Darganfyddwch sut wnaeth gwirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg creu antur i wirfoddolwr a myfyriwr Mared.
Mared Edwards dwi. Dwi’n fyfyriwr Cymraeg a Drama ar fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bues yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yn fano y dechreuais i ymwneud â’r Urdd yn bennaf. Erbyn y chweched roeddwn i’n Gadeirydd ar y fforwm ac yn cynrychioli’r fforwm ar bwyllgor Bwrdd Syr IfanC.
Yna, cyn cychwyn fel myfyriwr yn Aberystwyth cefais fy ethol fel Is-lywydd i’r Mudiad ac yn Is-Gadeirydd i Bwrdd Syr IfanC. Eleni rwyf wedi cychwyn fy rôl fel Llywydd a Chadeirydd ar y bwrdd sydd bellach wedi newid ei enw i Fwrdd Ieuenctid Cenedlaethol yr Urdd.
Wedi symud i’r brifysgol yn Aberystwyth roeddwn yn ddigon ffodus i allu cyd-weithio efo’r Urdd ym Môn ac yng Ngheredigion. Dechreuais wirfoddoli gyda’r Urdd yng Ngheredigion ac mewn ychydig wythnosau cefais gynnig swydd rhan amser fel swyddog ieuenctid yno.
Ar y pryd pan ddechreuais i wirfoddoli gyda’r Fforwm roedd o’n ffordd o wneud ffrindiau a dod i adnabod pobl o wahanol ysgolion. Pan ddaeth yr amser i mi ysgrifennu Datganiad Personol ar gyfer y Brifysgol neu creu CV ar gyfer swyddi roedd yr holl waith gwirfoddoli yr wyf wedi’w wneud dros y blynyddoedd yn gymorth mawr ac felly daeth gwerth yr holl oriau yn amlwg a fyddai wastad yn ddiolchgar i’r Urdd am fy narparu i gyda’r holl sgiliau rwyf wedi ddysgu erbyn heddiw.
Alla i ddim dychmygu sut berson fyddwn i heddiw petawn i heb gychwyn gwirfoddoli gyda’r Urdd pan wnes i. Mae wedi agor drysau ar gyfer amryw o lwybrau gyrfaol i mi ac wedi rhoi’r hyder i mi fynd at i wirfoddoli mewn maesydd eraill gda gwahanol sefydliadau. Dwi’n gwybod fydd yr holl waith gwirfoddol mewn maesydd gwahanol wastad yn gefn i mi wrth fynd ati i ffeindio swydd delfrydol ar ôl i mi raddio.
Heb wirfoddoli fyddwn i heb gael trafeilio i’r Eidal, Ffrainc na Patagonia. Fyddwn i heb fod wedi derbyn swydd rhan amser gyda’r Urdd yng Ngheredigion. Yn sicr fyddwn i ddim yn Llywydd ar un o fudiadau Ieuenctid mwyaf y byd na chwaith yn gadeirydd ar y Bwrdd Ieuenctid Cenedlaethol.
Mae’r profiadau mae gwirfoddoli gyda’r mudiad wedi ei roi i mi yn amhrisiadwy ond hefyd dwi’n gwybod na fyddai’r mudiad yn gweithio heb y gwirfoddolwyr chwaith.
Allai ddim pwysleisio digon ar bwysigrwydd gwirfoddoli drwy’r Gymraeg. Mae’n un o’r cyfraniadau mwyaf dros gadw’r Iaith yn fyw. Roedd nifer o fy ffrindiau yn yr ysgol yn siarad Saesneg ond drwy wirfoddoli, mi ddatblygodd eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Hyd heddiw dwi’n parhau i siarad Cymraeg gyda nhw a gwyddwn fod rhoi’r holl waith gwirfoddol yna lawr ar CV ochr yn ochr â’r ffaith eu bod yn medru’r Gymraeg wedi bod o fydd mawr iddynt wrth ddod o hyd i swyddi.
I ddarganfod mwy am werth gwirfoddoli yn Gymraeg, ymunwch â’n digwyddiad ar-lein am ddim gyda Chomisiynydd y Gymraeg ddydd Mawrth 23 Chwefror.