ein bod yn cadw’r ymddygiad a’r newidiadau cadarnhaol a welwyd yn y tymor byr, ac ymgorffori newidiadau gwirioneddol yn y tymor hwy?
Nid yw’n brofiad cyffredin a rennir
Covid-19 yw argyfwng mwyaf brawychus, trawmatig y cyfnod modern, sydd wedi newid bywydau.
Nid ydym erioed wedi profi unrhyw beth fel hyn o’r blaen; rwy’n gobeithio na fyddwn fyth eto. Er ein bod i gyd yn yr un storm, rydym mewn cychod gwahanol, ac fel y dywedodd rhywun, nid eich profiad chi yw ‘y’ profiad. Mae’r cyfnod hwn yn galw am lefel uchel o empathi.
Mae ynysiad ac unigrwydd yn eiriau sydd wedi’u hailadrodd dro ar ôl tro yn ystod yr wythnosau diwethaf a bydd effaith yr argyfwng hwn ar iechyd meddwl pob cenhedlaeth yn ddigynsail. Yn ffodus, mae darpariaethau digidol wedi ein galluogi i ‘weld’ pobl, cadw mewn cysylltiad a chysylltu’n gymdeithasol â’n gilydd, tra byddwn wedi’n gwahanu o ran pellter.
Ond nid yw hyn unrhyw beth yn debyg i’r profiad o fod gyda rhywun arall mewn person. Mae siarad gyda rhywun drwy sgrin heb unrhyw gyswllt llygaid yn brofiad emosiynol a synhwyrol pellennig a gwahanol iawn.
Mae anghydraddoldebau ac anghyfiawnder wedi’u hamlygu yn awr
Mae anghydraddoldebau a materion hawliau dynol mawr yn deillio o’r pandemig Covid-19 a’r ymateb iddo.
Mae anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes wedi’u hamlygu yn awr. Mae problemau newydd yn codi. Mae’r cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd allweddol yn erydu yn awr. Yn wir, rydym yn mynd am yn ôl mewn rhai meysydd, er enghraifft, adroddiadau diweddar ynglŷn â newid mewn agweddau tuag at bobl ag anableddau ers i’r pandemig ddechrau.
Mae Covid-19 wedi cael effaith anghyfartal ar bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac mae’r pandemig wedi dwysáu ac amlygu ymhellach yr anghydraddoldebau hiliol disymud sydd wedi bodoli ers cenedlaethau. Mater arall sy’n peri pryder yw’r effaith anghyfartal ar blant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, merched a phobl sy’n byw mewn anfantais economaidd gymdeithasol.
Nid ydym wedi gweld graddau llawn effaith y pandemig eto a bydd yn cymryd cryn amser i’r rhain ddod i’r amlwg. Y realiti yw nid mater tymor byr yw hyn fel y dywed rhai pobl.
Bydd pobl wedi newid o ganlyniad i’r hyn maent wedi’i weld, ei deimlo a’i brofi. I’r rhai sydd eisoes dan anfantais ac wedi’u hymyleiddio, bydd yr argyfwng hwn yn newid bywydau am byth os na fyddwn yn gweithredu yn awr i leihau anghydraddoldebau ac anghyfiawnder.
Heriau aml-lefel i fudiadau
Yn ogystal â’r heriau aruthrol ar lefel cymdeithas y mae elusennau’n ymateb iddynt, y mae ganddynt gyfraniadau sylweddol i’w gwneud iddynt, nid yw’r sefydliadau gwirfoddol eu hunain ar hyd a lled Cymru, bach a mawr, erioed wedi wynebu cymaint o alwadau amlweddog ar yr un pryd.
Sut allwn ni gyflawni’r angen cynyddol am wasanaethau cymorth, er enghraifft, pan fo’r mwyafrif helaeth o elusennau yn wynebu’r her ariannol fwyaf erioed a’r dyfodol mor ansicr? Sut allwn ni gyflawni’r hyn a wnawn, heb gyllid digonol? Sut allan ni ddylanwadu ar bolisi er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mawr, pan fydd gennym lai o adnoddau? Beth am gyrraedd defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol? Sut allwn ni sicrhau llywodraethu da yng nghanol y newid radical, cymhleth a newidiol hwn?
