Fel rhan o Wythnos Ymddiriedolwyr 2019, mae Kyle Evans yn ymddiriedolwr uchelgeisiol sy’n blogio am eu ddiddordeb i ddod yn ymddiriedolwr. Mae Kyle wedi bod yn gweithio gyda’r Prosiect ‘Link Up’ yn Abertawe i ddatblgu ei sgiliau wrth baratoi ar gyfer ymddiriedolaeth.
Ar hyn o bryd, rwy’n cysgodi aelod o fwrdd yr ymddiriedolwyr. Er nad ydwyf eto wedi ymuno’n swyddogol, rwyf wedi dygsu cymaint ac yn teimlo fel fy mod wedi cyfrannu’n fawr ac oblegid wedi helpu llawer o bobl yn barod.
1. Beth ach cymhellodd i fod yn ymddiriedolwr?
Roedd fy ngwir gymhellion yn canolbwyntio ar helpu pobl ac maent yn canolbwyntio arnynt. Nid pobl â phroblemau iechyd meddwl yn unig, er bod hynny’n achos rwy’n poeni’n fawr amdano felly mae’n fan cychwyn da i ganolbwyntio fy ymdrechion arnynyt. Ar ôl ymchwilio i’r trydydd sector darganfyddais rôl ymddiriedolwr a sylweddolais mai dyma lle byddwn o’r cymorth mwyaf.
2. Beth ydych chi wedi ei fwynhau/ennil o’r profiad?
Rwyf wedi mwynhau’r amser yr wyf wedi’i dreulio yn gweithio gyda’r bwrdd hyd yn hyn. Rwy’n dysgu mwy am y trydydd sector yn barhaus a sut mae ei sefydliadau’n cael eu rhedeg yn effeithiol. Rwyf wedi ennill profiad gwych wrth werthuso sut mae sefydliad yn gwneud, a chynllunio’n strategol ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi cael hwyl yn dod i adnabod rhai o’r gwirfoddolwyr a chlywed eu straeon, ac wedi mwynhau sawl cyfarfod lle mae’n rhaid i mi gwrdd â’r defnyddwyr gwasanaeth go iawn a gweld yr effaith y mae’r sefydliad yn ei chael ar eu bywydau. Pan welwch bobl mewn gwirionedd yn cael eu heffeithio’n gadarnhaol, mae’n gwneud yr holl ymdrech yn werth chweil.
‘Roedd fy ngwir gymhelliad oedd ac ydy helpu pobl’
3. Beth oedd yr heriau?
Bu heriau, a chredaf y byddai unrhyw un sy’n ymuno ag unrhyw sefydliad newydd yn cael rhai. Y cyntaf oedd mai ychydig iawn o brofiad oedd geni yn y trydydd sector felly bu cromlin ddysgu serth yn y gwahaniaeth rhwng hynny a’r sector preifat. Mae heriau personol eraill wedi ymwneud yn bennaf â rheoli amser. Rhaid i mi ffitio’r cyfarfodydd, adolygu deunyddiau, a mynychu cyrsiau perthnasol o amgylch prifysgol a gweithio felly mae’n amserlen mor eithaf prysur (yn amlwg mae hynny oherwydd fy ymrwymiadau fel na ddylai atal unrhyw un rhag dod yn ymddiriedolwr gan fod ymrwymiadau amser pawb yn wahanol).
4. Beth y credwch y dylai elusennau wneud i annog mwy o bobl i ddod yn ymddiriedolwr?
Rwy’n credu bod agweddau pwysig ar gyfer elusennau neu sefydliadau corfforedig yn eu hymgyrch i recriwtio mwy o ymddiriedolwyr yn ymwneud â gwneud y rôl yn fwy hygyrch felly hysbysebu’n dda, a’u gwneud yn amlwg eu bod yn chwilio am ystod amrywiol o bobl. Peth arall y gallant ei wneud yn amlwg i bobl yn eu hysbysebion recriwtio yw ymwneud â sgiliau, nid oes gan bawb bob sgil, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu’n awtomatig eu bod wedi’u hanghymhwyso ar gyfer rôl o’r fath. Mae gan bawb ryw sgil felly ni ddylai unrhyw un ofni gwneud cais o leiaf.
5. Beth fyddech chi’n ddweud wrth rywun sy’n meddwl bod yn ymddiriedolwr?
Byddwn i’n dweud wrthoch fynd amdani. Er ei fod yn ymrwymiad difrifol, a’ch bod yn ymroi eich hun i’r mudiad hwnnw hyd y gellir rhagweld, mae wirioneddol yn werth chweil. Os oes gennych angerdd am helpu pobl neu hyd yn oed awydd bach i wneud hynny, ac os ydym yn bod yn onest yma credaf fod gan bob un ohonom yr awydd bach hwnnw oleiaf, yna nid oes llawer o bethau mor foddhaol â gwylio mudiad yn tyfu neu weld prosiect a fydd yn fuddiol i bobl mewn ffordd ystyrlon yn datblygu a gwybod eich bod wedi bod yn rhan o wneud hynny ddigwydd.