Gweithiwr elusen yn syllu ar ei gliniadur gyda'i dwylo ar ei phen mewn rhwystredigaeth wrth iddi geisio mynd i'r afael â rhywfaint o ddata codi arian

Y costau cudd o hepgor meincnodi mewn elusennau

Cyhoeddwyd: 26/02/25 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Alex Srivastava

Mae Alex Srivastava, Cyfarwyddwr Strategaeth Open, yn siarad ag aelodau CGGC am bwysau, gorflinder a chyfleoedd coll – costau cudd penderfyniadau heb ddata.

Yn y dirwedd elusennol sydd ohoni heddiw sy’n prysur ddatblygu, mae timau codi arian yn llywio pwysau aruthrol. Mae newid tueddiadau rhoi a’r galwadau cynyddol i edrych ar dechnolegau newydd wedi gadael codwyr arian yn sgrialu am ddatrysiadau.

Yng nghanol yr heriau hyn, mae meincnodi yn sefyll allan fel adnodd pwysig i nodi pa fentrau i ganolbwyntio arnynt, pa rai i roi’r gorau iddynt ac, yn y pen draw, sut i yrru canlyniadau mwy effeithiol.

Eto i gyd, gall rai hepgor y broses dyngedfennol hon neu ddewis mewnwelediadau arwynebol, cyflym fel datrysiad cost-effeithiol.

BETH YW GWIR GOST HEPGOR MEINCNODI?

Yn ogystal â’r twf a gollir a’r aneffeithlonrwydd, mae’r penderfyniad i beidio â meincnodi yn cael effaith ddifrifol, nas welir yn aml, ar y bobl y tu ôl i’r genhadaeth – y tîm codi arian sy’n ysgwyddo’r llwyth gwaith trymach a’r ansicrwydd.

Isod, edrychwn ar sut gall hepgor meincnodi roi pwysau ar amser a morâl eich tîm, ynghyd â’u hymdeimlad o ddiben.

Ac os hoffech chi ymuno ag astudiaeth fwyaf y DU ar feincnodau elusennol er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ac incwm, cysylltwch â Liz Campbell-Black heddiw.

1. MWY O ANSICRWYDD

Mae codwyr arian yn ffynnu pan mae ganddynt ymdeimlad clir o ddiben a chyfeiriad, a phan maen nhw’n gwybod bod eu hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth.

Heb feincnodi, rhaid i dimau ddyfalu beth a olygir wrth lwyddiant o’i gymharu â mewnwelediadau cystadleuwyr cyfyngedig. Gall y diffyg eglurder hwn greu ymdeimlad cyson o ansicrwydd wrth i aelodau’r tîm boeni ynghylch eu gallu i gyrraedd targedau neu gyfiawnhau eu strategaethau.

Pan mae pob cam yn teimlo fel cynnig ar antur, gall hyd yn oed y codwyr arian mwyaf brwdfrydig deimlo ar goll, gan danseilio’r hyder sydd ei angen i arloesi a mentro.

2. RISG UWCH O ORFLINDER DRWY BROFI A METHU

Pan na fydd timau yn gwybod yn union beth sy’n gweithio, gallant droi at gylchred o brofi a methu, gan brofi tactegau newydd yn barhaus heb ddata cadarn i’w cefnogi – a llosgi trwy arian wrth wneud hynny. Mae’r dull gweithredu hwn nid yn unig yn mynd ag amser ac adnoddau gwerthfawr, ond mae hefyd yn gwneud niwed emosiynol sylweddol.

Gall y risg o orflinder fod yn uchel mewn timau elusennol fel hyn gan fod codwyr arian yn teimlo eu bod yn gwastraffu eu hamser heb wneud cynnydd ystyrlon.

3. PWYSAU I GYFIAWNHAU GWAITH HEB DDATA

Yn aml, mae timau codau arian yn wynebu’r pwysau ychwanegol o brofi eu heffeithiolrwydd i arweinwyr a byrddau. Ond heb y mewnwelediadau cymharol a gynigir gan feincnodi, mae’n anodd i dimau gynnig data cadarn sy’n dangos lle mae eu hymdrechion yn cyd-fynd â safonau’r sector.

O ganlyniad, gallant deimlo o dan bwysau cyson i ddilysu eu gwaith heb sylfaen gref, a bydd hyn yn bwrw eu hyder ac yn eu rhoi o dan fwy o straen.