Rydym yn sicr mewn sefyllfa o ansicrwydd llwyr. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud y bydd gennym i gyd fwy i’w wneud, gyda llai. Yn sicr, mae angen mwy o arian ar sefydliadau’r sector gwirfoddol ar unwaith, ond mewn gwirionedd, rydym yn profi’r dirywiad economaidd gwaethaf, fwy na thebyg, ers y Dirwasgiad Mawr ac nid ydym hefyd yn gwybod eto beth fydd effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd pocedi o gyfleoedd, sy’n wir bob amser, ond yn gyffredinol, bydd llawer llai o arian i’w ddosbarthu. Felly, bydd dull gweithredu entrepreneuriaid, parodrwydd, hyblygrwydd a chreadigrwydd yn hollbwysig er mwyn i sefydliadau oroesi, adfer a ffynnu yn y dyfodol.
Dyfodol mwy cyfartal a theg i Gymru?
Mae cwestiynau a phryderon gwirioneddol a dilys yn awr ynglŷn â’n dyfodol. A fyddwn yn parhau i anwybyddu argyfwng dirfodol newid yn yr hinsawdd? A fydd cymdeithas yn dod yn fwy rhanedig ac yn fwy anghyfartal, ac nid llai? Beth fydd yr effaith ar fywydau a rhagolygon pobl ifanc, a fydd o bosibl yn cael eu galw ‘y genhedlaeth coronafeirws’ am byth?
A fyddwn yn newid ein blaenoriaethau ac yn rhoi blaenoriaeth i lesiant, iechyd, yr amgylchedd ac atal yn hytrach na chymhellion economaidd yn unig? A fyddwn yn adlewyrchu ar yr argyfwng hwn ac yn dysgu ohono?
Fel yr ydym yn sicr wedi gweld, mae canolbwyntio’n ormodol ar arbedion yn golygu nad ydym yn wynebu risgiau’r dyfodol yn awr. Mae ein diffyg parodrwydd cyffredinol ar gyfer pandemig byd-eang wedi creu canlyniadau enbyd, ac os byddwn yn defnyddio’r un dull ar gyfer newid yn yr hinsawdd, fel yr ydym wedi’i wneud hyd yma, mae’n frawychus meddwl beth allai hyn ei olygu i’n plant a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae’n amser am fwy o graffu gwleidyddol a mwy o herio gan y cyhoedd hefyd. Yn yr un modd, ni ddylem ddisgwyl i’r llywodraeth ddarparu ateb i bob dim. Mae angen i bawb gyfrannu. Mae hyn yn galw am arweinyddiaeth wirioneddol a’r pŵer i gynnull er mwyn ysgogi’r newid cymdeithasol sydd ei angen arnom.
Arweinyddiaeth ragweithiol a manteisgar
Dyma’r cyfle i’n harweinwyr ar draws cymdeithas, ar draws pob sector, gamu ymlaen i greu atebion gwell gyda’n gilydd. Mae angen i ni fod yn rhagweithiol a manteisgar.
Rydym yn gwneud dewisiadau bob dydd fel arweinwyr i, sut yr ydym yn defnyddio ein dylanwad a’r ffordd yr ydym yn ymddwyn, mae hyn yn cael effaith. Er enghraifft, dylai pawb yn y sector gwirfoddol ddarllen yr adroddiad newydd sobreiddiol; Home Truths: Undoing racism and delivering real diversity in the charity sector gan ACEVO. Mae’n herio arweinwyr elusennau i gymryd cyfrifoldeb dros fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol yn y sector. Nid oes lle o gwbl i hiliaeth mewn sector sy’n ymroddedig i newidiadau cymdeithasol cadarnhaol, felly mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael â’r mater yn fwy effeithiol. Mae gennym gyfrifoldeb i wrando, dysgu a gweithredu.
