Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod 2-8 Mai 2022

Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod 2-8 Mai 2022

Cyhoeddwyd: 03/05/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Rachael Beech

Mae Rachael Beech o’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) yn dweud wrthym ni am yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod a’r hyn y gall pob un ohonom ni ei wneud i helpu.

Elusen yw’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, RNID, sy’n cynorthwyo pobl fyddar, drwm eu clyw a’r rheini â thinitws a hoffem ni roi gwybod i chi am yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod, sy’n ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn ystod wythnos gyntaf mis Mai. Hoffem gymryd y cyfle i godi ymwybyddiaeth o fyddardod, nam ar y clyw a thinitws yn ystod yr wythnos hon ac egluro sut gallwch chi gynorthwyo’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw.

Mae 12 miliwn o bobl yn fyddar neu’n drwm eu clyw, sy’n golygu bod un o bob pum oedolyn yn y DU yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol. Rydych chi’n debygol o gwrdd â rhywun sydd wedi’i effeithio bob dydd, heb yn wybod i chi. Mae pobl fyddar, a’r rheini sy’n drwm eu clyw neu â thinitws yn wynebu heriau cyfathrebu gwahanol sy’n gallu arwain at deimlo’n rhwystredig ac yn unig.

SUT GALLWN NI I GYD HELPU

Er mwyn diwallu anghenion cyfathrebu pobl, dylech ofyn i rywun sut gallwch chi gyfathrebu ag ef orau. Ni fydd pob awgrym isod yn briodol i bawb sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw. Cofiwch, mae pobl sy’n dibynnu ar fynegiadau’r wyneb a gwefusddarllen i gyfathrebu yn ei chael hi’n arbennig o anodd i gyfathrebu yn ystod pandemig COVID-19.

Mae’r awgrymiadau hyn yn arbennig o bwysig pan rydych chi’n siarad â rhywun dros y ffôn neu’n gwisgo masg neu orchudd wyneb:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn wynebu’r sawl rydych chi’n siarad ag ef a siaradwch yn eglur – ceisiwch osgoi gweiddi, siarad yn rhy gyflym neu’n araf heb raid.
  • Os nad yw rhywun yn eich deall, ailadroddwch yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud neu dywedwch ef mewn ffordd wahanol a defnyddiwch iaith blaen.
  • Os ydych chi mewn lle swnllyd, symudwch i le tawelach os yn bosibl.
  • Defnyddiwch ystumiau syml fel pwyntio neu godi llaw i gael sylw rhywun.
  • Ysgrifennwch bethau i lawr – defnyddiwch bin ysgrifennu ar bapur, neges destun ar sgriniau dyfeisiau, neu fyrddau gwyn.
  • Os ydyn nhw’n gofyn i chi, siaradwch â pherthynas neu ffrind.

CYFATHREBU GAN DDEFNYDDIO ADNODDAU DIGIDOL

Os ydych chi’n gweithio gartref, gallai fod yn ddefnyddiol siarad â’ch cydweithwyr am y ffordd orau y gallant gyfathrebu â chi dros fideo a galwadau fideo. Efallai y bydd rhannu’r awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol:

  • Os ydych chi ar alwad fideo, gwnewch yn siŵr eich bod mewn lle â digon o olau, ond peidiwch ag eistedd gyda golau y tu ôl i chi. Gall hyn daflu cysgod dros eich wyneb a’i gwneud hi’n anoddach i rywun wefusddarllen.
  • Wynebwch y camera a pheidiwch â gorchuddio’ch ceg wrth siarad.
  • Gwnewch yn siŵr mai dim ond un person ar y tro sy’n siarad. Gall hyn hefyd sicrhau bod capsiynau yn fwy cywir os cânt eu defnyddio.
  • Distewch eich microffon pan na fyddwch chi’n siarad er mwyn lleihau sŵn cefndirol.
  • Defnyddiwch swyddogaethau sgwrsio a allai fod ar gael pan fyddwch chi’n defnyddio meddalwedd fideo neu lais. Gallant eich helpu i egluro manylion, yn enwedig gyda rhifau.
  • Defnyddiwch agenda a chadwch at y drefn er mwyn rhoi cyd-destun i’r hyn sy’n cael ei ddweud.

SUT I GAEL RHAGOR O WYBODAETH

Mae llawer o awgrymiadau a gwybodaeth werthfawr ar wefan RNID, gan gynnwys ein gwiriad clyw newydd. Bydd y gwiriad clyw yn awgrymu a yw eich clyw o fewn y cwmpas arferol neu os allech chi fod yn colli eich clyw. Mae’r gwiriad clyw ar-lein yn wahanol i brawf clyw llawn a wneir gan awdiolegydd, ond mae’n ffordd gyflym a dibynadwy o ganfod os oes angen un arnoch ac i’ch cyfeirio i weld eich meddyg teulu. Mae nam ar y clyw na chaiff sylw yn effeithio ar ynysu cymdeithasol, iechyd meddyliol a chorfforol, gan gynnwys iselder a dementia, ac mae’n bwysig ei fod yn cael ei ganfod yn gyflym.

Gwnewch ein gwiriad clyw am ddim – RNID (Saesneg yn unig)

RNID – yr Elusen colli clyw Genedlaethol (Saesneg yn unig)

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy neu os hoffech chi i RNID gyflwyno sesiwn fer ar Ymwybyddiaeth o Fyddardod neu waith RNID, cysylltwch â ni.

Rachael Beech

Swyddog Datblygu, Cymru

07552165800