Mae meincnodi nid yn unig yn cynnig cipolwg ar arferion gorau’r diwydiant; mae hefyd yn rhoi’r data sydd ei angen ar godwyr arian i ddangos effaith – ar gyfer ymgyrchoedd presennol a buddsoddiadau i ddod.

4. CYFLEOEDD COLL O YMGYRCHOEDD ANEFFEITHIOL

Heb feincnodi, mae’n hawdd i dimau barhau i roi eu hamser i fentrau nad ydynt yn cyflawni canlyniadau, am y rheswm syml nad oes ganddynt bwynt cymharu, a cholli adnoddau i helpu ymgyrchoedd effeithiol i dyfu.

Pan mae aelodau tîm yn treulio oriau ar ymgyrchoedd nad ydynt yn ennyn rhoddwyr i gymryd rhan neu aros, gall arwain at siomedigaeth a rhwystredigaeth a thynnu’r sylw oddi ar ymgyrchoedd sy’n cyflawni.

Mae Meincnodau Elusennol yn helpu i amlygu’r strategaethau sy’n fwyaf tebygol o lwyddo, gan ganiatáu i dimau ganolbwyntio ar fentrau â chanlyniadau profedig. Mae’r ffocws hwn yn sicrhau bod yr adnoddau mor effeithiol â phosibl ac yn gwneud gwaith yn fwy gwerth chweil gan fod aelodau tîm yn gallu gweld bod eu hymdrechion yn cyfrannu’n uniongyrchol at genhadaeth yr elusen.

5. LLAI O HYDER A MORÂL

Mae gwybod ble rydych chi arni yn hanfodol i fagu hyder. I godwyr arian, mae meincnodi yn fwy na ffigurau – mae’n ddilysiad fod eu gwaith yn ystyrlon ac yn effeithiol. Heb fewnwelediadau, gall morâl tîm ddioddef, oherwydd gall codwyr arian deimlo nad yw eu hymdrechion yn cael eu cydnabod neu eu bod nhw ‘ar ei hôl hi’ o hyd – heb wybod sut i wella. Pan fydd yr hyder yn lleihau, bydd y gallu i gydweithio, arloesi a pharhau i fod yn frwdfrydig hefyd yn lleihau.

Mae meincnodi yn hwb pwerus i forâl, yn dangos i dimau lle maen nhw’n rhagori ac yn rhoi map ffordd ar gyfer gwella.

PAM MAE MEINCNODI YN BWYSICACH NAG ERIOED

Mewn cyfnod lle mae disgwyliadau rhoddwyr a phwysau cystadleuol yn symud, mae meincnodi yn ffordd bwerus o nodi cyfleoedd y gellir eu gweithredu ar gyfer twf, atal gorflinder a chadw timau codau arian yn gryf eu cymhelliad.

Trwy gynnig safbwynt clir a gefnogir gan ddata, mae Meincnodau Elusennol yn cynnig cymorth amhrisiadwy i wneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau, ac yn dilysu’r gwaith caled y mae codwyr arian yn ei wneud bob dydd.

Pan fydd arweinwyr codi arian yn blaenoriaethu meincnodi, maen nhw’n grymuso eu timau i weithredu’n hyderus ac yn effeithlon, gan greu amgylchedd gwaith sydd nid yn unig yn fwy cynhyrchiol ond sydd hefyd yn rhoi mwy o foddhad.

PARCHWCH EICH AMSER

Yn y pen draw, mae’r penderfyniad i feincnodi yn ymwneud â mwy na gwella metricsau – mae’n ymwneud â pharchu amser, egni ac ymroddiad y bobl sy’n gyrru cenhadaeth elusen yn ei blaen.

I dimau codi arian, mae Meincnodau Elusennol yn fwy na dewis strategol; mae’n elfen hanfodol o ddiwylliant gwaith iach a gwydn sy’n sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn canolbwyntio ar gael effaith.

Ewch ati i ddileu’r dryswch, lleihau’r risg a darparu ffocws clir ar gyfer 2025.

RHAGOR O WYBODAETH

Ymddangosodd y blog hwn yn wreiddiol ar wefan Open – ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â Liz Campbell-Black i gael gwybod mwy am gymryd rhan yn yr astudiaeth ar feincnodau elusennol.