Er mwyn ein symud ymlaen i ysgogi’r newid systemig angenrheidiol, fel arweinwyr, gadewch i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddod â phobl at ei gilydd, gwrando ar leisiau amrywiol nad ydynt yn cael eu clywed, yn arbennig ar lawr gwlad, a chynnwys pobl nad ydynt yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd mewn prosesau gwneud penderfyniadau ystyrlon.
Mae Covid-19 a’i holl ganlyniadau, yn her aruthrol a rennir i bob un ohonom uno i’w hwynebu; ein cyfle fel arweinwyr i ailadeiladu ymddiriedaeth pobl yn ein sefydliadau a chreu’r amodau i ysgogi camau gweithredu rhwng y cenedlaethau.
Gwirfoddolwyr yn gweithredu ar y cyd, dinasyddion a phobl ifanc
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld enghreifftiau o arweinyddiaeth wirioneddol, ffurfiol ac anffurfiol, yn ein cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Mae gwirfoddolwyr, o bob oed a chefndir, wedi arwain ymatebion cymunedol yn eu hardaloedd lleol, gwledig a threfol.
Wrth i ni ddod drwy gam cychwynnol yr argyfwng hwn, mae gennym gyfle i groesawu’r brwdfrydedd o’r newydd mewn gwirfoddoli, ochr yn ochr â datganoli mwy o bŵer yn lleol a meithrin ymgysylltiad gwell gyda dinasyddion sy’n cefnogi adferiad wedi’i arwain gan y gymuned.
Mae gennym gyfle hefyd i wneud mwy i gynnwys a grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion ac yn arweinwyr gweithredol – mae ganddynt yr egni, y sgiliau a’r syniadau i newid cymdeithas er gwell.
Mae ymdrech wirfoddol yn hollbwysig. Byddwn yn parhau i wynebu nifer o heriau, ond mewn cyfnodau tywyll mae’n rhaid cael llygedyn o obaith. Mae angen i ni ganolbwyntio ar y gorau mewn pobl – caredigrwydd, haelioni, cyfraniad gwirfoddol ac ymdeimlad o gymuned. Dyma yw’r glud a fydd yn ein cynnal.
Os nad fi, pwy felly?
Ni allwn amau anferthwch yr hyn sy’n ein hwynebu. Gall yr heriau amlweddog sy’n ein hwynebu deimlo’n anorchfygol; yn dasg arweinyddiaeth aruthrol.
Lle i ddechrau? Rwy’n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud a’i reoli. ‘Ni allaf newid y byd ar fy mhen fy hun, ond gallaf daflu carreg ar draws y dyfroedd i greu llawer o grychau’, meddai Mam Theresa. Yn wir, mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwneud fel arweinwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a chyfrannu at ‘ailgodi’n gryfach’.
Mae ‘Gwnewch beth y gallwch, gyda’r hyn sydd gennych, lle’r ydych chi,’ (dyfyniad Roosevelt) yn ddywediad arall rwyf yn ei ailadrodd yn rheolaidd. Mae’n rhaid i ni lynu at y gred y gall pethau wella, gan ofalu bob amser a chael y dewrder i barhau.
Gallwn ddylanwadu ar y dyfodol, ein dyfodol ni
Os byddwn yn caniatáu i ‘normalrwydd’ a busnes fel arfer ddychwelyd, byddwn yn parhau i ailgynhyrchu’r anghydraddoldebau a’r anghyfiawnder sylfaenol. Bydd y pŵer yn parhau gyda’r un bobl.
Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn ac yn gofyn beth wnaethom ni, beth oedd ein hymateb i Covid-19? Pa ddewisiadau a wnaethom? Pwy gamodd ymlaen i gyfrannu? Beth wnaeth ein harweinwyr?
Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn cael effaith aruthrol ar bob un ohonom.
Mae ffenestr y cyfle i greu newidiadau radical yn yr hirdymor yn parhau i fod ar agor. Cyn iddi gau’n glep, gadewch i ni dderbyn cyfrifoldeb gyda’n gilydd a dangos gwir arweinyddiaeth drwy weithredu i greu dyfodol gwahanol i bawb yng Nghymru.