Houses of Parliament

Y Bil Marchnadoedd Mewnol – cam yn ôl i ddatganoli?

Cyhoeddwyd: 21/09/20 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: David Cook

Mae’r Bil Marchnadoedd Mewnol yn ddarn dadleuol o ddeddfwriaeth  gan Lywodraeth y DU sydd, os daw i rym, yn debygol o niweidio’r setliad datganoli yng Nghymru. Mae David Cook, Swyddog Polisi CGGC, a Charles Whitmore o Fforwm y Gymdeithas Sifil ar Brexit, yn edrych ar y Bil dadleuol hwn ac yn dweud wrthych sut y gallwch leisio’ch barn ar y mater.

Mae Bil Marchnadoedd Mewnol Llywodraeth y DU, sydd â’r bwriad o atal rhwystrau newydd i fasnach fewnol yn y DU ar ôl Brexit, wedi achosi dadlau. Byddwch bron yn sicr wedi clywed sut mae’n torri cyfraith ryngwladol (mewn ‘ffordd benodol a chyfyngedig’…) drwy dorri’r Cytundeb Ymadael a lofnodwyd y llynedd rhwng yr UE a’r DU, gan fynd yn ôl i bob pwrpas ar y cytundeb bod yn rhaid i Ogledd Iwerddon gydymffurfio â safonau masnach yr UE, a hefyd osgoi ymrwymiad y DU i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a chytundebau amrywiol y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r Bil hefyd yn golygu nifer o broblemau i ddatganoli yng Nghymru. Mae’r Prif Weinidog wedi beirniadu’r Bil fel ‘cipio grym – tanseilio pwerau sydd wedi bod yn eiddo i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ers dros 20 mlynedd’, ac mae wedi honni diffyg ymgysylltu gan Lywodraeth y DU ar ddrafftio’r Bil. Yn sicr, mae diffyg ymgysylltu yn gyffredinol wedi bod yn broblem – dim ond cyfnod ymgynghori o bedair wythnos a gafwyd ar y Bil dros yr haf, tra roedd meddyliau pobl ar bethau eraill wrth fynd i’r afael â’r argyfwng Covid-19.

Gadewch inni edrych ar rai o’r meysydd lle mae’r Bil yn peryglu’r setliad datganoli.

Cymorth Gwladwriaethol

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro ynghylch a yw Cymorth Gwladwriaethol yn gymhwysedd datganoledig – fodd bynnag, nid yw’n ymddangos yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n awgrymu ei fod. Beth bynnag, mae’r Bil Marchnadoedd Mewnol yn nodi bod Cymorth Gwladol yn gymhwysedd sydd wedi’i gadw ar gyfer Llywodraeth y DU.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF)

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth partneriaid allanol, wedi bod yn gweinyddu cyllid yr UE yng Nghymru. Gyda chyllid o’r fath yn dod i ben, mae wedi gofyn i drefniadau o’r fath barhau gyda chyfran Cymru o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Fodd bynnag, mae’r Bil, er ei fod yn addo y bydd cyfran Cymru o’r gronfa UKSPF yn cyfateb i faint cyllid blaenorol yr UE, yn rhoi pwerau gwario i Lywodraeth y DU mewn sawl maes sy’n croestorri â chymwyseddau datganoledig, gan gynnwys datblygu economaidd; iechyd, addysg, diwylliant a chyfleusterau chwaraeon; addysg ryngwladol; gweithgareddau addysgol yn y DU; tai, a mwy yn ogystal. Nid oes eglurder ynghylch rôl Llywodraeth Cymru o ran dosbarthu’r cyllid hwn. Nid oes ymgynghoriad wedi’i gynnal eto ar UKSPF, er bod Llywodraeth y DU wedi addo un ‘yn fuan iawn’ ym mis Mai 2019.

