Wythnos Ymddiriedolwyr 2019 – Y daith o fod yn Wirfoddolwr i Ymddiriedolwr

Cyhoeddwyd: 08/11/19 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Lauren Burns

Mae Ymddiriedolwr Mind Abertawe, Lauren Burns, yn blogio ynghylch ei thaith o fod yn wirfoddolwr i ymddiriedolwr a beth a ddysgodd o’r profiad. Mae Lauren wedi bod yn gweithio gyda Phrosiect ‘Link Up’ yn Abertawe i ddatblygu ei sgiliau ar gyfer ymddiriedolaeth.  

1.       Beth a’ch cymhellod i fod yn ymddiriedolwr?

Dechreuais wirfoddoli i Mind Abertawe dros bedair blynedd yn ôl. Roedd yn benderfyniad hawdd gan fy mod eisiau helpu pobl gydag iechyd meddwl a chael profiad o weithio mewn elusen. Trwy gydol fy amser yno, roeddwn yn gobeithio cymryd mwy o ran, a arweiniodd at wneud cais i fod yn aelod o’r bwrdd. Roedd agoriad i gynrychiolydd gwirfoddolwyr, felly meddyliais pam lai! Efallai y bydd yn gyfle da i wella fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o’r trydydd sector ac, wrth gwrs, ychwanegu rhywbeth gwahanol i’m CV gan wneud iddo sefyll allan.

2.       Beth ydych wedi’i fwynhau/ ennill o’r profiad?

Mae’r profiad hwn wedi bod yn wych gan fy mod i wedi dysgu cymaint. Mae wedi rhoi persbectif hollol wahanol i mi o’r elusen, wedi fy nysgu i fynd i’r afael â phroblemau’n weithredol ac wedi rhoi gwell syniad imi o’r darlun ‘trydydd sector’ mawr. Rwyf wedi cael cymaint o hyfforddiant, fel ysgrifennu ceisiadau, ysgrifennu cofnodion, cydraddoldeb ac amrywiaeth ar y bwrdd, gan fy mod yn aelod effeithiol o’r bwrdd. Mae wir wedi bod yn brofiad gwerth chweil.

‘Mae’r profiad hwn wedi bod yn wych ac rwyf wedi dysgu gymaint.’

 

3.       Beth fu’r heriau?

Mae dwy her yn dod i’r meddwl; fy oedran a meddwl yn weithredol. Roeddwn i’n 24 oed pan ymunais â’r bwrdd, felly roeddwn i’n teimlo mai ychydig iawn o brofiad bywyd oedd gen i. Roeddwn hefyd yn rhy nerfus i ofyn cwestiynau oherwydd roeddwn yn ofni edrych yn dwp ac roeddwn yn ymladd meddyliau negyddol mewnol am beidio bod yn ddigon da ar ei gyfer. Fodd bynnag, gyda’r hyfforddiant a ddarparodd SCVS, amlygiad graddol, a mwy o hyder i ofyn cwestiynau, sylweddolais y gallwn fod yn aelod effeithiol o’r bwrdd, a hyd yn oed ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, megis bod yn Ysgrifennydd y bwrdd yn ogystal â Chynrychiolydd Gwirfoddolwyr. .

Yr her arall oedd symud o feddylfryd gweithredol, gwirfoddolwyr i un aelod bwrdd strategol. Mae hyn yn rhywbeth y bu’n rhaid i mi weithio’n barhaus arno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae gan SCVS gyfle mentoriaeth y gwnes i gofrestru ar ei gyfer. Dyrannwyd mentor i mi ac mae hi wedi bod yn anhygoel. Fe helpodd hi fi i ddod o hyd i atebion i heriau, fy nghyfeirio at amrywiol bobl a ffynonellau gwybodaeth er mwyn i mi allu datblygu fy ngwybodaeth, a chynorthwyo i wahaniaethu rhwng y ddau feddylfryd – gan bwysleisio’r gwahaniaeth rhwng edrych ar broblem gyda het ‘weithredol’, a ’ het strategol.

4.       Beth y credwch y dylai elusennau wneud i annog fwy o bobl i fod yn ymddiriedolwyr?

Rwy’n teimlo mai’r ffocws ar gyfer elusennau yw amrywiaeth yr ymddiriedolwyr. Byddai bwrdd llai, amrywiol, yn fy marn i, yn fwy effeithiol na bwrdd mwy wedi’i lenwi â phobl sy’n cael profiadau bywyd tebyg. Mae cefndiroedd amrywiol a gwybodaeth mewn ymddiriedolwyr yn bwysig iawn; gall greu gwell trafodaethau, nodi atebion arloesol i heriau, a chynyddu effeithlonrwydd bwrdd.

5.       Beth fyddech chi’n ddweud wrth rywun sy’n ystyried bod yn ymddiriedolwr?

Byddwn i’n dweud i fynd amdani! Mewn gwirionedd, hyd yn oed pe na bai rhywun wedi ystyried bod yn ymddiriedolwr o’r blaen, dywedaf y dylent ystyried y peth. Mae gan bawb wybodaeth y gallant ei chyfrannu, ac weithiau os yw’n elusen fach, mae aelodau’r bwrdd yn cynorthwyo gyda rhai tasgau gweithredol uwch – felly gwerthfawrogir pâr ychwanegol o ddwylo, rhywun sy’n barod i helpu. Hefyd, byddwn yn dweud os mai rhan o’r rheswm nad ydych wedi gwneud cais i fod yn ymddiriedolwr yw oherwydd pryder neu nerfusrwydd, yna cysylltwch â’r elusen neu wasanaeth gwirfoddol cyngor lleol. Trefnwch apwyntiad i drafod gwneud cais i fod yn aelod o’r bwrdd a siarad â rhywun amdano. Nid oes unrhyw rwymedigaeth, dim ond sgwrs. Gallai fod yn werth chweil, roeddwn i’n sicr yn meddwl ei fod.