Masnach

Mae arfau polisi cyd-gydnabod a pheidio â gwahaniaethu yn cael eu defnyddio’n aml a’u nod yw atal rhwystrau technegol i fasnachu. Maent yn safonol wrth reoleiddio marchnadoedd mewnol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ond maent yn cael eu defnyddio yn y Bil i wrthbwyso’r glorian er budd canoli ar draws y DU. Nid yw’r Bil yn cynnig fawr o gydnabyddiaeth i ddatganoli, sy’n awgrymu y bydd polisïau datganoledig yn cael eu defnyddio dim ond os bydd gwneud hynny’n atal ‘bygythiad eithriadol i fywyd dynol’, neu ‘fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd’ ym meysydd plâu, clefydau neu fwyd anniogel. Dim ond niwed posibl y mae’r Bil yn ei ystyried fel rheswm dros orfodi gofynion lleol, yn hytrach na chaniatáu i ranbarthau datganoledig wyro oddi wrth reoliadau os oes lle i wella’n lleol. Nid yw hyn yn rhoi llawer o gymhelliant ar gyfer gofynion datganoledig newydd gan na fyddai’r rhain yn berthnasol i fasnach o’r tu allan i Gymru ac, yn wir, byddent yn rhoi masnach Cymru dan anfantais, gan niweidio busnesau lleol ledled y wlad.

Safonau

Yn dilyn ymlaen o’r uchod, mae’r Bil yn awgrymu, os bydd busnes yn bodloni safonau rheoleiddio mewn dim ond un o bedair gwlad y DU, y gall fasnachu ym mhob un o’r gwledydd eraill heb orfod cydymffurfio ymhellach. Gan gymryd tai fel enghraifft, gallai hyn olygu y gallai’r rheini sy’n ceisio adeiladu tai yng Nghymru ddiystyru Safon Ansawdd Tai Cymru a’r Gofynion Ansawdd Datblygu, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau mewn mannau eraill yn y DU. Gallai sefyllfaoedd tebyg godi mewn mannau eraill, er enghraifft y rheini sy’n gweithio mewn diwydiannau amgylcheddol.

Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Roedd y Papur Gwyn ar y Bil yn cydnabod yr angen am gyfleoedd i wahanol lefelau o lywodraeth ar draws y DU gydweithio a chymryd rhan mewn deialog. Ac eto, nid yw’r Mesur terfynol yn cynnwys dim sy’n awgrymu symud i gyfeiriad prosesau rhynglywodraethol ar y cyd. Yn wir, mae’n rhoi arwydd i’r gwrthwyneb, heb fawr ddim cydnabyddiaeth o rôl gwledydd datganoledig, ac mae llawer o ddarpariaethau’r Bil yn gallu cael eu newid gan Lywodraeth y DU heb unrhyw gyfraniad gan Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Beth nesaf?

Mae’r rhain i gyd yn faterion hanfodol sy’n effeithio ar weithgarwch cymdeithas sifil yng Nghymru. Mae CGGC a Fforwm Brexit yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r sector am sut y gallai’r Bil hwn effeithio arnynt. Byddwn yn cynnal gweminar am ddim ar 24 Medi am 4pm yn edrych yn fanylach ar fanylion y Bil a beth mae’n ei olygu i’r sector. Gallwch archebu eich lle yma.

Rydym hefyd yn bwriadu anfon llythyr at ASau yn nodi’r problemau sydd gennym gyda’r Bil. Os hoffech i’ch mudiad fod yn un o’r rhai sy’n llofnodi’r llythyr hwn, anfonwch e-bost at policy@wcva.cymru. Mae Fforwm y Gymdeithas Sifil ar Brexit a Chynghrair Cymdeithas Sifil Brexit yn ceisio trefnu sesiynau briffio gydag ASau ac aelodau Tŷ’r Arglwyddi.

Byddwn yn siŵr o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau pellach ar y Bil. Yn y cyfamser, anfonwch e-bost atom yn policy@wcva.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.